Mae Emma yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng newid yn yr hinsawdd a mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r pridd.
This profile is available in English
Get the English language version
Helo, Emma ydw i ac rydw i’n gweithio fel gwyddonydd pridd ym Mhrifysgol Bangor.
Beth mae gwyddonydd pridd yn ei wneud?
Mae fy ymchwil yn edrych ar effaith tywydd eithafol ar y pridd a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd ar gyfer pobl. Mae tywydd eithafol fel sychder a llifogydd yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid yn yr hinsawdd. Yn anffodus, gall llifogydd achosi i bridd ollwng nwy tŷ gwydr o’r enw ocsid nitraidd, sydd wedyn yn cyfrannu at fwy o newid yn yr hinsawdd – mae hyn yn ddolen adborth gadarnhaol. Rydyn ni’n dechrau sylweddoli, pan fydd sychder a llifogydd yn digwydd yn syth ar ôl ei gilydd, mae’n gallu achosi i hyd yn oed mwy o ocsid nitraidd gael ei ryddhau i’r atmosffer.
Yn fy ymchwil, rydw i’n edrych ar wahanol fathau o sychder a llifogydd i weld pa gyfuniadau sy’n arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Rydw i hefyd yn ceisio canfod pam mae hyn yn digwydd er mwyn i ni allu gwneud cynllun i’w atal.
Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas?
Mae fy ymchwil yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch pam a sut mae nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau o’n pridd mewn hinsawdd sy’n newid. Gobeithio y bydd fy nghanlyniadau’n cyfrannu at ddeddfwriaeth a chyngor i dirfeddianwyr i’w helpu i reoli eu tir mewn ffordd sy’n cynhyrchu llai o nwyon tŷ gwydr, gan gyfrannu llai at newid yn yr hinsawdd.
Ystod cyflog: Fel myfyriwr PhD, rydych chi’n ennill tua £16,000 y flwyddyn. Os ydych chi’n gweithio’ch ffordd i fyny, mae athro (professor) cyffredin yn y DU yn ennill £90,000 y flwyddyn (ac mae rhai’n ennill llawer mwy!).
Cymwysterau sylfaenol: Mae dau lwybr at weithio ym maes gwyddoniaeth mewn prifysgol. Un ffordd yw gwneud cais am radd wyddonol, gwneud cais am PhD ac yna cael swydd fel ymchwilydd os byddwch yn pasio eich asesiadau (bydd angen i chi fel arfer cael 2.1 yn eich gradd i gael eich derbyn ar raglen PhD).
Y ffordd arall yw gwneud cais am swydd fel technegydd mewn labordy prifysgol. Mae rolau technegwyr yn amrywio – i rai, mae angen TGAU arnoch, ond mae angen gradd neu PhD ar eraill. Fel arfer, po uchaf eich cymwysterau, y mwyaf y byddwch yn cael eich talu.
Beth yw eich diwrnod cyffredin?
Mae fy nyddiau’n amrywiol iawn! Rydw i’n treulio rhywfaint o’m hamser ar fferm y brifysgol yn cloddio, hidlo a phwyso pridd. Rydw i hefyd yn gwneud llawer o waith labordy, gan ddefnyddio technegau fel cromatograffaeth nwy i fesur nwyon tŷ gwydr a sbectroffotomedreg (sy’n mesur faint o olau sy’n cael ei amsugno) ar gyfer dadansoddi pethau fel nitrad ac amoniwm yn y pridd.
Pan nad ydw i’n gwneud gwaith ymarferol, rydw i’n treulio amser wrth fy nesg yn darllen ymchwil pobl eraill i wneud yn siŵr nad yw fy arbrofion yn ailadrodd pethau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Rydw i hefyd yn dadansoddi llawer o ddata ac yn ysgrifennu fy nghanlyniadau mewn papurau gwyddonol er mwyn i wyddonwyr eraill allu darllen fy ngwaith a dysgu ohono.
Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell?
Wnes i ddim dewis cemeg – roedd fy ngradd mewn biocemeg ac roeddwn i eisiau defnyddio biocemeg i helpu i ddeall sut gallwn ni gadw’r blaned yn ddigon iach i fywyd dynol barhau i oroesi arni. Fe wnaeth hyn fy arwain at wyddorau pridd, a digwydd bod, mae gwyddorau pridd hefyd yn cynnwys llawer o gemeg. Po fwyaf rydw i’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor, y mwyaf o gemeg rydw i’n ei ddefnyddio.
Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd?
Y peth gorau am fy swydd yw pan fyddaf wedi treulio wythnosau’n cynllunio ac yn rhedeg arbrawf ac o’r diwedd, rydw i’n dechrau cael data sy’n gadael i mi ateb cwestiynau nad oes neb wedi gallu eu hateb o’r blaen.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd?
Y brif her o weithio mewn ymchwil wyddonol mewn prifysgol yw bod angen i chi allu cymell eich hun. Yn aml, bydd yn rhaid i chi osod eich targedau a’ch terfynau amser eich hun, sy’n gofyn am sgiliau rheoli amser llym ond mae’n mynd yn haws wrth i chi ddod i arfer â hynny. Bydd gweithio ym maes gwyddoniaeth yn dysgu sgiliau technegol, trin data a datrys problemau da i chi. Byddwch hefyd yn cael llawer o gyfleoedd i drosglwyddo eich gwyddoniaeth, gweithio ar eich pen eich hun a hefyd fel rhan o dîm mwy. Mae cyrsiau hyfforddi ar gael bob amser os oes rhywbeth newydd yr hoffech ei ddysgu, neu os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth yn eich dal yn ôl.
Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gyrraedd y fan honno?
Fe weithiais yn fy ngrŵp ymchwil fel rhan o’m gradd meistr mewn cadwraeth a rheoli tir. Roeddwn i’n mwynhau’r amgylchedd gwaith a’r arbenigedd gymaint nes i mi wneud cais am PhD gyda nhw hefyd.
Roedd fy swydd yn gofyn i mi gael gradd prifysgol mewn pwnc cysylltiedig. Roedd cael gradd meistr yn help mawr hefyd.
Yn ystod fy nghymhwyster, fe wnes i ddysgu teimlo’n gyfforddus yn rhoi cynnig ar bethau newydd a defnyddio llawer o wahanol offer labordy. Dysgais hefyd i beidio â chredu popeth rydw i’n ei ddarllen a sut i ganfod pa ffynonellau sy’n ddibynadwy.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes?
Cwestiynu popeth a pheidio â thybio bob amser bod pobl “uwch” yn gwybod am beth maen nhw’n siarad.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Ar hyn o bryd, rydw i’n mwynhau gweithio ar fy ymchwil ond rydw i hefyd yn mwynhau trosglwyddo gwyddoniaeth a gweithio gyda’r cyhoedd. Dydw i erioed wedi hoffi cynllunio’n rhy bell ymlaen, felly rydw i’n manteisio ar gyfle da pan ddaw.
Eisiau gwybod mwy?
- Edrychwch ar eich opsiynau astudio, siarad â chynghorydd gyrfa a chwilio am brofiad gwaith.
- Gallwch gael gwybodaeth am wahanol brifysgolion ar-lein – mae gan bob un ohonyn nhw eu gwefannau eu hunain. Os byddwch yn penderfynu ar faes astudio sy’n addas i chi, ceisiwch gysylltu â rhai prifysgolion sy’n arbenigo yn y maes hwnnw. Dylen nhw allu cynnig cyngor a chefnogaeth i chi.
Emma Withers, gwyddonydd pridd ym Mhrifysgol Bangor.
Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru
Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.
Cyhoeddwyd Medi 2022