Mynnwch sylw eich dysgwyr mewn dosbarthiadau gwyddoniaeth drwy gysylltu eu haddysg â chynaliadwyedd

This resource is also available in English and Irish

Mae gan wyddoniaeth yr atebion i lawer o broblemau cynaliadwyedd y byd, ac mae gwyddonwyr yn gwneud gwaith hollbwysig i ddeall a mynd i’r afael â bygythiadau i’r hinsawdd. Mae gan bobl ifanc ddiddordeb arbennig mewn materion cynaliadwyedd ac felly rydyn ni wedi datblygu ein cyfres ‘Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer gwyddoniaeth gynradd’ i’ch helpu chi i addysgu dysgwyr am gynaliadwyedd yn ystod eich gwersi gwyddoniaeth.

Sut mae defnyddio’r adnoddau hyn

Mae’r gweoedd cynaliadwyedd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd. Mae gan bob gwe ddau gyd-destun cynaliadwyedd gwahanol y gallwch chi eu defnyddio sy’n seiliedig ar yr un pwnc gwyddonol. Awgrymir ystod oedran ar gyfer pob gwe hefyd: 4–7 oed, 7–9 oed neu 9–11 oed.

Mae pob gwe cynaliadwyedd wedi’i dylunio i roi trosolwg sydyn i chi o sut gellir cysylltu cyd-destunau cynaliadwyedd â’r pwnc gwyddonol ac i gynnig gweithgareddau penodol y gallwch chi eu gwneud gyda’ch dosbarth. Nid yw’n darparu cynlluniau gwersi manwl.

Mae’r gweoedd yn amlygu cyfleoedd i ymarfer llythrennedd a rhifedd yn ogystal â sgiliau gwyddonol ehangach, DT a TG.

Does dim ffordd gywir neu anghywir o ddefnyddio’r gweoedd cynaliadwyedd. Rydym yn argymell y ffyrdd canlynol o’u defnyddio:

  1. Eich cefnogi i addysgu gwyddoniaeth drwy ddefnyddio cyd-destunau cynaliadwyedd. Os ydych chi’n ystyried y gweoedd cynaliadwyedd gyda’ch pwnc gwyddoniaeth dan sylw, bydd y gweoedd yn amlygu dau gyd-destun cynaliadwyedd posibl, yn awgrymu gweithgareddau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw yn yr ystafell ddosbarth ac yn cynnig dolenni defnyddiol at ragor o wybodaeth.
  2. Eich helpu i gynllunio ffocws ysgol gyfan neu grŵp blwyddyn gyfan ar gynaliadwyedd. Os ydych chi’n bwriadu canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gall y gweoedd roi syniadau i chi ynglŷn â chyd-destunau cynaliadwyedd a gweithgareddau diddorol ar draws gwahanol grwpiau oedran. Byddan nhw’n cysylltu â phynciau’r cwricwlwm mewn gwyddoniaeth, ond hefyd yn awgrymu mannau cychwyn ar gyfer ymarfer sgiliau llythrennedd, rhifedd, DT a TG.

Pa bynnag ffordd y byddwch yn ystyried y gweoedd, rydym yn argymell defnyddio’r cyd-destunau fel bachyn neu angor mewn pwnc. Bachyn neu angor yw lle mae’r syniad yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno’r pwnc mewn ffordd ystyrlon. Yn ystod y wers, pan fydd y plant yn gweld y cysylltiad am y tro cyntaf, byddan nhw’n cael cyd-destun ystyrlon ar gyfer y pwnc gwyddoniaeth maen nhw’n dysgu amdano. Gall hefyd ddatblygu eu syniadau ynghylch cynaliadwyedd a mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol. Gallwch ddefnyddio’r cyd-destunau hyn i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn ffordd wyddonol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o ble mae gwyddonwyr yn cael effaith ystyrlon wrth fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd.

Llwytho’r canllaw hwn i lawr

Cipolwg ar y gyfres

Gallwch gael trosolwg o’r pynciau a’r cyd-destunau mae’r gyfres yn ymdrin â nhw.

Sut mae defnyddio’r adnoddau hyn

Defnyddiwch ein canllaw i ganfod sut i fanteisio i’r eithaf ar y gweoedd pynciau wrth addysgu.

Llwytho’r cyfan i lawr