Mae Andy Chandler-Grevatt yn rhannu pedair strategaeth gadarn i’ch helpu i sefydlu disgwyliadau a threfn reolaidd ar gyfer eich ystafell ddosbarth

Fel rhan o’m swydd yn hyfforddi athrawon gwyddoniaeth, rydw i’n cael y fraint o’u gwylio’n addysgu gwersi’n gynnar yn eu hyfforddiant ac eto tua diwedd y cwrs, pan fyddant wedi magu rhywfaint o brofiad. Mae’r gwahaniaeth rydw i’n ei weld wrth eistedd yn eu hystafell ddosbarth ar y cam diweddarach hwn yn aml yn seiliedig ar y ffaith bod yr athro wedi sefydlu ymddygiadau dysgu gyda’i ddosbarthiadau, ac wedi symud o reoli ymddygiad yn adweithiol i reoli ymddygiad yn rhagweithiol. Bod yn rhagweithiol wrth sefydlu ymddygiadau dysgu yw Argymhelliad 2 adroddiad canllaw yr EEF, Improving behaviour in schools; yn y fan yma, rydw i’n trafod pedair strategaeth sy’n ymwneud yn benodol â dysgu gwyddoniaeth.

Gosod y sylfeini

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi arsylwi pedair strategaeth ragweithiol sy’n rheoli ymddygiad yn effeithiol wrth addysgu mewn labordy gwyddoniaeth. Mae tair sylfaen i bob un o’r strategaethau hyn:

1. Mae’r athro wedi rhannu’r disgwyliad yn glir gyda’r disgyblion ar lafar, ac weithiau ar ffurf ysgrifenedig (ar y bwrdd gwyn neu ar boster).

2. Mae’r athro wedi atgyfnerthu’r disgwyliad drwy ganmol a cheryddu’n briodol, gan egluro’r rhesymau i’r disgyblion.

3. Mae disgwyliadau’r athro yn gyson, ac yn seiliedig ar bolisi ymddygiad yr adran neu’r ysgol gyfan.

1. Rhannu disgwyliadau sylfaenol

A student carrying lab equipment in his pockets

Pan fyddwch yn cwrdd â dosbarth newydd am y tro cyntaf, gan gynnwys wrth wneud gwaith llanw, esboniwch eich disgwyliadau i’r myfyrwyr. Rydw i’n cadw pethau’n syml iawn: ‘Helô, Dr Chandler-Grevatt ydw i. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu gwyddoniaeth i chi. Er mwyn i mi allu gwneud hynny, rydw i’n disgwyl i chi i gyd ymddwyn mewn ffordd sy’n caniatáu i mi addysgu, ac sy’n caniatáu i chi i gyd ddysgu. Fyddaf i ddim yn goddef unrhyw ymddygiad sy’n fy atal i rhag addysgu, nac unrhyw ymddygiad sy’n eich atal chi neu eraill rhag dysgu.’

Rhaid cynnal ac atgyfnerthu’r disgwyliad drwy esiampl, canmoliaeth a cherydd

Mae gan wahanol athrawon wahanol ddulliau. Beth bynnag fo’r dull, mae rhannu disgwyliadau gyda’ch dosbarth yn gosod y cywair. Fodd bynnag, rhaid cynnal ac atgyfnerthu’r disgwyliad drwy esiampl, canmoliaeth a cherydd.

2. Rheoli pethau sy’n tynnu sylw yn y labordy a’u rhoi o’r neilltu

Students carefully carrying lab equipment

Mae gweithio mewn labordy gwyddoniaeth yn golygu bod yna bethau unigryw sy’n tynnu sylw. Yn aml, mae socedi pŵer, tapiau nwy a thapiau dŵr o fewn cyrraedd rhwydd i’r desgiau. Mae’n demtasiwn mawr chwarae â hwy wrth eistedd wrth y ddesg.

Dywedwch yn glir wrth eich disgyblion beth yw eich disgwyliadau o’r dechrau, er enghraifft: ‘Rydych chi’n gweithio mewn labordy, felly mae pethau o’ch cwmpas y gallai fod yn demtasiwn cyffwrdd â hwy. Peidiwch â chyffwrdd â’r socedi trydan, y tapiau nwy na’r tapiau dŵr sydd wrth eich ymyl chi oni bai bod rhywun wedi gofyn i chi eu defnyddio. Gall chwarae â hwy fod yn beryglus (gallai trydan neu nwy ollwng) ac fe allech chi eu difrodi, a fyddai’n golygu na allwn ni wneud gwaith ymarferol.’

