Mae Jill yn sicrhau bod y meddyginiaethau y mae ei chwmnïau cleient yn eu darparu i’r cyhoedd yn cydymffurfio â safonau ansawdd a diogelwch a’u bod yn addas i’r diben. 

This profile is available in English

Helo, Jill ydw i ac rydw i’n gweithio i fy ngwasanaeth ymgynghori fferyllol fy hun. Fy ngwaith yw darparu gwasanaethau person cymwhwysol ar gontract i fy nghleientiaid.

Jill is sitting on some rocks, wearing sunglasses and smiling. There are hills in the background.

Source: © Robert Harris

Beth mae person cymhwysol yn ei wneud?

Mae fy nghwmni’n cynnig ymgynghoriaeth o safon ac ymgynghoriaeth datblygu fformiwleiddiad i gwmnïau yn y diwydiant fferyllol a diwydiannau cysylltiedig. Rydyn ni hefyd yn cydweithio â chyrff anllywodraethol sy’n gweithio i ddod â meddyginiaethau i wledydd sy’n datblygu.

 Mae rôl y person cymhwysol yn bwysig oherwydd mae gen i ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y cynnyrch rydw i’n ei ryddhau i’r farchnad neu i dreialon clinigol yn cydymffurfio â’r gofynion cofrestredig ac wedi cael ei weithgynhyrchu’n unol â GMP (arferion gweithgynhyrchu da). Yn bennaf, mae fy rôl yn helpu i ddiogelu’r claf neu’r person mewn treial clinigol rhag meddyginiaethau diffygiols.

Pam wnaethoch chi ddewis cemeg? Beth sy’n eich cymell?

Fe wnes i fwynhau astudio cemeg yn lefel A yn fawr, yn enwedig datrys problemau a chemeg ddadansoddol. Roeddwn i eisiau gweithio mewn labordy yn hytrach na swyddfa. Ond, ar ôl tua wyth mlynedd mewn labordai rheoli a datblygu ansawdd, fe wnes i benderfynu bod angen her newydd arna i, felly symudais i rôl sicrhau ansawdd mewn cwmni fferyllol mawr. Symudais ymlaen i fod yn Berson Cymhwysol o’r fan honno ymlaen. Cynnal safonau ansawdd a helpu eraill i wneud yr un fath yw’r hyn sy’n fy nghymell.

Ystod/band cyflog:  Cyflog cyfartalog person cymhwysol yn y DU yw tua £75,000. Ar gyfer ymgynghorwyr, gall y cyfraddau dyddiol fod rhwng cannoedd a miloedd o bunnoedd, yn dibynnu ar y prosiect a’r cleient.

Cymwysterau sylfaenol: I ddod yn berson cymhwysol, mae gofynion cymhwyso penodol sydd ar gael ar wefan RSC. Fel arfer, byddai’r rôl yn gofyn am radd mewn gwyddor bywyd ynghyd â phrofiad ymarferol ychwanegol ac yna mae’n rhaid i ymgeiswyr basio arholiad llafar gan banel sy’n cynnwys aelodau o gyrff proffesiynol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a’r Gymdeithas Frenhinol Bioleg.

Beth yw eich diwrnod cyffredin?

Mae rôl person cymhwysol yn amrywiol iawn a gallaf dreulio rhywfaint o’m hamser yn adolygu dogfennau i sicrhau bod sypiau wedi cael eu gweithgynhyrchu’n gywir. Ar adegau eraill, efallai fy mod i’n cysylltu â chydweithwyr ynghylch prosiectau newydd i drafod a chytuno ar ofynion dilysu ar gyfer prosesau ac offer. Pan fydd problemau’n codi, byddaf yn rhoi gwybod pa gamau adferol y dylid eu cymryd i sicrhau bod modd rhyddhau’r cynnyrch; ar adegau eraill, efallai mai gwrthod yw’r unig opsiwn. Rydw i wedi teithio’n helaeth i archwilio cyflenwyr cynnyrch tramor i sicrhau eu bod yn bodloni safonau GMP y DU ac Ewrop. Rydw i hefyd wedi treulio cryn dipyn o amser yn addysgu cleientiaid tramor am y gofynion cyfreithiol ar gyfer rhyddhau meddyginiaethau i’r DU a’r UE.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd?

Nid yw byth yn ddiflas ac mae’n anodd cynnal lefel uchel o wybodaeth wrth wynebu rheoliadau sy’n newid yn gyflym. Mae’n bwysig i mi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes technolegau gweithgynhyrchu.

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd?

Yn fy marn i, y gofyniad pwysicaf yw uniondeb proffesiynol. Mae gan berson cymhwysol gyfrifoldeb personol a phroffesiynol i’r awdurdod rheoleiddio i sicrhau bod meddyginiaethau’n addas i’r diben. Y sgiliau eraill sydd eu hangen yw datrys problemau, bod yn hyblyg a chael meddwl agored, gallu gwneud penderfyniadau dan bwysau, datblygu perthynas waith dda gyda phobl o adrannau eraill a sgiliau cyfathrebu da.

Sut y daethoch chi o hyd i’ch swydd?

Cefais fy niswyddo bron i ugain mlynedd yn ôl o rôl person cymhwysol yn y diwydiant fferyllol ac fe wnes i benderfynu sefydlu fy nghwmni fy hun.

Sut gwnaeth eich cymhwyster eich helpu i gael eich swydd?

Roedd gradd mewn cemeg yn rhagofyniad ar gyfer fy swydd gyntaf mewn labordy dadansoddi yn y diwydiant fferyllol. Yn ddiweddarach, fe wnes i astudio diploma ôl-radd mewn gwyddorau fferyllol i gael yr wybodaeth a oedd yn fy ngalluogi i fod yn gymwys i fod yn Berson Cymhwysol. Roedd hyn yn ddiddorol iawn gan ei fod yn cynnwys agweddau ar fioleg a fferyllfa nad oeddwn wedi’u hastudio o’r blaen – er enghraifft, anatomi dynol, ffisioleg a ffarmacoleg. Fe wnaeth hyn fy helpu i ddeall sut mae meddyginiaethau’n gweithio.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sy’n ystyried gyrfa yn eich maes?

Rydw i’n credu bod cemeg yn bwnc gradd rhagorol ac mae’n ddefnyddiol ar gyfer swyddi mewn llawer o ddiwydiannau gwahanol.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rydw i’n gobeithio parhau i gefnogi fy nghleientiaid i gyflwyno meddyginiaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli i’r farchnad.

Eisiau gwybod mwy?

Jill Harris, Person Cymhwysol ac ymgynghorydd ansawdd. 

Dewch i glywed gan ragor o wyddonwyr cemeg yng Nghymru 

Tarwch olwg ar broffiliau gwyddonwyr cemeg eraill sy’n gweithio yng Nghymru, mewn rolau sy’n amrywio o reoli llygredd a chynhyrchion fferyllol i ddatblygu cynnyrch a mwy.

Cyhoeddwyd Medi 2022