Mae Gemma yn rheoli’r gwaith o gynhyrchu dur wedi’i araenu â thun a chromiwm o ansawdd uchel ar gyfer eitemau bob dydd sydd i’w cael mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

This profile is available in English

Helo, Gemma (hi) ydw i, ac rwyf wedi cael fy mhenodi’n rheolwr datblygu prosesau a chynnyrch yn yr Adran Ansawdd yng Ngwaith Pecynnu Tata Steel yn Nhrostre.

Gemma smiling at the camera.

Source: © Gemma Finn-Lewis

Beth mae rheolwr datblygu prosesau a chynnyrch yn ei wneud?

Mae fy nghwmni’n cynhyrchu dur wedi’i araenu â thunplat a chromiwm electrolytig, yn bennaf ar gyfer pecynnau bwyd a gofal personol.

Rwyf yn arwain tîm sy’n ceisio gwella ein prosesau a’n cynnyrch o ran ansawdd, cynaliadwyedd, cost a chydymffurfiaeth. Rydym yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau o fewn swyddogaethau ymchwil a datblygu Tata Steel ac yn cysylltu â phartneriaethau prifysgol fel Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Warwick.

Mae fy nhîm hefyd yn helpu timau gweithgynhyrchu i gynnwys datblygiadau technegol yn y broses gynhyrchu. Rydym hefyd yn cynnal asesiadau i weld pa mor llwyddiannus ydynt. Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau masnachol a marchnata i sicrhau bod ein datblygiadau yn cyd-fynd ag anghenion a dyheadau cwsmeriaid, gofynion cyfreithiol (newidiadau yn y gyfraith ar gyfer dibenion amgylcheddol neu gynnyrch) ac yn creu proses a chynnyrch sy’n gynaliadwy.

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas? 

Mae’n debyg y bydd ein deunydd yn eich ystafelloedd ymolchi neu yn eich cypyrddau glanhau. Er enghraifft, Tata sy’n cyflenwi 100% o duniau i Heinz Kraft, felly mae’n debyg iawn bod unrhyw duniau ffa pob neu gawl sydd yn eich cypyrddau yn y gegin wedi cael eu tunplatio yn Nhrostre. Rydym yn cyflenwi llawer i nifer o frandiau fel Gillette, Batiste, Sure, Pledge a WD-40 hefyd.

Ystod cyflog:

  • Mae cyflog prentisiaid yn £16,000–£18,000 yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth.
  • Mae cyflog graddedigion yn £20,000–£25,000.
  • Mae arbenigwyr technegol yn ennill £25,000–£35,000.
  •  Mae rheolwr canol yn ennill cyflog o £35,000–£45,000.
  • Mae rheolwr adran yn ennill £45,000 a mwy.

Nid yw’r cyflogau hyn yn hollol sefydlog ar ôl lefel graddedigion, ond maent yn rhoi syniad i chi o’r llwybr dilyniant ar hyn o bryd.

Cymwysterau sylfaenol:

  • Mae prentisiaethau ar gyfer y swyddogaeth gwyddoniaeth ar gyfer y cyfnod ar ôl Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) mewn pynciau STEM.
  • Mae angen o leiaf gradd bagloriaeth 2.2 ar raddedigion.

  • Mae pob swydd arall yn seiliedig ar addasrwydd ac mae’n bosibl y bydd angen gradd neu brofiad cyfatebol ar eu cyfer.

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell?

Fe wnes i ddewis cemeg am fy mod i’n gwneud yn dda yn y pwnc ac yn ei fwynhau. Rwyf yn mwynhau pob agwedd ar STEM ond dewisais astudio cemeg yn y brifysgol oherwydd fy mod yn gwybod y byddai gen i nifer o ddewisiadau wedyn ar ôl graddio. Mae modd defnyddio’r sgiliau sy’n cael eu datblygu drwy radd cemeg mewn cynifer o yrfaoedd, ac nid o reidrwydd yn y maes gwyddonol.

Dim ond yn ddiweddar rwyf wedi dychwelyd i swydd sy’n ymwneud â manylion technegol. Ar ôl i mi raddio, rwyf wedi defnyddio sgiliau datrys problemau a rhesymeg a ddysgais drwy radd STEM mewn pob math o brosiectau a rolau yn Tata Steel. Rwyf wir yn mwynhau’r ochr datrys problemau ac yn sylwi bod cael meddylfryd STEM o asesu sefyllfaoedd ar sail data wir wedi fy helpu i ddatblygu fy ngwaith ac wedi helpu o ran deinameg y tîm sydd gennym ni.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd? 

Yr amrywiaeth. Ar unrhyw ddiwrnod penodol, gallaf fod mewn cyfarfod gyda swyddogion masnachol yn trafod y tueddiadau prynu diweddaraf, ac yna, ymhen yr awr, mewn cyfarfod ymchwil yn trafod manylion technegol diweddaraf prosiect a sut bydd hynny’n effeithio arnom ni. Rwy’n cael gweld pethau o safbwynt y busnes cyfan, yn wahanol i nifer o bobl eraill, ac yn cael rhyngweithio ag amrywiaeth o bobl yn ein busnes a’r tu allan.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd?

