Mae Emma yn gwarchod ein hiechyd a’r amgylchedd drwy fonitro lefelau llygryddion amgylcheddol yn y tir, yr aer a’r dŵr. Mae hi’n gosod yr amodau ar brosesau diwydiannol er mwyn lleihau faint o lygryddion sy’n cael eu rhyddhau.
This profile is available in English
Get the English language version
Helo Emma ydw i ac rydw i’n gweithio fel swyddog rheoli llygredd i Gyngor Abertawe yn Ne Cymru.
Beth mae swyddog rheoli llygredd yn ei wneud?
Mae swyddog rheoli llygredd yn cyflawni llawer o swyddogaethau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu ein haer, ein tir a’n dŵr ac rydyn ni’n gyfrifol am gyngor a gorfodi deddfwriaeth. Er enghraifft, mae’n ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol ddadansoddi’r aer o’n cwmpas. Mae llygredd aer yn deillio o gyflwyno amrywiaeth o sylweddau i’r atmosffer o amrywiaeth eang o ffynonellau. Gall effeithio ar iechyd pobl a hefyd ar yr amgylchedd. Mae swyddogion rheoli llygredd yn Abertawe yn sicrhau bod yr offer monitro ansawdd aer yn cael ei gynnal a’i fod yn weithredol. Rydyn ni’n samplu ac yn mesur yr aer ar gyfer amrywiaeth o lygryddion ac, wrth fonitro’r llygryddion hyn, gallwn wneud newidiadau a fydd yn gwella ansawdd yr aer.
Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas?
Rydw i’n gwneud yn siŵr bod y tir yn addas i’w ddefnyddio. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw sylweddau na chemegau yn y tir sydd â’r potensial i achosi niwed. Gwneir hyn drwy adolygu adroddiadau’n dechnegol i bennu’r risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd.
Mae gan brosesau diwydiannol y potensial i ryddhau llygredd ac achosi niwed i’r amgylchedd ac i iechyd pobl. Bydd angen trwyddedau cyfreithiol ar lawer ohonyn nhw sy’n gosod amodau ar y gweithredwr i leihau faint o lygryddion sy’n cael eu rhyddhau. Fy ngwaith i yw paratoi a chyhoeddi’r trwyddedau hyn a sicrhau y cydymffurfir â’r trwyddedau.
Ystod cyflog: £25,000 i £29,000.
Cymwysterau sylfaenol: Mae gradd mewn disgyblaeth seiliedig ar wyddoniaeth yn ddymunol.
Beth yw eich diwrnod cyffredin?
Mae fy niwrnod arferol yn brysur ac yn amrywiol. Gallwn fod yn adolygu adroddiadau tir halogedig. Gallwn hefyd fod yn cynnal archwiliad mewn proses ddiwydiannol neu gallwn fod yn calibro un o’n gorsafoedd monitro ansawdd aer. Gallwn fod yn ymchwilio i gwynion am lygredd a wneir gan y cyhoedd, a llawer iawn mwy!
Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell?
Roeddwn i’n mwynhau dysgu am gemeg yn yr ysgol. Dechreuais weithio yn 18 oed mewn labordy profi lle roeddwn yn cael fy rhyddhau am ddiwrnod i astudio i gael HNC mewn cemeg. Y dilyniant naturiol o hynny oedd astudio cemeg yn llawn amser. Astudiais ym Mhrifysgol Sheffield ac, yn ystod fy astudiaethau, Helen Sharman (a astudiodd Cemeg yn y brifysgol) oedd y gofodwr cyntaf o Brydain i fynd i’r gofod. Roedd yn amser gwych i fod yn yr adran. Mae gallu helpu i ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd yn fy nghymell.
Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd?
Rydw i wrth fy modd yn gallu helpu i ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd. Rydw i’n dysgu drwy’r amser. Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ac rydw i’n mwynhau’r cydbwysedd rhwng swydd wrth ddesg a chrwydro o gwmpas. Rydw i’n cynllunio fy niwrnod ac rydw i’n mwynhau cwrdd â phobl.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd?
Mae sgiliau gweithio mewn tîm, datrys problemau, trin data, cyfathrebu a thechnegol yn bwysig. Mae angen i swyddog rheoli llygredd hyfforddi a datblygu’n barhaus er mwyn dal i fyny â fframwaith rheoleiddio sy’n newid yn gyflym yn y maes amgylcheddol. Bydd angen i chi fwynhau bod yn brysur a gweithio gyda phobl o bob cefndir. Mae sgiliau darllen ac ysgrifennu yn hanfodol a hefyd gallu gyrru, gan nad yw llawer o’r gwaith yn y swyddfa.
Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd?
Fe ddes i o hyd i fy swydd drwy’r ganolfan waith.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes?
Os oes gan rywun ddiddordeb mewn bod yn swyddog rheoli llygredd, byddwn yn eich cynghori i gysylltu â’ch adran iechyd amgylchedd leol yn eich cyngor lleol.
Eisiau gwybod mwy?
- Edrychwch ar eich opsiynau astudio, siarad â chynghorydd gyrfa a chwilio am brofiad gwaith.
- Tarwch olwg ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
Emma Smith MRSC, swyddog rheoli llygredd Cyngor Abertawe.
Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru
Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.
Cyhoeddwyd Medi 2022