Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i gael dysgwyr i wneud rhagfynegiadau ac edrych sut mae deunyddiau yn newid wrth rewi

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar rewi gwahanol hylifau. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos yr arddangosiad ‘rhew rhyfeddol’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr rewi gwahanol hylifau ac ystyried priodweddau solidau a hylifau.

Amcanion dysgu

  • Disgrifio priodweddau solidau, hylifau a nwyon.
  • Deall bod defnyddiau yn newid eu cyflwr wrth oeri.

Sgiliau ymholi:

  • Ymarfer rhagfynegi, arsylwi a chofnodi newidiadau sy’n digwydd dros amser, a dehongli a chyfleu’r canlyniadau.

Gwyliwch y fideo

Mae’r arddangosiad fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘rhew rhyfeddol’.

Source: Royal Society of Chemistry

Freeze different liquids to demonstrate the effects with your primary students.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai’r dysgwyr fod yn gallu cymharu a grwpio deunyddiau yn ôl a ydyn nhw’n solid, yn hylif neu’n nwy.

Rhestr offer

  • Mynediad at rewgell
  • Biceri plastig
  • Llwyau
  • Dŵr
  • Halen
  • Siwgr
  • Lliw bwyd
  • Diod swigod
  • Amrywiaeth o hylifau gall dysgwyr eu trin a’u rhewi, ee siampŵ, finegr, olew coginio, sudd ffrwythau a mêl

Mynediad at rewgell – gallai hyn fod mewn ystafell staff, cegin ysgol neu gartref. Sylwch nad oes risg i iechyd oherwydd nad oes dim o’r hylifau a fydd yn cael eu rhewi yn anaddas i’w defnyddio gan bobl.

Adnoddau ychwanegol