Mae Andrew yn datblygu marciau ar gyfer allanfeydd argyfwng awyrennau, i helpu i gadw teithwyr yn ddiogel.

This profile is available in English

Helo, Andrew ydw i, ac rwy’n gweithio fel uwch wyddonydd ymchwil a datblygu ar gyfer STG Aerospace yng Nghwmbrân, de Cymru.

Beth mae uwch wyddonydd ymchwil a datblygu yn ei wneud?

Rwy’n gweithio yn yr Uned Fusnes Systemau Marcio Allanfeydd Argyfwng sy’n datblygu arwyddion a marciau ffoto-ymoleuol ar gyfer llwybrau. Mae gen i nifer o rolau yn y busnes, gan gynnwys:

  • gwerthuso ac ymchwilio i ddeunyddiau neu dechnolegau newydd.
  • rheoli prosiectau ar gyfer datblygu cynnyrch newydd.
  • darparu cymorth i ochr weithredol y cwmni.
  • cynnal cyfarfodydd ag OEMs (Gwneuthurwyr yr Offer Gwreiddiol) fel Boeing ac Airbus.
  • rheoli portffolio Eiddo Deallusol y cwmni.

Side view of Andrew Hallett smiling with a green background.

Source: © STG Aerospace

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas? 

Mae’r diwydiant awyrofod yn ymddiried yn STG Aerospace ar gyfer eu systemau goleuo cabanau a marcio allanfeydd argyfwng. Rwyf wedi bod yn aelod o dîm ymchwil a datblygu ers wyth mlynedd, ac rydym wedi datblygu systemau allanfeydd argyfwng STG, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • cynnal a chadw safonau uchel o ran diogelwch ar gyfer teithwyr awyrennau.
  • lightweight products to lower emission from fuel consumption.
  • cynnyrch ysgafn i leihau allyriadau wrth ddefnyddio tanwydd.
  • gwell estheteg ar gyfer profiad y teithwyr.

Hefyd, rydym yn bwriadu defnyddio rhagor o ddeunyddiau mwy cynaliadwy a pharhau i wella llywodraethiant amgylcheddol a chymdeithasol y cwmni.

 

 

 

 

Ystog cyflog:  Mae’r diwydiant yn fawr yn y DU, felly mae nifer o gyfleoedd i symud ymlaen o ran gyrfa a chyflog.

Cymwysterau sylfaenol:  Mae gradd mewn pwnc perthnasol yn ddymunol yn gyffredinol, ac mae’n helpu. Fodd bynnag, yn STG rydym yn canolbwyntio ar fwy na dim ond cymwysterau. Rydym bob amser yn chwilio am bobl ddyfeisgar, ymroddedig sy’n gweithio’n galed i ymuno â ni.

Beth yw eich diwrnod cyffredin? 

Mae pob diwrnod yn wahanol. Un diwrnod, gallwn fod yn profi sut mae ein cynnyrch yn gweithio o dan y dŵr yn ei labordy. Y diwrnod nesaf, gallwn fod yn ateb cwestiwn technegol gan gwsmer.

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd? 

Yr amrywiaeth.  Mae yna rywbeth newydd a chyffrous i’w wneud bob amser. Fel busnes bach a chanolig ystwyth, rydym yn gallu ymateb i ofynion cwsmeriaid yn gyflym, felly mae’n bwysig bod yn hyblyg iawn gyda blaenoriaethau a galwadau sy’n newid. Mae gwybod bod y gwaith ymchwil rwyf yn ei wneud yn cael effaith uniongyrchol ar gynnyrch yn rhoi boddhad i mi. Mae eu gweld ar awyrennau a gwybod fy mod wedi cyfrannu at rywbeth sy’n helpu i gadw pobl yn ddiogel yn deimlad gwych.

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell? 

Mae cemeg yn cwmpasu amrywiaeth mor eang o bynciau ac mae’n darparu sgiliau hanfodol mewn ymchwil a meddwl yn feirniadol. Mae’r rhain i gyd yn bwysig wrth ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer y diwydiant awyrofod.

Rwyf wir yn mwynhau cydweithio a datrys problemau. Gweld beth yw’r heriau i’r cwsmeriaid a meddwl am ateb hyfyw – dyna sy’n fy nghymell i.

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gyrraedd y fan honno?

Roeddwn i’n gweithio fel cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd fy nghontract ar fin dirwyn i ben. Roedd STG wrthi’n sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yn ne Cymru ac yn hysbysebu am gemegydd i sefydlu a rhedeg labordy newydd. Roedd fy PhD mewn cemeg wedi fy helpu gyda’m cais, gan ei fod yn dangos bod gen i wybodaeth dechnegol mewn maes perthnasol a fy mod yn meddwl mewn ffordd drefnus ac wedi arfer gweithio ar brosiectau manwl.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd? 

Mae’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer fy swydd yn cynnwys datrys problemau, trin data, ysgrifennu adroddiadau, cyfleu a rhannu canlyniadau, rheoli amser, bod yn hyblyg wrth ddelio â blaenoriaethau sy’n newid a gweithio o dan bwysau i gwrdd ag amserlenni. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, mae STG yn gwmni bach ac mae’n hanfodol bod gennych amrywiaeth o sgiliau.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes? 

Mae modd trosglwyddo’r sgiliau rydych yn eu datblygu mewn cemeg i amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiannau gwyddoniaeth a pheirianneg (a diwydiannau eraill hefyd). Gall cefndir ym maes cemeg arwain at swyddi mewn technolegau o’r radd flaenaf mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, yn ogystal â rolau y tu allan i’r labordy. Bydd cwmnïau’n aml yn eich ffafrio oherwydd bod gennych gefndir cadarn, hyd yn oed os nad yw’r swyddi rydych yn ymgeisio amdanynt yn berthnasol yn uniongyrchol – er enghraifft, rheoli prosiectau.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Wrth i ni ysgwyddo heriau ehangach o ran arloesi, hoffwn arwain ar brosiectau newydd sy’n gwthio’r tîm i ddatblygu atebion sy’n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn arweinwyr yn y farchnad. Wrth i’r tîm dyfu a datblygu, ac wrth i’n portffolio amrywio, hoffwn fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau sy’n rhoi hwb ymlaen i ni.

Eisiau gwybod mwy? 

Andrew Hallett, uwch wyddonydd ymchwil a datblygu, STG Aerospace.

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022 

Topics