Mae gan rai ysgolion orchuddion dros y pethau hyn sy’n tynnu sylw, a gall hynny leihau’r temtasiwn. Os oes disgyblion sydd wir yn methu â goresgyn yr awydd, symudwch hwy i rywle lle nad oes temtasiwn.

3. Sefydlu prosesau pontio

Gallwch leihau’r cyfle i bethau dynnu sylw a’r cyfle am gamymddwyn drwy sefydlu trefn glir ar gyfer pontio rhwng gweithgareddau.

An exasperated teacher

Mae’r pontio o sgwrsio i ddistawrwydd yn hanfodol. Mae’n bwysig eich bod yn egluro, yn ymarfer ac yna’n atgyfnerthu’r drefn hon. I wneud hynny, gallwch ddefnyddio’r dull rhoi cyfarwyddyd, oedi, craffu, (ceryddu), canmol. Er enghraifft, dechreuwch gyda: ‘Blwyddyn 9, rhowch eich beiros i lawr, stopiwch siarad ac edrychwch arnaf fi.’ Oedi. Craffu. ‘Diolch yn fawr, rydw i’n aros i Mike roi ei feiro i lawr.’ Craffu. ‘Libby, edrycha arnaf fi.’ Oedi tra mae pawb yn cydymffurfio. ‘Da iawn, rydych chi i gyd wedi rhoi eich beiros i lawr, dydych chi ddim yn siarad ac rydych chi’n edrych arnaf fi.’

Gall system cyfrif i lawr a disgrifio weithio hefyd: ‘Tawelwch ac eisteddwch i lawr mewn 3 … Fatima, rho hwnna ar yr hambwrdd ac eistedda … 2 … rydw i’n aros i’r ddau berson olaf eistedd … ac 1 … tawelwch. Da iawn chi.’

Rhaid i fyfyrwyr ddysgu, mewn argyfwng, bod angen iddynt stopio gwaith ymarferol mewn ffordd ddiogel

Pan fydd arnoch eisiau i fyfyrwyr symud o’u mannau eistedd arferol i drefniant arall i weld arddangosiad, gallwch wneud hyn yn raddol gan ganolbwyntio ar bob rhes neu fwrdd o ddisgyblion yn symud o un lle i’r llall. Wrth i hyn gael ei wneud yn amlach, gall ddod yn gyflymach ac mae’n bosibl mai dim ond un cyfarwyddyd fydd ei angen. ‘Symudwch yn gyflym ac yn dawel i’r mannau lle rydych chi’n gwylio arddangosiad.’

A student swinging a pair of safety goggles

4. Gosod trefn reolaidd ar gyfer gwaith ymarferol diogel

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi sefydlu’r drefn reolaidd ar gyfer casglu a dychwelyd cyfarpar er mwyn sicrhau bod unrhyw waith ymarferol yn ddiogel ac yn effeithlon. Gallwch ddechrau drwy sefydlu pwyntiau casglu penodol a rhoi cyfrifoldeb i’r disgyblion dros gasglu a dychwelyd y cyfarpar.

Mae hefyd yn werth ymarfer trefn ‘stopio gweithio mewn ffordd ddiogel’, lle mae’r myfyrwyr yn dysgu, pan fydd argyfwng, bod angen iddynt stopio gwaith ymarferol mewn ffordd ddiogel. Er enghraifft, gall stopio gweithio’n ddisymwth fod yn beryglus ynddo’i hun weithiau, felly mae diffodd llosgydd Bunsen ac yna sefyll yn llonydd yn fwy diogel.

Pan fyddwch wedi gwneud eich disgwyliadau’n glir ac wedi addysgu ymddygiad priodol ar gyfer dysgu yn y labordy, bydd disgyblion fel arfer yn dilyn y drefn hon. Pan na fyddant yn gwneud hynny, ni fydd yn syndod iddynt os defnyddir ceryddon a goblygiadau camymddwyn.

Chwilio am fwy?

Mae angen i chi ddarllen safbwynt doniol Kristy Turner ar reoli ymddygiad yn y labordy cemeg a dysgu o syniadau Niki Kaiser am sut i wella deilliannau drwy ddod i adnabod eich disgyblion yn well. Neu gallech ddarllen strategaethau allweddol David Paterson i’ch helpu i gefnogi ymddygiad da yn yr ystafell ddosbarth.