Defnyddiwch ailgylchu a faint o sbwriel a gynhyrchir yn eich ysgol fel cyd-destunau ar gyfer addysgu am ddeunyddiau

This resource is also available in English and Irish

Sut gallwn ni ddosbarthu deunyddiau i’w hailgylchu? Sut gallwn ni ddarganfod faint o sbwriel sy’n cael ei gynhyrchu yn ein hysgol? Mae’r we pynciau hon yn cynnwys syniadau am gyd-destunau cynaliadwyedd ac awgrymiadau am weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu plant 4-7 oed ynghylch deunyddiau. Archwiliwch ailgylchu deunyddiau ac uwchgylchu dillad, neu ymchwiliwch i faint o wastraff sydd yn eich ysgol yn ogystal â’r gwahanol fathau o wastraff.

Mae pob gwe yn egluro’r wyddoniaeth gefndirol, yn disgrifio sut mae gwyddonwyr yn gweithio yn y maes hwn, ac yn awgrymu ffyrdd o archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i ddefnyddio’r we pynciau hon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfanswm o 20 gwe pynciau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r we pynciau hon wrth addysgu.

Gwe pynciau 1: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu

Beth yw’r wyddoniaeth?

Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, mae’r defnydd o adnoddau’n cynyddu hefyd. Mae cael gwared ar bethau yn wastraff o ynni a’r adnoddau hyn. Mae hefyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Mae gwastraff nad yw’n fioddiraddadwy ac nad yw’n cael ei ailgylchu yn llenwi’r môr a safleoedd tirlenwi. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt, yr amgylchedd naturiol ac iechyd y cyhoedd.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Mae ymchwilwyr yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella’r broses ailgylchu. Mae technegwyr dadansoddol yn datblygu ffyrdd o newid strwythur plastigau fel eu bod yn fioddiraddadwy yn yr amgylchedd naturiol. Mae’r llywodraeth hefyd wedi gosod targedau ailgylchu yn ymwneud â phlastigau a deunyddiau eraill. Mae’r hierarchaeth adnoddau yn ddefnyddiol o ran dangos sut i fynd ati i ddefnyddio a chael gwared ar adnoddau yn nhrefn blaenoriaeth.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gallai’r dysgwyr archwilio’r defnydd o ffynonellau eilaidd drwy wylio fideos a dysgu mwy am yr hyn a elwir yn 3R yn Saesneg – Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu. Gallen nhw nodi, dosbarthu a didoli deunyddiau (e.e. gwydr, plastig, papur) a nodi p’un a fydden nhw’n eu lleihau, yn eu hailddefnyddio neu’n eu hailgylchu.
  • Ystyriwch sut i ailddefnyddio deunyddiau drwy edrych ar luniau ac eitemau go iawn sydd wedi cael eu ‘huwchgylchu’ (hynny yw, eu hailddefnyddio mewn ffordd greadigol). Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am eu dillad a chyflwynwch y term ‘Ffasiwn Cyflym.’ Ystyriwch beth mae hyn yn ei olygu drwy ddefnyddio fideos ac ymchwil. Gallen nhw ddysgu sut byddai pobl ers talwm yn aml yn gwneud eu dillad eu hunain/ail-bwrpasu, ac yn eu trwsio.
  • Gallai’r dysgwyr ystyried ‘stori’ eu dillad gan ddefnyddio labeli i ymchwilio i ddeunyddiau a tharddiad. Gallen nhw feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wneud gyda’u dillad pan nad ydyn nhw’n eu gwisgo mwyach. Gallai’r dysgwyr ystyried priodoleddau’r deunydd sy’n ei wneud yn addas ar gyfer rhyw ddefnydd penodol. Gallai’r dysgwyr ddod â hen grys-T o gartref a’i ail-bwrpasu, er enghraifft yn fag.
  • Gallai hyn gysylltu â DT (tecstilau) wrth i ddysgwyr ddefnyddio/datblygu eu sgiliau gwnïo, drwy wnïo botymau ar yr eitem neu wneud gwaith trwsio syml. Gallen nhw ysgrifennu cyfarwyddiadau (i gysylltu â llythrennedd).

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Deunyddiau; DT (tecstilau); llythrennedd; ymchwilio gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd.

Gwe pynciau 2: I ble mae ein sbwriel yn mynd?

Beth yw’r wyddoniaeth?

Yn y DU, mae pob unigolyn yn creu tua 400 kg o wastraff bob blwyddyn. Mae gwastraff bwyd yn bryder - mae saith miliwn o dunelli yn cael ei daflu bob blwyddyn. Mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi ac mae hynny’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Safleoedd tirlenwi ydy un o’r pethau sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Maen nhw’n cynhyrchu ac yn rhyddhau bio-nwy i’r atmosffer. Gall halogi’r pridd a’r dŵr ac achosi tanau a hyd yn oed ffrwydradau o bryd i’w gilydd.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Mae gan wyddonwyr ran bwysig i’w chwarae o ran pecynnu bwyd a datblygu deunyddiau amgen er mwyn lleihau faint o wastraff plastig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae ymchwilwyr yn gweithio tuag at leihau gwastraff bwyd diangen drwy ddatblygu labeli bwyd i helpu defnyddwyr i ddeall pryd mae bwyd yn difetha; fe allai hynny arbed hyd at 63% o fwyd rhag cael ei wastraffu mewn teulu cyffredin.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gallai’r dysgwyr ymchwilio i ddefnyddio ffynonellau eilaidd drwy ddarganfod faint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU, gan gynnwys gwastraff bwyd, ac o ble y daw hyn. Gallen nhw ofyn eu cwestiynau eu hunain a dod o hyd i’r atebion.
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ystyried y cwestiynau, ‘Faint o sbwriel sy’n cael ei gynhyrchu yn ein hysgol?’ a ‘Sut gallen ni ddod o hyd i’r ateb?’.
  • Gallai’r dysgwyr ddylunio eu ffyrdd eu hunain o ateb y cwestiynau hyn, fel pwyso’r biniau yn yr ystafell ddosbarth ar ddiwedd pob diwrnod. Gallen nhw gymharu â gwahanol ddosbarthiadau, a chymharu faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi o’i gymharu â faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu.
  • Gallai’r dysgwyr hefyd ymchwilio i wastraff bwyd drwy bwyso’r biniau gwastraff bwyd ar ddiwedd pob amser cinio yn ystod yr wythnos, ac yna cofnodi eu canlyniadau.
  • Os nad oes gan yr ysgol lecyn compostio, gallai’r dysgwyr ddefnyddio eu canfyddiadau i berswadio’r pennaeth sut y byddai cael un yn syniad da. Gallen nhw ysgrifennu llythyrau neu roi cyflwyniad i helpu i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd. Neu fe allen nhw greu abwydfa syml mewn gwers DT ac ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny.
  • Gall y dysgwyr ddatblygu eu sgiliau mathemateg drwy bwyso a mesur a chyflwyno eu canlyniadau mewn graffiau/siartiau.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Ymchwilio i ddefnyddio ffynonellau eilaidd; gwneud cymariaethau teg; DT; cofnodi a thrin data; llythrennedd; arsylwi pethau byw; mathemateg.

Rhowch gynnig ar yr adnoddau ychwanegol hyn

 

Downloads