Tarwch olwg ar ein proffiliau gyrfa newydd a gweld sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth yn ein byd
Browse the English language versions
Mae ymchwil Ian yn helpu i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac wedi arwain at gynhyrchu haenau ar adeiladau sy’n cynhyrchu ynni.
Mae Andrew yn datblygu marciau ar gyfer allanfeydd argyfwng awyrennau, i helpu i gadw teithwyr yn ddiogel.
Mae Geertje yn addysgu myfyrwyr prifysgol ac yn arwain y gwaith o ddatblygu deunyddiau sydd wedi’u creu o facteria.
Mae Gemma yn rheoli’r gwaith o gynhyrchu dur wedi’i araenu â thun a chromiwm o ansawdd uchel ar gyfer eitemau bob dydd sydd i’w cael mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Mae Emma yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng newid yn yr hinsawdd a mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r pridd.
Mae Jill yn sicrhau bod y meddyginiaethau y mae ei chwmnïau cleient yn eu darparu i’r cyhoedd yn cydymffurfio â safonau ansawdd a diogelwch a’u bod yn addas i’r diben.
Mae Emma yn gwarchod ein hiechyd a’r amgylchedd drwy fonitro lefelau llygryddion amgylcheddol yn y tir, yr aer a’r dŵr. Mae hi’n gosod yr amodau ar brosesau diwydiannol er mwyn lleihau faint o lygryddion sy’n cael eu rhyddhau.
Mae Tom yn canfod y dirgelwch y tu ôl i greigiau a mwynau Cymru.
Mae Stephen yn cefnogi llawer o fusnesau i ddod yn gynaliadwy drwy ddefnyddio deunyddiau organig ar gyfer trin dŵr gwastraff.
Mae Jamie yn gwella prosesau gwneud dur er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.