Defnyddiwch y deunyddiau mewn ffonau symudol a sut mae gwahanol ddeunyddiau’n pydru fel cyd-destunau ar gyfer addysgu am ddeunyddiau

This resource is also available in English and Irish

Beth yw’r stori y tu ôl i’r deunyddiau mewn ffonau symudol? Sut mae sylweddau naturiol yn pydru’n wahanol i wastraff plastig? Mae’r we pynciau hon yn cynnwys syniadau am gyd-destunau cynaliadwyedd ac awgrymiadau am weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu plant 9-11 oed ynghylch deunyddiau. Trafodwch gefndir y deunyddiau mewn ffonau symudol neu archwiliwch sut mae gwahanol ddeunyddiau’n pydru.

Mae pob gwe yn egluro’r wyddoniaeth gefndirol, yn disgrifio sut mae gwyddonwyr yn gweithio yn y maes hwn, ac yn awgrymu ffyrdd o archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i ddefnyddio’r we pynciau hon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfanswm o 20 gwe pynciau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r we pynciau hon wrth addysgu.

Gwe pynciau 1: Gwir gost eich ffôn symudol

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae swyddogaethau ffonau clyfar yn dibynnu ar grŵp o elfennau o’r enw ‘metelau prinfwynau’. Maen nhw’n cael eu defnyddio yn y cylchedweithiau, yr unedau dirgryn, y seinyddion, y gwaith sgleinio ac yn y sgrin lliw. Fel mae’r enw’n awgrymu, maen nhw’n ‘brin’. Mae’r metelau eraill sy’n cael eu defnyddio mewn ffonau clyfar hefyd ar gael yn gyfyngedig neu byddant wedi’u disbyddu mewn canrif neu lai. Gellir cynhyrchu cydrannau hefyd o ‘elfennau gwrthdaro’ fel twngsten, tun, ac aur. Mae gwyddonwyr yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn cynnal y cyflenwad.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Rhoddodd gwyddoniaeth ffonau symudol i’r byd, a gwyddoniaeth sy’n arwain y ffordd o ran cynnal eu cynaliadwyedd. Paratowyd tabl cyfnodol o elfennau a ddefnyddir yn y dyfeisiau hyn er mwyn tynnu sylw at y problemau cynaliadwyedd. Mae cemegwyr yn chwilio am opsiynau eraill yn lle metelau prin, neu fetelau sy’n ddadleuol o ran y ffordd maen nhw’n cael eu cloddio, ynghyd â ffyrdd mwy effeithlon o’u tynnu allan o hen ffonau sy’n cael eu hailgylchu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod llawer o dechnolegau ‘gwyrdd’ newydd hefyd yn dibynnu ar yr elfennau hyn.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gofynnwch i’r dysgwyr fynd i’r afael â materion cynaliadwyedd o ran cydrannau ffonau symudol. Rhannwch ffynonellau gwybodaeth fel y fideo a’r poster ‘Elfennau Ffôn Clyfar’. Bydd y tabl cyfnodol o elfennau yn eu helpu i weld y problemau sy’n bodoli o ran cynaliadwyedd yr elfennau.
  • Cynhaliwch ‘Diemwnt Naw’ lle gall dysgwyr asesu eu hagweddau tuag at ffonau symudol. Lluniwch naw cerdyn, bob un â datganiad arno yn ymwneud â ffonau symudol. Er enghraifft:
  • Mae llafur plant yn aml yn cael ei ddefnyddio i gloddio alwminiwm, aur a chobalt – mae’r rhain i gyd yn cael eu defnyddio i wneud ffonau clyfar.
  • Mae gan 52% o bobl rhwng 16 a 24 oed 10 neu fwy o ddyfeisiau electronig yn eu cartrefi.
  • Wedyn gall y dysgwyr roi’r datganiadau mewn diemwnt (1-2-3-2-1) gyda’r ffaith ‘bwysicaf’ ar y top.
  • Yn ABCh gallai’r dysgwyr drafod agweddau. Yn rhifedd, gallai’r dysgwyr gynnal arolwg o nifer y dyfeisiau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y cartref a chofnodi eu canlyniadau. Yn llythrennedd, gallai’r dysgwyr weithio mewn grwpiau i greu cyflwyniadau ar y materion a godwyd.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Pethau byw a’u cynefinoedd; rhifedd; llythrennedd; ABCh; daearyddiaeth

