Ar ôl degawdau o ddefnyddio system gwyddoniaeth TGAU tair haen yng Nghymru, mae rheolwr rhaglen addysg RSC ar gyfer Cymru, Dayna Mason yn archwilio pam fod un cymhwyster i’r cyfan yn gwneud synnwyr

A drawing on a blackboard of a glass beaker pouring out items associated with biology, chemistry and physics including different types of cells, a spring, a thermometer, elements from the periodic table and lab equipment

Source: © 963 Creation/Shutterstock

A yw un llwybr at wyddoniaeth TGAU yng Nghymru yn ffordd deg a llwyddiannus ymlaen?

Mae’r dirwedd addysg yng Nghymru yn newid. I gyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, mae Cymwysterau Cymru yn diwygio ei gymwysterau yn gyfan gwbl. Mae’r gyfres bresennol o gyrsiau gwyddoniaeth – dyfarniad sengl, dyfarniad dwbl (gan gynnwys cymhwysol) a gwyddoniaeth ar wahân (triphlyg) – yn cael eu disodli gan un cymhwyster, sef TGAU Y Gwyddorau, sy’n cyfateb i ddau TGAU, a bwriedir iddo fod yn addas i’r rhan fwyaf o ddysgwyr.

Efallai ei bod yn syndod i rai fod nifer o sefydliadau gwyddoniaeth, gan gynnwys y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, wedi mabwysiadu’r safbwynt o ddarparu un llwybr drwy’r gwyddorau. Mae un llwybr yn osgoi cyfyngu ar ddewisiadau dysgwyr ac yn golygu bod mynediad tecach at y gwyddorau.

This article is also available in English

Problemau â’r system ymadawol

Mae’r opsiynau gwyddoniaeth lefel TGAU ymadawol yn golygu bod dysgwyr yn gorfod gwneud dewis am eu dyfodol pan fyddan nhw’n 13 oed. Nid ydyn nhw bob amser yn cael y dewis – mae rhai ysgolion yn penderfynu pa gymwysterau sy’n cael eu cynnig i ddysgwyr, gan greu argraff bod dewis. Mae ymchwil diweddar wedi tynnu sylw at y ‘didoli addysgol’ hwn, ac wedi darganfod mai dim ond 22% o ddysgwyr o’r cefndiroedd lleiaf breintiedig oedd yn astudio gwyddoniaeth driphlyg, o’i gymharu â 71% o ddysgwyr o’r cefndiroedd mwyaf breintiedig. Yng Nghymru, nid yw un o bob pum ysgol uwchradd yn cynnig cyfle i astudio gwyddoniaeth driphlyg, yn ôladroddiad gan Gymwysterau Cymru (pdf).

Os bydd ysgolion yn dewis pa lwybr mae dysgwyr yn ei ddilyn, mae perygl iddyn nhw greu system ddwy haen ddethol lle mae dysgwyr yn cysylltu’r rheini sy’n ‘dda mewn gwyddoniaeth’ â’r llwybr gwyddoniaeth driphlyg, a’r rhai sydd ‘ddim yn glyfar’ neu sy’n ‘wael mewn gwyddoniaeth’ â’r llwybr gwyddoniaeth ddwbl. Mae’r canfyddiad hwn o ran ba mor anodd yw’r cymhwyster yn gallu cyfyngu ar hyder dysgwr, ac o ganlyniad gall gyfyngu ar yr hyn mae’n ei weld fel ei opsiynau o ran dilyniant.

Mae un llwybr yn golygu bod mynediad tecach at y gwyddorau

Mae’r llwybrau gwyddoniaeth ddwbl a thriphlyg ymadawol yn arwain dysgwyr i lefel TGAU drwy lawer o gynnwys a rennir. Mae cynnwys ychwanegol gwyddoniaeth driphlyg yn ehangu’r ddarpariaeth yn hytrach na mynd â dysgwyr i lefel uwch. Fodd bynnag, mae llawer o ysgolion sy’n cynnig gwyddoniaeth driphlyg yn ei haddysgu ar sail dyraniad cywasgedig o amser gwersi sy’n golygu bod y cwrs yn fwy heriol.

