Rhowch y dulliau rheoli ymddygiad ysgafn hyn ar waith y tu allan i’r dosbarth er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf yn y dosbarth
Mae llawer o ddulliau rheoli ymddygiad yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng athrawon a myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth , ac mae hynny’n ddigon teg. Fodd bynnag, mae yna amrywiaeth o strategaethau y gellir eu defnyddio y tu allan i’r ystafell ddosbarth i gyflawni nodau tebyg. Mae argymhelliad 4 adroddiad Improving behaviour in schools yr EEF yn cynnwys strategaethau fel hyn, ac er eu bod yn ymddangos yn syml ar yr wyneb, mae angen tynnu sylw at rai manylion.

Un o argymhellion yr EEF yw sefydlu clybiau brecwast. Canfu astudiaeth ymchwil gan yr EEF yn 2016 gysylltiad rhwng sefydlu clybiau brecwast a gwell ymddygiad ymhlith y myfyrwyr. Byddai hyn yn awgrymu bod myfyrwyr yn llai afreolus ac yn talu mwy o sylw pan fydd ganddynt stumog lawn. Fodd bynnag, datgelodd yr astudiaeth hefyd fod clybiau brecwast wedi gwella ymddygiad yn y dosbarth hyd yn oed ymhlith myfyrwyr nad oeddent yn mynd i’r clybiau.
Awgrymodd yr ymchwilwyr sawl mecanwaith achosol, ac mae pob un ohonynt yn ein dysgu ni am ymddygiad myfyrwyr yn gyffredinol, yn ogystal ag mewn perthynas â’r ymyriad hwn. Er enghraifft, bydd llawer o athrawon profiadol yn cytuno, os bydd myfyrwyr yn mynd i glwb brecwast, na fyddant yn hwyr i’w gwersi ac felly na fyddant yn tarfu ar y dysgu yn yr ystafell ddosbarth wrth fynd i mewn. Yn y tymor byr, mae myfyrwyr sy’n dod i wersi’n hwyr yn aml yn achosi aflonyddwch, naill ai drwy ymyrraeth oddefol neu drwy fynd ati’n fwy gweithredol i dynnu sylw myfyrwyr eraill. Yn y tymor hir, bydd y myfyrwyr hyn yn colli mwy a mwy o’r dysgu, a bydd yn anoddach iddynt allu ymwneud â’r dysgu. Byddant yn dechrau teimlo nad ydynt yn rhan o gynnydd eu dosbarth. Ac mae bod yn hwyr yn rheolaidd yn creu diwylliant isymwybodol yn y dosbarth lle credir nad yw’r gwersi mor bwysig â hynny, oherwydd nad yw’n werth cyrraedd yn brydlon ar eu cyfer.
1. Anfon y neges iawn
Agwedd arall i’w hystyried yw’r neges y mae darpariaeth clwb brecwast yn ei hanfon at fyfyrwyr o ran i ba raddau y maent hwy eu hunain yn bwysig i’r ysgol. Gall myfyrwyr sy’n aml yn cyrraedd yn hwyr ac yn mynd i drwbl am ymddygiad gwael ddechrau tybio mewn dim o dro eu bod yn boen ac yn drafferth ym marn yr athrawon a’r arweinwyr. O ystyried bod cymaint o’u hymwneud â staff yn negyddol, ni ddylai hyn ein synnu’n ormodol. Felly, mae’n hanfodol bod ysgolion yn herio tybiaethau’r myfyrwyr hyn, ac yn dangos iddynt eu bod hwy a’u lles yn bwysig iawn iddynt. Mae clwb brecwast am ddim yn un ffordd o wneud hyn, gan ei fod yn cyfleu i fyfyrwyr bod eu hiechyd o’r pwys mwyaf i’r ysgol.
2. Codi’r ffôn
Argymhelliad arall gan yr EEF yw gweithio gyda rhieni i wella cysondeb. Yn ein hysgol, rydym yn ymfalchïo ein bod yn cyfathrebu’n aml â rhieni. Mae sawl ffordd yr ydym yn defnyddio’r strategaeth bwerus hon i wella ymddygiad a deilliannau myfyrwyr. Yn aml, dim ond pan fydd myfyriwr wedi gwneud rhywbeth o’i le y bydd rhieni’n cael galwad ffôn, ac mae’n rhyw fath o gosb/un o oblygiadau’r ymddygiad.

Mae canolbwyntio ar alwadau ffôn cadarnhaol yn hynod effeithiol; mae’n cydnabod myfyrwyr sy’n gwneud y peth iawn. Yn aml, bydd hyn yn cael effaith debyg i grychdonnau, gan olygu y bydd y myfyrwyr hyn yn parhau â’u hymddygiadau cadarnhaol. Gall fod yn anodd cael amser i wneud y galwadau hyn. Un ffordd o sicrhau ei fod yn digwydd yw neilltuo 15 munud yr wythnos i wneud tair galwad ffôn gadarnhaol. Mae gwneud hyn ar brynhawn dydd Gwener yn arbennig o effeithiol gan ei fod yn golygu eich bod yn dechrau’r penwythnos ar nodyn cadarnhaol (yn ogystal â defnyddio amser sydd, i lawer o bobl, yn eithaf anghynhyrchiol).
3. Rheoli newid
Gyda myfyrwyr mwy heriol, gallwch wneud gwahaniaeth mawr drwy ychwanegu rhywfaint o sicrwydd. Er enghraifft, gall y math yma o neges fod yn arbennig o bwerus: ‘Dyw dy ymddygiad di hyd yma yn y wers hon ddim wedi bod yn wych. Rydw i eisiau i ti wybod y bydda i’n ffonio dy rieni yn nes ymlaen heddiw ac yn dweud wrthynt am dy ymddygiad hyd yma. Ond os bydd dy ymddygiad di’n dda ar gyfer gweddill y wers, bydda i’n gallu gorffen yr alwad yn gadarnhaol.’
Dydych chi ddim eisiau i’r disgyblion feddwl y gallant weithio i wneud iawn am yr ymddygiad, gan fod hyn yn cyfleu’r neges y gallant wneud yr un peth yn y wers nesaf (h.y. ymddwyn yn wael ond yna gwneud iawn amdano). Fodd bynnag, mae arnoch eisiau iddynt wybod y byddwch yn cydnabod ac yn nodi gwelliant. Yna, bydd eich galwad ffôn gyda’r rhieni/gofalwyr y noson honno yn cyfleu darlun mwy amlweddog o’r realiti, gan ddangos yn glir i’r myfyrwyr nad dim ond yn y pethau negyddol y mae gennych ddiddordeb, ac mai diben eich galwadau ffôn yw sicrhau bod gan bawb y mae’r disgybl yn bwysig iddynt yr un wybodaeth.
Rhagor o awgrymiadau rheoli ymddygiad…
Yn yr erthygl nesaf yn y gyfres hon, mae Ben Geraghty a Harry Lord yn edrych ar sut i ddefnyddio dulliau wedi’u targedu i ddiwallu anghenion myfyrwyr unigol.









No comments yet