Gwe pynciau 2: Sut mae adnoddau’n pydru

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae deunyddiau naturiol wedi bod yn pydru heb achosi niwed, ac yn cael eu hail-ymgorffori i mewn i’r Ddaear drwy gydol ei hanes. Fodd bynnag, mae rhai cynnyrch synthetig yn pydru’n araf iawn ac yn aros mewn safleoedd tirlenwi a moroedd am ganrifoedd gan ollwng cemegau gwenwynig wrth iddyn nhw ddiraddio. Mae cynaliadwyedd adnoddau’r Ddaear yn y dyfodol yn dibynnu ar allu lleihau gwastraff niweidiol.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Mae gwyddonwyr yn gweithio tuag at gynhyrchu plastigau o ddeunyddiau naturiol sy’n pydru heb achosi niwed. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i ffyrdd mwy cynaliadwy o waredu plastigau, er enghraifft mae plastig o startsh ŷd yn cael ei ddefnyddio mewn bagiau compost a bagiau baw ci. Mae PET, sef un o’r plastigau mwyaf cyffredin, yn gallu cael ei ddadelfennu erbyn hyn gan ddefnyddio ensymau. Wrth ddiraddio, mae’n bosibl i greaduriaid fwyta’r plastigau sydd yn y môr, felly mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn datblygu strwythurau y gellir eu defnyddio i gasglu gweddillion morol.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Dangoswch fideo treigl amser o ffrwythau’n pydru. Bioddiraddadwyedd yw’r enw ar y pydredd sy’n digwydd oherwydd bacteria. Fel arfer, ni fydd plastigau yn bioddiraddio.
  • Gwisgwch fenig glân i blicio afal. Torrwch yr afal yn ei hanner ar arwyneb glân. Rhowch un hanner mewn jar (wedi’i diheintio os oes modd) a chau’r caead yn dynn. Gafaelwch yn yr hanner arall (a’i basio o gwmpas i bobl eraill gyffwrdd ynddo). Rhowch yr hanner hwn mewn jar sydd yn union yr un fath (heb ei diheintio) a’i selio. Gofynnwch iddyn nhw ragfynegi beth allai ddigwydd.
  • Dros gyfnod o ddwy i dair wythnos, bydd ail hanner yr afal yn pydru’n llawer cyflymach, a bydd amrywiaeth o lwydni yn tyfu arno yn dibynnu ar y bacteria ar ddwylo pobl. (Gallwch gysylltu hyn â hylendid personol yn ABCh.)
  • Argraffwch ffotograffau o ddeunyddiau cyffredin i’w trefnu yn ôl ‘amser pydru’. Gan ddefnyddio nodiadau gludiog, gofynnwch i’r dysgwyr amcangyfrif amser pydru pob gwrthrych.
  • Defnyddiwch sgiliau rhifedd i gynrychioli amseroedd pydru ar graff a chyfrifo’r gwahaniaethau rhwng amser pydru pob gwrthrych. Gall y dysgwyr hefyd greu llinell amser o wrthrychau sy’n pydru, ac yn y sesiynau llythrennedd gallen nhw ysgrifennu neu drafod yr hyn y dylid ei ystyried yn sbwriel. Dylen nhw ddefnyddio geirfa fel bioddiraddadwy ac anfioddiraddadwy. 

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Pethau byw a’u cynefinoedd; arsylwi a mesur; rhifedd; llythrennedd; ABCh; cyflyrau mater; micro-organebau

Rhowch gynnig ar yr adnoddau ychwanegol hyn