Mae Stephen yn cefnogi llawer o fusnesau i ddod yn gynaliadwy drwy ddefnyddio deunyddiau organig ar gyfer trin dŵr gwastraff. 

This profile is available in English

Helo, Stephen ydw i ac rydw i’n gyfarwyddwr ar ddau gwmni: SIW Consultancy a Coalpit Welsh Cakes.   

Stephen and his son, Michael, are giving the thumbs up at the camera. Both are wearing London Marathon finisher T-shirts and medals.

Source: © Erika Walker

Beth mae cyfarwyddwr SIW Consultancy a Coalpit Welsh Cakes yn ei wneud? 

Fel cyfarwyddwr SIW Consultancy, rydw i’n cefnogi llawer o fusnesau i ddefnyddio cemegau a thechnolegau i drin dŵr gwastraff. Rydw i’n ymweld â safleoedd cleientiaid ac yn eu helpu i wneud gwelliannau. Gyda’r cemeg, er enghraifft, roeddwn i’n ddigon ffodus i ddatblygu system i droi copr hydawdd yn anhydawdd, ac erbyn hyn dyma’r cemeg sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant distyllu – yn enwedig yn yr Alban – ac rydw i’n cefnogi llawer o grwpiau distyllu yno o hyd. Ar gyfer Coalpit Welsh Cakes, rydw i’n helpu i redeg busnes pobi cacennau cri artisan gyda fy mab anabl.  

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas? 

Rydw i’n gweithio’n agos gyda nifer o gleientiaid ar ddatblygu systemau/technolegau i helpu i leihau eu hôl troed carbon. Mae llawer o hyn yn golygu edrych ar leihau gwastraff a gweld a oes modd defnyddio’r gwastraff ar y safle. Er enghraifft, os oes gwerth caloriffig (ynni), gellir ei ddefnyddio fel tanwydd boeleri. Rydyn ni hefyd yn ceisio defnyddio mwy a mwy o ddeunyddiau organig ar gyfer trin dŵr gwastraff a gwaith. 

Gyda Coalpit Welsh Cakes, rydyn ni’n ceisio dod o hyd i’r holl gynhwysion yn lleol neu gefnogi busnesau Cymru. Mae modd ailgylchu ein holl gynwysyddion a’n cynwysyddion. 

Ystod cyflog:  £50/awr a threuliau. 

Cymwysterau sylfaenol:  Dim. Mae synnwyr cyffredin yn dod i mewn iddo’n aml. Mae’n ymwneud yn fwy â brwdfrydedd i ddysgu a dal ati i ddysgu. 

Beth yw eich diwrnod cyffredin? 

Rydw i’n treulio amser yn mynd i safleoedd cleientiaid ac yn eu cefnogi. Rydw i hefyd yn defnyddio systemau ar-lein i gadw mewn cysylltiad â chleientiaid yn lle teithio. Gyda Coalpit Welsh Cakes, rydw i’n tueddu i wneud yr holl bethau cefndirol fel trefnu cyfrifon, archebu deunyddiau ac annog fy mab, Michael.  

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg?

Cafodd y cwmni roeddwn i’n gweithio iddo ei gymryd drosodd gan Unilever a doedd gen i ddim gradd; fe wnaethon nhw dalu i mi wneud y radd/meistr ond roedd yn ymwneud â phynciau roedden nhw eisiau ymchwilio iddyn nhw – ac roeddwn i’n teimlo’n eu bod nhw’n ddiflas – felly pan ges i’r cyfle, fe wnes i astudio mwy am gemeg amgylcheddol. 

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd? 

Rydw i’n mwynhau cwrdd â phobl a’u helpu i gyflawni eu nodau. 

Gyda Coalpit Welsh Cakes, rydw i wrth fy modd yn gweld Michael yn llwyddo – mae wedi bod ar Saturday Kitchen Live y BBC, mae wedi ennill Gwobr ‘Dathlu Dewrder’ ac mae’r busnes wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Bwyd a Diod. 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd? 

Mae angen i mi allu cymell fy hun i fynd allan, cael busnes a chynnal busnes. Mae angen rhywfaint o sgiliau datrys problemau i helpu cwsmeriaid. Mae cyfathrebu clir yn bwysig, yn enwedig gan nad oes gan y rhan fwyaf o bobl rydyn ni’n delio â nhw fawr ddim profiad o ddŵr gwastraff. 

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? 

Rydw i wedi gweithio i nifer o gwmnïau ac wedi cael llond bol ar weithio’n galed i bobl eraill elwa, felly fe wnes i benderfynu mynd ar fy liwt fy hun, gan weithio gyda phobl y gallwn ymddiried ynddyn nhw. 

Sut gwnaeth eich cymwysterau eich helpu i gael eich swydd? 

Wnaethon nhw ddim, mewn gwirionedd – roeddwn i yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac, fel y dywedais yn gynharach, fe dalodd Unilever i mi wneud fy ngradd. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes? 

Mae’n anodd. Nid yw’n talu’n dda i ddechrau a byddwch yn teimlo’n rhan fach o olwyn fawr ond os ydych chi’n ei fwynhau, dylech gadw ato a datblygu rhwydwaith – er enghraifft, drwy’r RSC – ac yn y pen draw byddwch chi’n gallu cyflawni’r nodau rydych chi’n eu gosod. 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Rydw i’n bwriadu arafu a throsglwyddo’r busnes i rywun sydd yr un mor angerddol â mi am helpu pobl. 

Eisiau gwybod mwy? 

Stephen Walker MRSC, cyfarwyddwr SIW Consultancy a Coalpit Welsh Cakes. 

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022