Mae Jamie yn gwella prosesau gwneud dur er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
This profile is available in English
Get the English language version
Helo, Jamie ydw i ac rydw i’n gweithio fel arbenigwr prosesau amgylcheddol yn yr adran Cynaliadwyedd ac Amgylchedd yn Tata Steel, y DU.
Beth mae arbenigwr proses amgylcheddol yn Tata Steel yn ei wneud?
Mae fy swydd yn canolbwyntio ar wella prosesau creu dur integredig i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae Tata Steel yn cynhyrchu cynnyrch dur o ddeunyddiau crai a sgrap ar gyfer amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys adeiladu, gweithgynhyrchu modurol, peirianneg, pecynnu, ac ati.
Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas?
Mae’r prosiectau rydw i’n ymwneud â nhw yn helpu i leihau allyriadau i’r tir, y dŵr a’r aer.
Ystod cyflog: Mae’r cynllun i raddedigion yn £28,500 y flwyddyn, sy’n cynyddu ar ôl cwblhau’r cynllun a’r profiad ychwanegol.
Cymwysterau sylfaenol: Rhaid i chi gael o leiaf 2.1 (wedi’i achredu gan IET) mewn gradd mewn gwyddoniaeth, peirianneg neu ddisgyblaeth berthnasol arall.
Beth yw eich diwrnod cyffredin?
Mae fy swydd yn gymysgedd o gyfarfodydd prosiect, cyfarfodydd adolygu, gwaith ar y safle, gwaith labordy ymchwil a dadansoddi a dehongli data.
Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell?
Roeddwn bob amser yn mwynhau’r agwedd ymarferol ar gemeg, fel cynnal arbrofion labordy. Mae’n caniatáu datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys dadansoddi data, rhoi sylw i fanylion a datrys problemau. Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y prosiectau rydw i’n ymwneud â nhw yn Tata, sy’n cwmpasu cemeg, bioleg a pheirianneg.
Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd?
Mae’r prosiectau rydw i’n gweithio arnyn nhw’n wirioneddol ddiddorol yn wyddonol ac mae graddfa’r broses integredig o greu dur yn golygu y gall unrhyw welliannau graddol arwain at welliannau mawr mewn perfformiad amgylcheddol.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd?
Bydd angen y sgiliau canlynol arnoch:
- dadansoddi data
- rhoi sylw i fanylion
- datrys problemau
- sgiliau labordy
- meddwl y tu allan i’r bocs
- gweithio mewn tîm
- cyfathrebu
- rheoli rhanddeiliaid
- rheoli prosiectau
Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gyrraedd y fan honno?
Fe ddes i o hyd i fy swydd drwy hysbyseb ar LinkedIn.
Fe wnaeth y sgiliau y gwnes i eu datblygu yn y brifysgol ehangu fy nealltwriaeth technegol, ac rydw i wedi gallu defnyddio’r dealltwriaeth hwnnw yn ystod fy nghyfnod yn gweithio yn Tata Steel. Roedd yr amrywiaeth enfawr o sgiliau trosglwyddadwy y gwnes i eu datblygu drwy astudiaethau academaidd (gan gynnwys cyflwyniadau, astudiaethau labordy, gweithdai a’r prosiect ymchwil gradd meistr) yn golygu bod modd symud yn ddidrafferth i amgylchedd proffesiynol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes?
Bydd gradd mewn cemeg yn gwella eich cyflogadwyedd gan ei fod yn wyddor ganolog ac mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu’n ddefnyddiol iawn yn y byd gwaith. Mae’n agor y drws i astudiaeth bellach bosibl drwy radd meistr a/neu PhD neu gyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau.
Beth ydych chi’n gweld eich hun yn ei wneud yn y dyfodol?
Gallaf weld fy hun yn ymgymryd â rôl rheoli sy’n canolbwyntio ar dechnoleg..
Eisiau gwybod mwy?
- Tarwch olwg ar gyfleoedd Tata Steel i raddedigion.
- Visit Tata Steel’s graduate opportunities.
Jamie Barrett MRSC, arbenigwr proses amgylcheddol yn Tata Steel, y DU.
Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru
Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.
Cyhoeddwyd Medi 2022