This profile is available in English

Helo. Ian dw i ac rwy’n gweithio fel athro cyswllt mewn cemeg. Fi hefyd yw’r arweinydd menter, partneriaethau ac arloesedd yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth yw gwaith Athro cyswllt mewn cemeg ac Arweinydd menter, partneriaethau ac arloesedd?

Yn ogystal â dysgu myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, dwi hefyd yn ceisio darganfod ffyrdd o gyflawni targedau sero net a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio ar adeiladau sy’n cynhyrchu eu pŵer eu hunain ac sy’n trosglwyddo unrhyw bŵer dros ben i wneud pethau defnyddiol fel pweru trafnidiaeth drydan.

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas?

Yn fwyaf penodol, dwi wedi bod yn gweithio ar dechnolegau haenau adeiladau sy’n gallu cynhyrchu pŵer - er enghraifft haenau ar do sy’n cynhyrchu trydan o’r haul. Defnyddir hyn i ddarparu pŵer i’r adeilad a gellir storio unrhyw ynni dros ben mewn batris i’w defnyddio ar gyfer pethau defnyddiol eraill. Yn y DU, mae hynny fel arfer yn golygu pweru trafnidiaeth drydan, ond dwi hefyd yn gweithio yn India lle caiff yr ynni dros ben ei ddefnyddio i hybu incwm amaethyddol mewn cymunedau tlawd. Yn Ne Affrica, mae’n cael ei ddefnyddio i wella mynediad at ddŵr glân a glanweithdra.

Cyflog: Ymchwilwyr Ôl-Ddoethurol (enghraifft o safle lefel mynediad mewn ymchwil academaidd) – £27,000–£39,000. Mae rhagor o wybodaeth am gyflog darlithydd addysg uwch ar gael yma. Mae rôl yr Athro yn hyblyg - gall y cyflog fod tua £60,000+.

Sgiliau: Mae cyfathrebu’n allweddol. Fy swydd i yw datblygu syniadau i ddatrys heriau ac fe gymerodd amser hir i fi sylweddoli bod siarad â phobl a gweithio fel tîm yn rhan hanfodol o’r gwaith hwnnw.

Beth yw eich diwrnod cyffredin?

Mae fy niwrnod yn amrywio’n fawr! Yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn, gallai diwrnod arferol gynnwys addysgu, siarad â chwmnïau am gymorth ar gyfer prosiect newydd a deall eu hanghenion a’r heriau sy’n eu wynebu, gwneud penderfyniadau cyllido, rhoi adroddiad ar gynnydd prosiect, a siarad â thimau ym mhedwar ban byd am sut i oresgyn rhwystrau yn gyflym gyda’n gwaith. Efallai hefyd y bydda i’n cael sgyrsiau gyda chyngor lleol neu lywodraeth am eu blaenoriaethau - gyda rhywfaint bach o amser i wneud gwaith ymchwil hefyd gobeithio. A dim ond un diwrnod yw hwnnw!

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd?

Y bobl rwy’n gweithio â nhw, y gwahanol bethau dwi’n cyfrannu atynt (popeth o Fformiwla 1 i lanweithdra) ond yn anad dim, sylweddoli bod hyn i gyd yn llawer mwy na fi. Mae’r rhan fwyaf o bobl am gael cyfle i wella pethau gan adael y byd mewn cyflwr ychydig gwell nag ydoedd cynt. Mae gwaith tîm yn allweddol - mewn undeb mae nerth. Does dim un unigolyn allan yna’n datrys holl broblemau’r byd. Dwi’n lwcus o fod yn aelod o dîm sy’n poeni am lesiant cenedlaethau’r dyfodol a gyda’n gilydd rydyn ni’n ceisio gwneud gwahaniaeth.

Sut cawsoch chi’r swydd?

Fe nes i MChem gyda blwyddyn mewn diwydiant mewn ffatri papur llyfnu fel cemegydd resin. Sylweddolais bod cymaint o wyddoniaeth y tu ôl i’r cynnyrch mwyaf di-nod hyd yn oed. Roedd fy mlwyddyn mewn diwydiant wedi siapio fy llwybr ac roedd y prosiect meistr wedi cadarnhau fy nghariad at ymchwil academaidd. Ro’n i’n gwybod bryd hynny fy mod am weithio ar y ffin rhwng diwydiant ac academia.

