Mae Tom yn canfod y dirgelwch y tu ôl i greigiau a mwynau Cymru. 

This profile is available in English

Helo, Tom ydw i ac rydw i’n uwch guradur mwynyddiaeth ar gyfer Amgueddfa Cymru, gan weithio’n benodol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Tom is inside a cave wearing a protective helmet.

Source: © Tom Cotterell

Beth mae uwch guradur yn Amgueddfa Cymru yn ei wneud? 

Mae fy nghwmni’n gofalu am gasgliad o greigiau a mwynau cenedlaethol Cymru, gan ddarparu sesiynau allgymorth, arddangosfeydd a dysgu i’r cyhoedd. 

Sut mae eich gwaith yn effeithio ar y byd o’n cwmpas?

Drwy astudio creigiau a mwynau Cymru, gallwn weld sut mae Cymru wedi newid drwy amser daearegol a darparu gwybodaeth am yr adnoddau sydd wedi cael eu cloddio ac y gellid eu cloddio o bosibl yn y dyfodol. 

Ystod cyflog: 

  • curadur (ar lefel amgueddfa genedlaethol): £26,000–£32,000 
  • uwch guradur: £32,000–£36,000 
  • y prif guradur: £34,000–£40,000 
  • pennaeth adran: £44,000–£50,000 

Cymwysterau sylfaenol: 

  • curadur: lefel gradd sylfaenol (fel arfer 2.1 neu uwch) 
  • uwch guradur: fel arfer yn gofyn am radd lefel uwch (meistr neu ddoethuriaeth) 

Beth yw eich diwrnod cyffredin? 

Amrywiol. Mae pob diwrnod yn wahanol ac yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau curadu (labelu a nodi sbesimenau o mwynau mewn cronfa ddata); ymchwil (darllen am fwynyddiaeth/daeareg, dadansoddi sbesimenau gan ddefnyddio cyfarpar o’r radd flaenaf – diffreithiad pelydr X – ac ysgrifennu papurau gwyddonol); ateb ymholiadau; ysgrifennu a chyflwyno sgyrsiau; ysgrifennu arddangosfeydd; ac, wrth gwrs, mynychu cyfarfodydd a gwirio e-byst. 

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell? 

Yn eironig, wnes i ddim astudio cemeg yn lefel A, ond dylwn i fod wedi. Mae’r rhan fwyaf o fy ngwybodaeth yn deillio o fy ngradd mewn daeareg neu o ddysgu fy hun. Erbyn hyn, rydw i wrth fy modd â fformiwlâu cemegol mwynau ac mae gen i lawer o wybodaeth am fwynyddiaeth. Rhyfeddodau mwynau sy’n fy nghymell. 

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich swydd? 

Popeth: gweithio gyda’r pethau rydw i’n eu hoffi – mwynau – a gallu adnabod sylweddau anhysbys o fymryn bach o bowdr. 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd? 

Mae angen i chi gael diddordeb brwd yn y pwnc, mwynhau gwaith maes, a gallu dysgu a chofio sut mae adnabod gwahanol fwynau, ysgrifen daclus (ar gyfer labelu’r sbesimenau), datrys problemau a chael meddwl fforensig (i adnabod mwynau), ond hefyd bod yn gyfforddus â thasgau cyffredin fel ysgrifennu labeli a rhoi gwybodaeth mewn cronfa ddata. 

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd? 

Fe ddes i o hyd i fy swydd drwy argymhelliad gan fy nhiwtor (meistr) yn Ysgol Mwyngloddiau Camborne – doeddwn i ddim yn chwilio am swydd ond fe wnaeth fy annog i ymgeisio. 

Sut gwnaeth eich cymwysterau eich helpu i gael eich swydd? 

Mae fy nghefndir daearegol yn deillio o fy nghymwysterau (Gradd gydanrhydedd BSc mewn daearyddiaeth/daeareg a MSc mewn daeareg mwyngloddio), ond rydw i wedi casglu gwybodaeth am fwynau drwy archwilio safleoedd mwyngloddio ac ardaloedd daeareg yn fy amser sbâr. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes? 

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn mwynyddiaeth. Nid oes gan lawer o bobl, heb sôn am ddaearegwyr, yr wybodaeth i adnabod mwynau. Rydw i wedi dysgu, er mwyn gallu adnabod mwynau, mae angen i chi deimlo eu dwyster a gweld eu disgleirdeb, sydd ddim yn cael ei gynrychioli mewn lluniau. Nid yw cyrsiau’n dysgu’r profiad a’r wybodaeth hon – er eu bod nhw’n helpu – mae’n gofyn am ymroddiad a brwdfrydedd am y pwnc. Dyma, i mi, sy’n gwahaniaethu rhwng mwynolegwyr go iawn. 

Nid oes llawer o swyddi mwynolegwyr mewn amgueddfeydd – dim ond mewn amgueddfeydd cenedlaethol fel arfer, felly mae angen i chi wneud yn siŵr mai chi yw’r gorau. 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Rydw i’n arbenigo mewn mwynyddiaeth ac adnabod mwynau; yr unig opsiwn arall fyddai masnachu mwynau (sy’n golygu llawer o deithio o amgylch y byd) neu swydd ddadansoddi efallai. 

Eisiau gwybod mwy? 

Tom Cotterell, uwch guradur Amgueddfa Cymru. 

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022 

Topics