Defnyddiwch arsylwi ein hamgylchedd a thywydd annisgwyl fel cyd-destunau ar gyfer addysgu ynghylch newidiadau tymhorol

This resource is also available in English and Irish

Mae gwyddonwyr yn arsylwi ac yn mesur ein hinsawdd a’n tymhorau er mwyn deall newid yn yr hinsawdd. Mae’r we pynciau hon yn cynnwys syniadau am gyd-destunau cynaliadwyedd ac awgrymiadau am weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu plant 4-7 oed ynghylch newidiadau tymhorol. Sylwch ar newidiadau yn eich amgylchedd yn ystod y tymhorau gwahanol, neu ewch ati i drafod ac arsylwi tywydd disgwyliedig ac annisgwyl yn eich ardal.

Mae pob gwe yn egluro’r wyddoniaeth gefndirol, yn disgrifio sut mae gwyddonwyr yn gweithio yn y maes hwn, ac yn awgrymu ffyrdd o archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i ddefnyddio’r we pynciau hon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfanswm o 20 gwe pynciau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r we pynciau hon wrth addysgu.

Gwe pynciau 1: Arsylwi newidiadau tymhorol

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae’r Ddaear wedi’i gwyro ar ei hechelin. Wrth i ni gylchdroi o amgylch yr Haul dros gyfnod o flwyddyn, weithiau hemisffer y gogledd sy’n nes at yr Haul, ac weithiau hemisffer y de sydd agosaf ato. Hyn sy’n achosi ein tymhorau. Pan fydd y tymhorau’n newid, byddwn yn gweld gwahanol dymereddau, tywydd, newidiadau i fywyd planhigion ac ymddygiad anifeiliaid. Mae cynhesu byd-eang yn golygu bod tymheredd y Ddaear yn codi, ac mae hynny’n achosi newidiadau annisgwyl yn y tywydd, fel glaw trwm neu danau gwyllt.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Rhan allweddol o’r dull gwyddonol yw arsylwi dros amser. Yn yr Antarctig, does dim llawer o ddylanwad gan bobl ac anifeiliaid, felly dyma’r lle perffaith i fesur newidiadau yn nhymheredd y Ddaear. Mae gwyddonwyr yn cymryd yr un mesuriadau bob dydd i chwilio am batrymau ac anghysondebau (data anarferol). Mae mesuriadau rheolaidd wedi dangos bod tymheredd arwyneb y Ddaear yn codi. Newid yn yr hinsawdd ydy hyn sy’n cael ei achosi gan weithgareddau pobl.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Ewch am ‘dro sylwi’ i edrych ar yr awyr (a yw’n heulog? yn gymylog? yn bwrw glaw?), teimlwch y tymheredd (a yw’n gynnes? yn oer? yn rhewi?) ac ystyriwch beth allwch chi ei glywed (adar? gwynt yn y coed?). Gall y dysgwyr ysgrifennu pennill o gerdd gan ddefnyddio “Dwi’n gweld… Dwi’n clywed… Dwi’n teimlo…”. Cysylltwch â llythrennedd drwy ailadrodd y gweithgaredd bob tymor ac adolygu’r cerddi sydd wedi’u cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Dewiswch lecyn yn yr ysgol neu gerllaw lle gallwch weld planhigion a’r awyr. Tynnwch lun neu fideo byr. Gofynnwch i’r dysgwyr dynnu’r un llun bob wythnos neu fis. Rhowch y rhain at ei gilydd ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn gweld y newidiadau gyda’i gilydd. Ar beth wnaethon nhw sylwi?
  • Llenwch hambwrdd metel gyda dŵr a phethau naturiol maen nhw wedi dod o hyd iddynt, ac yna ei rewi. Rhowch yr hambwrdd tu allan ac amseru pa mor hir mae’n ei gymryd i doddi. Cofnodwch y data mewn tabl. Gwnewch hyn bob tymor. Gallai’r dysgwyr gyflwyno’r data mewn fformat graffigol. Gofynnwch iddyn nhw pa mor hir mae’n ei gymryd i doddi yn y gaeaf o’i gymharu â’r haf? Sut mae’r dail yn edrych yn wahanol yn yr hydref o’i gymharu â’r gwanwyn? Gwnewch ddisg tymor ar gyfer pob tymor a’u cymharu.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Llythrennedd; TGCh; rhifedd; arsylwi dros amser; cymharu, cofnodi a thrin data; newidiadau tymhorol; deunyddiau

Gwe pynciau 2: Tywydd annisgwyl

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael ei achosi gan fwy o lygredd yn sgil gweithgareddau pobl. Cofnodwyd y tymereddau poethaf erioed dros y saith mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi amharu ar y patrymau tywydd disgwyliedig mewn rhai rhanbarthau, ac wedi achosi llifogydd eithafol, sychder, stormydd, tywydd poeth eithriadol a thanau. Mae’r llifogydd yn cael eu hachosi oherwydd bod y tymheredd uwch yn yr atmosffer yn golygu bod yr aer yn gallu dal mwy o ddŵr, ond pan fydd yn oeri gall y glaw ychwanegol achosi fflachlifogydd.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Mae cemegwyr atmosfferig yn dadansoddi data glawiad i ganfod patrymau ac yn cyflwyno’r data mewn graffiau. Maen nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i godi ymwybyddiaeth o’r problemau a achosir gan newid yn yr hinsawdd ac i ragweld beth allai ddigwydd i’n tywydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae ymgyrchwyr fel Greta Thunberg yn annog llywodraethau i gymryd camau i leihau llygredd er mwyn helpu i arafu cynhesu’r Ddaear.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

Trafodwch gyda’r dysgwyr sut dywydd a ddisgwylir yn eich ardal chi y tymor hwnnw. Yna trafodwch beth fyddai’n cael ei ystyried yn dywydd annisgwyl. Gallen nhw gyflwyno eu syniadau ar fap meddwl. (Does dim terfyn ar yr hyn y gellir ei gynnig: mae llifogydd yn annisgwyl, felly hefyd pysgod yn disgyn o’r awyr!) Gallai’r dysgwyr ofyn i oedolion gartref os ydyn nhw’n cofio gweld tywydd annisgwyl. Cysylltwch â llythrennedd drwy ofyn i’r dysgwyr ysgrifennu’r hyn maen nhw wedi’i ddarganfod.

Defnyddiwch stori Katie Morag ‘An island home’ i archwilio cysylltiadau daearyddol drwy gymharu’r tywydd mewn gwahanol ardaloedd.

Edrychwch ar y tywydd y tu allan a defnyddiwch sgiliau rhifedd i gofnodi sesiynau chwarae gwlyb ac ychwanegwch ato drwy gydol y flwyddyn. A oes mwy o sesiynau chwarae gwlyb yn ystod rhai misoedd o’i gymharu ag eraill? A oedd diwrnod yn yr haf lle cafodd yr ysgol sesiwn chwarae gwlyb annisgwyl? A yw’r gaeaf wedi bod yn gynhesach nag arfer?

Lluniwch danc casglu dŵr glaw y tu allan i’ch ystafell ddosbarth. Gallai fod yn botel ddŵr wag gyda mesuriadau wedi’u marcio ar yr ochr. Gofynnwch i’r dysgwyr roi gwybod i chi pan fydd y dŵr yn cyrraedd lefel benodol. A yw’n gorlifo o gwbl? Ydy hynny’n ddisgwyliedig neu’n annisgwyl?

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Llythrennedd; TGCh; rhifedd; arsylwi dros amser; mesur a chofnodi; newidiadau tymhorol

Rhowch gynnig ar yr adnoddau ychwanegol hyn

Downloads