Gydag un llwybr, bydd gan bob dysgwr amser a chyfle i archwilio’r gwyddorau a gweld a yw astudiaethau pellach yn addas iddyn nhw.

Rhoi sylw i bryderon athrawon

Rwyf wedi clywed pryderon gan athrawon yng Nghymru ynghylch y cynigion hyn. Mae athrawon yn poeni am golli amser addysgu (a cholli swyddi o bosibl). Maen nhw hefyd yn poeni y bydd dysgwyr sydd â diddordeb penodol mewn dilyn gwyddoniaeth ar ôl-16 yn colli’r cyfle i gael y dysgu ychwanegol a fyddai wedi cael ei ddarparu drwy lwybr gwyddoniaeth driphlyg.

Rwyf yn dymuno gweld un llwybr lle bydd pob dysgwr yn profi nodweddion y cwrs gwyddoniaeth driphlyg, ac rwy’n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn RSC i herio Cymwysterau Cymru i sicrhau bod y llwybr yn cael ei roi ar waith fel hyn. Rwyf hefyd eisiau gweld y tri phwnc gwyddonol yn cynnal eu hunaniaeth ddisgyblaethol – bioleg, cemeg a ffiseg. Felly, er enghraifft, dylai pob pwnc gwyddonol gael ei amserlennu ar wahân er mwyn iddyn nhw gael eu haddysgu gan arbenigwyr yn y pwnc. Yn ddelfrydol, hoffwn weld pob pwnc gwyddonol yn cael ei nodi, ei raddio neu ei farcio ar wahân fel bod dysgwyr yn gallu gweld ble mae eu cryfderau.

Bydd gan bob dysgwr gyfle i archwilio’r gwyddorau a gweld a yw astudiaethau pellach yn addas iddyn nhw

Mae gan bob pwnc gwyddonol ffordd benodol o ddeall y byd materol; credaf y dylid datblygu’r ddealltwriaeth hon ymysg dysgwyr drwy ddealltwriaeth gydlynol a dwfn o egwyddorion sylfaenol craidd pob disgyblaeth. O hyn, gellir gwneud cysylltiadau â’r gwyddorau eraill, a thu hwnt, gan alluogi dysgwyr i werthfawrogi rhyng-gysylltiad y gwyddorau a natur amlddisgyblaethol llawer o faterion a datblygiadau.

Beth nesaf?

Ar hyn o bryd, mae sawl peth anhysbys am y cynnig llawn a fydd yn sefyll ochr yn ochr â’r cymhwyster TGAU newydd hwn. Dylai’r llwybr hwn fod yn hygyrch i’r rhan fwyaf o ddysgwyr – felly rwy’n awyddus i weld canlyniad ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar y cynlluniau ar gyfer y dysgwyr nad ydynt yn gallu cael gafael ar gynnwys lefel TGAU.

Nid yw eto’n glir a fydd gwyddoniaeth yn orfodol i bawb hyd at 16 oed, ac rwy’n dymuno eglurhad ar y mater hwn. Ochr yn ochr â’m cydweithwyr yn RSC rwyf wedi lleisio pryderon ynghylch y diffyg cynaliadwyedd a chynnwys mathemategol yn y cynigion arfaethedig ar gyfer y cymhwyster TGAU newydd, yn ogystal â p’un a fydd athrawon cyfrwng Cymraeg yn cael yr adnoddau a’r cymorth y bydd eu hangen arnynt yn amserol. Byddaf yn parhau i godi’r materion hyn i sicrhau bod y cymhwyster newydd yn gweithio i’r rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru.

Ers cyhoeddi, datgelodd Cymwysterau Cymru eu penderfyniadau terfynol ar y gyfres arfaethedig o gymwysterau TGAU newydd, yn dilyn proses ymgynghori faith. Yn siomedig, mae Cymwysterau Cymru wedi ychwanegu cymhwyster dyfarniad sengl ychwanegol at eu cynnig gwyddoniaeth. Rydym yn siomedig iawn gyda’r symudiad hwn oddi wrth un llwybr sengl i bob dysgwr, ac rydym wedi esonio ein pryderon mewn datganiad i’r wasg.

Wedi’i ddiweddaru ar 22 Medi 2023

Topics