Defnyddiwch llygredd yn y cylch dŵr a sut gallwn ni ddefnyddio llai o ddŵr fel cyd-destunau ar gyfer addysgu ynghylch newidiadau tymhorol

This resource is also available in English and Irish

Sut mae llygredd yn effeithio ar fynediad pobl at ddŵr glân? Faint o ddŵr ydyn ni’n ei ddefnyddio bob dydd ac a oes modd i ni ddefnyddio llai? Mae’r we pynciau hon yn cynnwys syniadau am gyd-destunau cynaliadwyedd ac awgrymiadau am weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu plant 7–9 oed ynghylch dŵr a’r cylch dŵr. Amcangyfrifwch faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, neu edrychwch ar lygredd yn y cylch dŵr a sut gallwch chi lanhau dŵr budr.

Mae pob gwe yn egluro’r wyddoniaeth gefndirol, yn disgrifio sut mae gwyddonwyr yn gweithio yn y maes hwn, ac yn awgrymu ffyrdd o archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i ddefnyddio’r we pynciau hon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfanswm o 20 gwe pynciau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r we pynciau hon wrth addysgu.

Gwe pynciau 1: Sut mae llygredd yn effeithio ar y cylch dŵr

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae llawer o bethau sy’n effeithio ar y cylch dŵr ac ar fynediad pobl at ddŵr glân. Llygredd ydy un o’r pethau hyn. Er bod dŵr yn gorchuddio 70% o’r Ddaear, dim ond 3% ohono sy’n ddŵr croyw ac mae llai nag 1% ohono yn barod i’w ddefnyddio gan bobl. Mae llawer o lygryddion sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys dŵr ffo amaethyddol, dŵr storm ffo ac allyriadau cerbydau. Mae biliynau o bobl yn dal heb fynediad at ddŵr glân.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Mae gwyddonwyr yn gallu monitro lefelau deunyddiau organig mewn dŵr yfed a dŵr gwastraff i sicrhau bod y dŵr yn ein tapiau yn ddiogel i’w yfed. Mae peirianwyr NASA wedi datblygu system puro sy’n ailgylchu aer a dŵr ar fwrdd yr orsaf ofod. Mae’r dechnoleg ddatblygedig hon hefyd wedi bod yn cael ei defnyddio mewn gwledydd sydd mewn perygl er mwyn gwella mynediad at ddŵr glân.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gallai’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil eilaidd drwy ddysgu am lygredd dŵr a hidlo dŵr, yn ogystal â dysgu am fynediad at ddŵr mewn gwahanol wledydd.
  • Gallai’r dysgwyr adael cynwysyddion y tu allan mewn gwahanol lecynnau i gasglu dŵr glaw dros gyfnod o wythnos neu fis. Gallen nhw weld beth sy’n casglu yn y gwahanol gynwysyddion a chymharu’r rhain â dŵr glân.
  • Wedyn, gallai’r dysgwyr ddefnyddio’r dŵr hwn neu gymysgedd sy’n cynnwys gwahanol ddeunyddiau fel tywod a phridd i ymchwilio i ffyrdd o wahanu’r deunyddiau i ‘lanhau’ y dŵr. Rhowch amrywiaeth o offer iddyn nhw, fel gograu, papur hidlo, twmffatiau ac ati, a gosodwch her iddyn nhw ‘lanhau’ y dŵr.
  • Mae sgiliau llythrennedd yn cynnwys ysgrifennu am y broses o wahanu’r gymysgedd. Gallai’r dysgwyr greu poster darbwyllol i addysgu eraill ynghylch y bobl sydd heb fynediad at ddŵr yfed glân. Mae cysylltiadau trawsgwricwlaidd ag ABCh yn cynnwys dysgu am waith elusennau fel Water Aid.
  • Mae ‘The Drop in my Drink’ gan Meredith Hooper a ‘The Rhythm of the Rain’ gan Grahame Baker-Smith yn llyfrau defnyddiol. Gallai’r dysgwyr greu comics i ddangos taith dŵr, gan gynnwys lle gellir ychwanegu llygryddion.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Ymchwilio ac arsylwi; llythrennedd; cyflyrau mater; cylch dŵr; gwahanu sylweddau; cynefinoedd; y Ddaear a’r gofod; ABCh

Gwe pynciau 2: Sut gallwn ni arbed dŵr

Beth yw’r wyddoniaeth?

Ar gyfartaledd, mae pob unigolyn yn defnyddio tua 140 litr o ddŵr bob dydd yn y DU. Fodd bynnag, mae o hyd biliynau o bobl ledled y byd heb fynediad at ddŵr glân. Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o lifogydd a sychder ledled y byd. Erbyn 2025, gallai dwy ran o dair o boblogaeth y byd wynebu prinder.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Gwnaed llawer o ddatblygiadau arloesol dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn helpu pobl i ddeall a lleihau faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio. Erbyn hyn, mae gan bum deg y cant o gartrefi yn y DU Fesuryddion Deallus a all leihau faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfartaledd. Mae gwyddonwyr hefyd yn profi dŵr i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i bobl ei ddefnyddio.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gofynnwch i’r dysgwyr feddwl am wahanol ffyrdd o ddefnyddio dŵr a pha rai maen nhw’n credu sy’n defnyddio’r mwyaf o ddŵr. Gallen nhw eu grwpio yn dri chategori: domestig, amaethyddiaeth a diwydiant. Gallen nhw ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy ddarganfod faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth a diwydiant.
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ragfynegi faint o ddŵr mae rhywun arferol yn y DU yn ei ddefnyddio bob dydd. Gallech chi ddangos hyn gyda photel 2 litr a gofyn iddyn nhw faint o’r rhain maen nhw’n credu y byddai’n ei llenwi. Cymharwch hyn â rhywun mewn gwlad lle mae dŵr yn fwy cyfyngedig.
  • Gallai’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau arsylwi a mesur, yn ogystal â chofnodi a dehongli data i ymchwilio i faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio drwy gydol y dydd. Gallen nhw greu a defnyddio siart cyfrif i gofnodi sawl gwaith maen nhw’n golchi eu dwylo/ llenwi potel ddŵr/cael cawod/defnyddio’r toiled ac ati. Gellir darparu’r data sydd ar gael i’w helpu i gyfrifo faint o ddŵr maen nhw wedi’i ddefnyddio.
  • Yna gallen nhw ystyried ffyrdd o arbed dŵr yn eu cartrefi eu hunain a dylunio poster i berswadio eu teuluoedd i ddefnyddio llai o ddŵr.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Arsylwi; mesur; cofnodi a dehongli data; ymchwil eilaidd; llythrennedd; cylch dŵr

Rhowch gynnig ar yr adnoddau ychwanegol hyn