Gan fy mod i’n rheoli pobl a phrosiectau, mae llawer o’r sgiliau’n seiliedig ar reoli pobl a phrosiectau. Mae gweithio fel tîm yn allweddol - a hwyluso gweithio fel tîm yn arbennig - gan ein bod yn delio ag amrywiaeth eang o unigolion o wahanol gefndiroedd. Mae sgiliau cyfathrebu a gallu addasu eich arddull i’r gynulleidfa hefyd yn bwysig - mwy technegol ar gyfer timau ymchwil a mwy personol wrth gynnwys y cwsmer. Mae sgiliau datrys problemau a thrin data yn bwysig mewn unrhyw swydd dechnegol ac yn arbennig yma, lle mae’n bosibl y bydd gennych lawer o wahanol fewnbynnau i ymdrin â nhw. Mae sgiliau trefnu yn cael ei danbrisio. Gyda chynifer o brosiectau ar y gweill ar yr un pryd, a chymaint o wahanol dimau’n gysylltiedig â nhw, mae’n hollbwysig cael strwythur clir o ran beth sy’n digwydd a pha bryd, pwy sy’n gyfrifol a beth yw’r amserlen ar gyfer y prosiect i sicrhau bod y busnes yn cyflawni.

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd?  Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gyrraedd y fan honno?

Fe wnes i astudio cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd a mynd i nifer o ffeiriau gyrfaoedd yn ystod fy mlwyddyn olaf. Roedd yna gwmnïau o bob cwr o’r DU yno, a dechreuais sgwrsio â recriwtiwr ar gyfer Corus ar y pryd, sydd bellach wedi newid i fod yn Tata Steel. Fe wnes i ymgeisio am swydd raddedig a bûm yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn yn ystod yr haf ar ôl i mi orffen fy ngradd. Ar ôl i mi gwblhau’r rhaglen i raddedigion, rwyf wedi cael y cyfle i roi cynnig ar nifer o swyddi, gan gynnwys cymorth gweithgynhyrchu technegol, gwasanaeth i gwsmeriaid, gwaith ymchwilio yn y labordy, rheoli prosiectau a datrys problemau.

Ymunais â Tata Steel ar ôl graddio, felly roedd fy ngradd mewn cemeg yn allweddol wrth gael fy nerbyn ar gyfer y rôl hon. Roedd fy ngradd yn cwmpasu’r wybodaeth dechnegol angenrheidiol er mwyn cael sylfaen dda yn y rôl honno, ac roedd fy nghwrs hefyd yn cyflwyno rhai sgiliau personol a oedd yn ddefnyddiol iawn yn ystod y broses ymgeisio, fel sgiliau cyfweliad. Yna, unwaith yr oeddwn wedi cael fy nghyflogi, datblygais sgiliau fel sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes? 

Y prif gyngor yw dewis rhywbeth y mae gennych wir ddiddordeb ynddo. Os oes gennych chi ddiddordeb gwirioneddol a’ch bod yn mwynhau gyrfa neu bwnc, byddwch yn mynd ati i lwyddo llawer mwy na phe na fyddech yn ei fwynhau. Hyd yn oed ar y diwrnodau anodd hynny, pan fydd pethau’n mynd o chwith, mae’n llawer haws gafael ynddi a dechrau eto os ydych chi’n frwdfrydig dros y maes.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Mae yna lawer o ddewisiadau ar gael i mi ar hyn o bryd, ac mae wir yn dibynnu ar sut fydd strwythur y busnes yn y dyfodol. Mae’n bosibl y gallwn symud yn ôl i swydd rheoli ansawdd, gan edrych ar amrywiaeth ehangach o ran strategaeth ac ansawdd o ddydd i ddydd, neu swydd sy’n delio â chwsmeriaid, neu hyd yn oed i swydd sy’n fwy masnachol a chysylltiedig â marchnata. Byddai fy swydd bresennol yn caniatáu amrywiaeth eang o ddewisiadau, yn dibynnu ar y cyfleoedd a’m dyheadau yn y dyfodol.

Eisiau gwybod mwy? 

  • Edrychwch ar eich opsiynau astudio, siarad â chynghorydd gyrfa a chwilio am brofiad gwaith
  • Porwch wefan Tata Steel i gael blas o’r gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael yno.
  • Gallech hefyd ddilyn Tata Steel Careers UK ar y cyfryngau cymdeithasol, lle gallwch glywed am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau agored a dolenni ar gyfer ymgeisio am swyddi.

Gemma Finn-Lewis, rheolwr datblygu prosesau a chynnyrch yn Adran Ansawdd, Gwaith Pecynnu Tata Steel yn Nhrostre.

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022