Popeth sydd ei angen arnoch i reoli ymddygiad yn llwyddiannus yn eich ystafell ddosbarth a’ch labordy
Mae rheoli ymddygiad yn rhan anochel o waith athro o ddydd i ddydd. Gall ychwanegu straen a phwysau gormodol at lwyth gwaith sydd eisoes yn feichus, yn ogystal ag effeithio ar forâl yr ystafell ddosbarth a’r deilliannau. A gall olygu bod y myfyrwyr hynny sy’n ei chael hi’n anodd yn mynd ar goll yng nghanol y cyfan. Felly, mae angen i athrawon gael cyfres o strategaethau rheoli ymddygiad effeithiol, wedi’u targedu, i sicrhau eu bod yn gallu gweithio gyda’u myfyrwyr i gyflawni eu deilliannau gorau. Ac mae hyn yn hollbwysig mewn adran gemeg, â’i holl beryglon a’r holl bethau sy’n tynnu sylw.
Yn 2019, cyhoeddodd y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) adroddiad canllaw oedd yn cynnwys chwe argymhelliad allweddol i wella ymddygiad mewn ysgolion. Yn awr, mae rhai o’n hathrawon a’n hyfforddwyr athrawon wedi defnyddio’r argymhellion hyn, a’u cyfuno â’u blynyddoedd o brofiad yn yr ystafell ddosbarth, i greu chwe erthygl sy’n llawn cyngor fel y gallwch lwyddo i reoli ymddygiad myfyrwyr yn eich labordy. Beth am ddechrau arni gyda safbwynt doniol Kristy Turner ar heriau rheoli ymddygiad yn y labordy cemeg?


