Defnyddiwch didoli plastigau i’w hailgylchu a thoddi plastig i greu rhywbeth newydd fel cyd-destunau ar gyfer addysgu am ddeunyddiau

This resource is also available in English and Irish

Sut gallwn ni sicrhau bod ein gwastraff plastig yn cael ei ailgylchu? Ydy plastigau’n toddi? Mae’r we pynciau hon yn cynnwys syniadau am gyd-destunau cynaliadwyedd ac awgrymiadau am weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu plant 7-9 oed ynghylch deunyddiau. Archwiliwch wahanol fathau o blastig ac a oes modd eu hailgylchu, neu dysgwch sut y gellir toddi ac ailffurfio plastigau i greu rhywbeth newydd.

Mae pob gwe yn egluro’r wyddoniaeth gefndirol, yn disgrifio sut mae gwyddonwyr yn gweithio yn y maes hwn, ac yn awgrymu ffyrdd o archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i ddefnyddio’r we pynciau hon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Cyd-destunau cynaliadwyedd ar gyfer addysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r gyfres yn cynnwys cyfanswm o 20 gwe pynciau sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi i gysylltu eich darpariaeth addysgu bresennol ar gyfer y cwricwlwm â materion cynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r we pynciau hon wrth addysgu.

Gwe pynciau 1: Didoli plastigau i’w hailgylchu

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae gan blastig lawer o fanteision - mae’n ysgafn, yn para ac yn hyblyg. Fodd bynnag, mae sawl math o blastig sy’n ei gwneud yn anoddach i’w ddidoli a’i ailgylchu na deunyddiau eraill. Nid yw’r rhan fwyaf o blastig yn fioddiraddadwy a gall gymryd blynyddoedd i bydru. Bob blwyddyn, mae tua wyth miliwn o dunelli o wastraff plastig yn cyrraedd y môr. Mae anifeiliaid yn gallu mynd yn sownd yn y plastig neu ei fwyta, ac mae llawer ohonyn nhw’n marw o ganlyniad.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Yn 2016, darganfu gwyddonwyr yn Japan ensym a allai ddiraddio math o blastig sy’n cael ei ddefnyddio’n eang i wneud poteli plastig a chynwysyddion bwyd. Mae ymchwilwyr yn y DU hefyd wedi datblygu dulliau newydd i’w galluogi i ailgylchu bioblastigau yn gynnyrch newydd. Mae cwmnïau fel Tetra Pak yn datblygu pecynnu cynaliadwy o ddeunyddiau seiliedig ar blanhigion.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Rhoi detholiad o wahanol blastigau i’r dysgwyr. Gofynnwch iddyn nhw nodi a grwpio’r plastigau yn ôl eu priodoleddau a thrafod pa rai y gellir eu hailgylchu. Gallen nhw ymchwilio i ba blastigau sy’n cael eu hailgylchu amlaf, canran y plastigau hyn sy’n cael eu hailgylchu bob blwyddyn, a faint o flynyddoedd y bydd pob math o blastig yn ei gymryd i ddiraddio. Gallen nhw gymharu hyn â pha mor hir mae’n ei gymryd i ddeunyddiau eraill ddiraddio e.e. papur. Gallen nhw hefyd edrych ar eu hôl-troed plastig eu hunain.
  • Cyflwynwch y dysgwyr i wefan Tetra Pak ac ystyriwch yr heriau sy’n gysylltiedig ag ailgylchu. Defnyddiwch y wefan i ymchwilio i’r gwahanol gynlluniau rhanbarthol sy’n bodoli i gasglu ac ailgylchu pecynnau Tetra Pak. Ewch ati i ddarganfod a ydy eich ysgol chi’n gwneud hyn ar hyn o bryd. Os nad yw, gallech chi ymchwilio i ymarferoldeb hyn drwy ddidoli eitemau Tetra Pak yn finiau ar wahân am wythnos i weld faint sydd yno. Gallech chi edrych ar yr adran ‘Ailgylchu yn yr Ysgol’ ar y wefan; mae’n cynnwys gweithgareddau, cwisiau a ffeithiau difyr i ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr ynghylch ailgylchu plastigau.
  • Gallai’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd drwy gynnal trafodaeth am blastig untro neu’r dreth ar blastig. Neu, gallen nhw ddefnyddio ysgrifennu darbwyllol i annog pobl i ddefnyddio llai o blastig.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Pethau byw a’u cynefinoedd; llythrennedd; deunyddiau; ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd

Gwe pynciau 2: Sut mae modd toddi plastigau a’u hailffurfio i greu rhywbeth arall

Beth yw’r wyddoniaeth?

Mae plastigau yn bolymerau gydag amrywiaeth enfawr o gyfansoddiadau cemegol. Mae hyn yn golygu ei bod yn hawdd toddi rhai plastigau, tra bo eraill bron yn amhosibl. Mae cynhyrchu plastigau hefyd yn achosi cryn heriau amgylcheddol. Mae’r rhan fwyaf o blastigau yn cael eu gwneud o gemegau sy’n deillio o danwydd ffosil, ac mae’r rheini’n cyfrannu at allyriadau carbon deuocsid.

Beth mae gwyddonwyr yn ei wneud am hyn?

Ledled y DU, mae pob cyngor bron yn darparu gwasanaeth casglu plastig sy’n ei gwneud yn haws i bobl ailgylchu eu plastigau. Fodd bynnag, dim ond rhai cynnyrch plastig sy’n cael eu hailgylchu o dan y rhaglenni hyn. Mae gwyddonwyryn datblygu plastigau newydd sy’n haws eu hailgylchu, a hefyd yn chwilio am ffyrdd o ailgylchu’r plastigau sy’n bodoli’n barod yn fwy effeithlon. Mae rhai arloeswyr yn datblygu bioblastigau o gnydau planhigion er mwyn creu deunyddiau sy’n fwy ecogyfeillgar.

Sut gallech chi archwilio hyn yn yr ystafell ddosbarth?

  • Gallai’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy wylio fideos ac ymchwilio i’r broses o doddi plastigau i’w hailffurfio a’u hailddefnyddio. Gallen nhw wneud rhagfynegiadau ynglŷn ag ymdoddbwyntiau plastig a deunyddiau eraill.
  • Rhowch ddetholiad o eitemau i’r dysgwyr sydd wedi’u gwneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu (neu luniau o’r eitemau hynny). Gallai’r eitemau gynnwys poteli plastig sydd wedi’u hailddefnyddio i ddangos sut maen nhw wedi cael eu toddi a’u hailffurfio. Gallai hyn arwain at drafodaeth am y broses ailgylchu. Gallai’r dysgwyr wylio fideos ac ymchwilio i wahanol gamau’r broses ailgylchu poteli plastig.
  • Os oes gan eich ysgol offer maes chwarae neu arwynebau wedi’u gwneud o blastig wedi’i ailgylchu, yna gallai’r dysgwyr archwilio deunyddiau wedi’u hailgylchu yn amgylchedd yr ysgol.
  • Gallai’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau mathemateg drwy ddarganfod ymdoddbwyntiau plastigau. Gallen nhw gymharu’r rhain â solidau eraill gan gynnwys rhai maen nhw’n gallu eu toddi yn eu dosbarth, fel siocled neu fenyn. Gallen nhw gofnodi’r data mewn siart bar. Gallen nhw ddefnyddio eu sgiliau llythrennedd i ysgrifennu am daith potel blastig sydd wedi’i thoddi a’i hailffurfio i greu cynnyrch newydd.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Cyflyrau mater; mathemateg; deunyddiau; ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd; trin data; llythrennedd

Rhowch gynnig ar yr adnoddau ychwanegol hyn

 

Downloads