Mae Geertje yn addysgu biocemegwyr microbaidd y genhedlaeth nesaf ac yn arwain y gwaith o ddatblygu deunyddiau bio.

This profile is available in English

Helo, Geertje (hi) ydw i, ac rwy’n gweithio fel athro cyswllt mewn biocemeg microbaidd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dr Geertje Van Keulen is smiling in a laboratory filled with equipment and items, including petri dishes and pipettes.

Source: © Geertje Van Keulen

Beth mae athro cyswllt mewn biocemeg microbaidd yn ei wneud?

Mae fy rôl yn cynnwys addysgu yn y maes addysg uwch, yn ogystal â gwaith ymchwil, arloesi ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Does dim diwrnod ‘nodweddiadol’ fel academydd. Un diwrnod, gallwn fod yn helpu myfyrwyr i ddysgu am fiocemeg a microbioleg neu’n marcio asesiadau myfyrwyr.

Y diwrnod wedyn, gallwn fod yn trafod problemau ac atebion ar gyfer deunyddiau gyda staff milwrol, neu’n trafod hydroleg a chemeg amgylcheddol â gwyddonwyr pridd, neu ddŵr gwastraff â chemegwyr dadansoddol. Ar ddiwrnod arall, gallwn fod yn siarad â chyd-ymchwilwyr ar draws y byd am waith ymchwil a syniadau arloesi newydd! Gall rhai diwrnodau fod yn ddiflas ac yn rhwystredig oherwydd nifer o dasgau gweinyddol (diangen).

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas? 

Rwyf yn arwain ac yn gweithio mewn amrywiaeth o dimau ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Er enghraifft, rwyf yn arwain y gwaith o ddatblygu deunyddiau ar gyfer y sector amddiffyn gan ddefnyddio bacteria fel ysbrydoliaeth ar gyfer gludyddion ac araenau nanoraddfa. Rwyf hefyd yn gweithio gyda chyflenwyr cemegion i ddatblygu a phrofi cynnyrch ar gyfer y diwydiant hamdden gwlyb (baddonau poeth, pyllau nofio, ac ati) i sicrhau bod cemegion yn cael eu defnyddio’n ddiogel a bod yr amgylchedd ymdrochi’n ddiogel ac yn iach.

Ystod cyflog: Ymchwilwyr Ôl-Ddoethurol, £27K–£39K (Prospects).

Cymwysterau sylfaenol: PhD neu EngDoc.

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gyrraedd y fan honno?

Gwelais swydd ddarlithio ar wefan jobs.ac.uk ac fe wnes i gais amdani. Drwy gydol fy nghymwysterau, rwyf wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau penodol i’r pwnc, yn ogystal â gwybodaeth a chymwyseddau.

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd?

Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am fy swydd yw gweld fy ngwaith ymchwil a’m syniadau arloesol yn dwyn ffrwyth. Rwyf hefyd yn cael hyfforddi biocemegwyr microbaidd brwd y genhedlaeth nesaf.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd? 

Rhaid i chi weithio fel tîm, datrys problemau, trin data a meddu ar sgiliau technegol, cyfathrebu a mwy! Mae rhestr sgiliau academydd yn un hir iawn gan fod gan academyddion nifer o wahanol rolau a chyfrifoldebau.

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell? 

Dewisais astudio cemeg gan fod gen i ddiddordeb eang yn y pwnc, ac mae gen i o hyd. Er enghraifft, yn fy ngradd, roeddwn i’n hoffi cemeg organig a pholymer, peirianneg gemegol, biocemeg, crisialograffaeth a delweddu cydraniad uchel (microsgopeg electron). Roedd cemeg yn caniatáu i mi ddatblygu’n wyddonydd amryddawn gyda sylfaen gadarn ar gyfer cynifer o ddisgyblaethau a sectorau!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes? 

Byddwn yn annog unrhyw un i gael meddwl agored, manteisio ar bob cyfle posibl a pheidio â phoeni gormod am ddewis arbenigaeth.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Rwy’n gobeithio dal ati i ddeall sut mae microbau’n gweithredu ac yn esblygu gan eu bod yn beirianwyr cemegol, deunyddiau a phridd anhygoel sy’n cynnig atebion bio ar gyfer yr heriau byd-eang niferus y mae cymdeithas yn eu hwynebu.

Eisiau gwybod mwy? 

Geertje Van Keulen MRSC, athro cyswllt mewn biocemeg microbaidd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022 

Topics