Yr 1, 2, 3 o addysgu gwyddoniaeth mewn dwy iaith
This article is also available in English
Get the English language version.
Yn dibynnu ar yr ysgol y maent yn mynychu, mae disgyblion yng Nghymru yn astudio gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Rhaid i athrawon yn y lleoliadau hyn ddefnyddio ymagweddau pedagogaidd ychwanegol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth wyddonol mewn sawl iaith.
Astudiiais y strategaethau a ddefnyddir gan athrawon gwyddoniaeth sy’n dysgu yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n dysgu myfyrwyr sydd ag iaith gyntaf ar wahan i Saesneg, mae dulliau sy’n datblygu medrau llafar a llythrennedd mewn gwyddoniaeth hefyd yn berthnasol i bob athro. Dyma dair strategaeth gyffredin yr wyf yn canfod eu bod yn werth rhannu.
1. Gwnewch fwy o amser i siarad
Mae sgwrs disgybl-athro yn caniatáu athrawon i archwilio dealltwriaeth y disgyblion. Defnyddia’r athrawon dechnegau, gan gynnwys gwrthsefyll yr argymhelliad ii ymyrryd, gan ofyn i’r disgyblion grynhoi a throi datganiadau yn gwestiynau, i annog disgyblion i gymryd rhan mewn deialog. Fe wnes i ganfod bod athrawon yn gwneud defnydd aml o siarad disgybl-athro gyda disgyblion 7-14 oed, ond roeddent yn teimlo bod llai o amser ar gael i wneud hyn gyda myfyrwyr 14-16 oed, oherwydd mwy o gynnwys y cwricwlwm. Er bod amser yn werthfawr ar y lefel hon, efallai y byddai yn werth buddsoddi rhywfaint o amser mewn sgwrs disgyblion dros 14 oed, gan fod astudiaethau eraill wedi canfod y gall hyrwyddo dysgu, yn enwedig mewn lleoliadau dwyieithog.
2. Gweithio ar sgiliau llythrennedd
Mae disgyblion yn gwneud lllawer yn well mewn gwyddoniaeth os gallant ddeall yr hyn maen nhw’n ei ddarllen. Yn fy astudiaeth, dilynodd pob athro gwyddoniaeth bolisïau llythrennedd ysgol gyfan i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion. Rhoesant sylw i ddealltwriaeth a defnydd y disgyblion o dermau allweddol. Roeddent hefyd yn cefnogi dealltwriaeth disgyblion o ffurfiau berfau Cymraeg penodol ac yn defnyddio argaeledd y ddwy iaith i brofi dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau gwyddonol. Er enghraifft:
• Roedd athrawon yn cefnogi defnydd eu disgyblion o ffurf anhybersonol y ferf, fel y canfuwyd mewn papurau arholiad cyfrwng Cymraeg (ee cynhyrchir trydan / trydan) trwy weithio gydag adran Gymraeg yr ysgol.
• Roeddent yn cefnogi rhuglder disgyblion ynghylch ystyr termau ymholi gwyddonol allweddol Cymru trwy ddefnyddio cardiau fflach.
• Heriodd yr athrawon eu disgyblion i egluro term gwyddonol, yn hytrach na dim ond rhoi cyfieithiad o’r gair allweddol.
3. Defnyddio trawsieithu
Strategaeth ddwyieithog yw trawsieithu sy’n galluogi disgyblion i gael mynediad at fwy nag un iaith i gwblhau tasg. Mae athrawon y celfyddydau a’r dyniaethau yn defnyddio’r strategaeth yn helaeth, ond anaml y mae athrawon gwyddoniaeth yn ei ddefnyddio. Gallai defnyddio’r strategaeth hon yn fwriadol yn aml helpu athrawon i oresgyn yr angen i gyfieithu popeth o Saesneg i’r Gymraeg, yn enwedig erthyglau newyddion newyddion neu wyddoniaeth amserol
• Defnyddiwch y strategaeth hon i drafod erthyglau o fater cyfredol EiC. Gofynnwch i’r disgyblion brosesu’r wybodaeth yn Saesneg a’i drafod (neu ateb cwestiynau) yn Gymraeg
• Yn achlysurol, gofynnwch i’r disgyblion gael gwybodaeth trwy’r Saesneg (ee o gwestiynnu arholiad gwyddoniaeth cyfrwng Saesneg neu drwy brosesu gwybodaeth a gasglwyd ar-lein o wefannau Saesneg) ac ateb (neu greu rhywbeth newydd) yn Gymraeg
• Mae Estyn yn ystyried defnyddio ‘tiwtoriaid disgyblion’ mewn gwyddoniaeth yn arfer da a all gefnogi’r rhai sy’n newydd i ddysgu gwyddoniaeth trwy’r Gymraeg.
Cefnogwyd y prosiect hon gan Jane Essex a Sarah Masters o’r Gymdeithas Frenhinol Cemeg.
Wedi’i gyfieithu gan Rhiannon Davies.
No comments yet