Yna, cwblheais EngD noddedig a oedd yn cynnwys prosiect ymchwil o fath PhD, traethawd hir a viva yn delio â her diwydiannol, gyda blwyddyn ychwanegol ar gyfer modiwlau dysgu yn rhoi sylw i elfennau technegol yn ogystal â materion fel rheoli a chyllid. Yr her ddiwydiannol a astudiais oedd sut gallen ni gryfhau/caledu haenau’n gynt ac roedd hynny wedi fy arwain i feddwl sut gallen ni gynhyrchu deunyddiau ar gyfer ynni adnewyddadwy yn yr un ffordd. Roedd hyn wedi ehangu fy ngorwelion gan roi set sgiliau ehangach i fi na dim ond y gwaith ymchwil ar ei ben ei hun. Mae wedi fy ngalluogi i roi fy ngwaith mewn cyd-destun ac i gyflwyno dadleuon argyhoeddiadol ac achosion busnes dros newid.

Hefyd roedd siarad ac ymweld â phobl sy’n byw ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn heriau byd-eang wir yn agoriad llygad. Roedd hyn wedi fy ysbrydoli i sylweddoli cyfraniad gwyddonwyr cemegol wrth i ni ystyried ein lle yn y systemau sydd angen eu datblygu i fynd i’r afael â heriau anferth fel newid hinsawdd a mynediad fforddiadwy at ynni glân, dŵr glan a chyfleusterau glanweithdra.

Cymwysterau sylfaenol:  I fy swydd i - lefel doethurol. Serch hynny, mae llawer o swyddi ar bobl lefel ac rydyn ni’n llunio grisiau sgiliau y gall pobl gamu arnynt ac oddi arnynt ar wahanol gyfnodau o’u gyrfa. Er enghraifft, rydyn ni wedi cael pobl yn dechrau fel prentisiaid yn ein gweithfeydd dur lleol, maen nhw’n mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau rhan amser, cael gradd, yna cymhwyster doethur ac wedyn yn dod nôl i’n gweithfeydd gyda phrofiad a gwybodaeth eithriadol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn y gwyddorau cemegol?

Mae gan gemeg rôl hynod bwysig wrth newid y byd. Mae angen i’r egwyddorion cemeg weithio (a gweithio’n economaidd) mewn materion fel datgarboneiddio diwydiannol, trafnidiaeth lân, defnydd mwy cyfrifol a chylchol o ddeunyddiau critigol, yn ogystal â darparu ynni, dŵr a bwyd.

Chwiliwch am rywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol amdano a gwrandewch ar gymaint o safbwyntiau gwahanol am y pwnc ag y gallwch fel bod gennych chi ymwybyddiaeth eang o’r trafodaethau yn y maes. Dangoswch eich egni a’ch angerdd a rhwydweithiwch ar bob cyfle posib. Pan fydd cyfleoedd yn dod ger eich bron, manteisiwch arnyn nhw. Fydd eich gyrfa ddim yn teimlo fel gwaith os ydych chi’n cyfrannu at rywbeth sy’n agos at eich calon.

Dwi’n cyfaddef, fel myfyriwr is-raddedig, doedd gen i ddim syniad beth fydden i’n ei wneud ar gyfer fy noethuriaeth. Mae’n siŵr fy mod yn teimlo y byddai hynny y tu hwnt i’m cyrraedd, felly peidiwch darllen hwn a meddwl na alla i wneud rhywbeth - mae’n fater o ddod o hyd i rywbeth sy’n agos at eich calon fel eich bod yn ymroi’n llwyr i’r gwaith a’ch bod yn credu yn eich hun. Cewch chi’ch synnu gan yr hyn y gallwch ei gyflawni.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Fy mreuddwyd yw gweld newidiadau sydyn yn yr holl systemau o’n cwmpas ac i gydweithio i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft, rhaid i ynni glân a thrafnidiaeth lân fod o fewn ein cyrraedd, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy.

Dwi yn y cyfnod nawr rhwng newid o fod yn gwneud pethau i alluogi pethau i ddigwydd. Fy ngweledigaeth nawr yw tyfu timau a meithrin potensial i fod yn llawer gwell nag yr oeddwn i. Mae’r swydd hon yn cyflawni’r weledigaeth honno. Drwy ddysgu, gallaf rannu’r gwersi a ddysgais dros 20 mlynedd i fyfyrwyr ar ddechrau eu gyrfa. Yna, yn fy rôl ymchwil ac arloesi, gallaf feithrin cydweithwyr sy’n dechrau ar eu camau cyntaf. O fewn fy rôl yn y gyfadran, gobeithio y gallaf greu amgylchedd sy’n hwyluso pobl i ffynnu ac i gyflawni yn wyneb heriau byd-eang anferth.

Eisiau gwybod mwy?

Ian Mabbett FRSC, athro cyswllt mewn cemeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022