Addysgwch eich myfyrwyr i adnabod y peryglon sy’n gallu bodoli yn y labordy a sut mae mynd i’r afael â nhw
This article is also available in English
Read the English language version.
Mae asesu risg yn broses rydyn ni i gyd yn ei gwneud yn ein bywydau bob dydd, yn aml heb sylweddoli.
Pan fyddwn ni’n croesi ffordd, byddwn yn gwneud asesiad risg – gan nodi’r perygl o groesi mewn traffig, y niwed o gael eich taro gan gerbyd, difrifoldeb y niwed hwnnw. Rydyn ni’n nodi’r mesurau rheoli o chwilio am draffig, dewis lle diogel i groesi, symud ar draws y ffordd yn gyflym.
Mae hyn i gyd yn gallu digwydd yn gyflym iawn yn ein pen, felly dydyn ni ddim yn ei weld fel proses. Mae hyn yn deillio o’r ffaith ein bod wedi mewnoli ein hyfforddiant pan oeddem yn iau, a’n bod yn rhoi’r mesurau rheoli ar waith yn aml.
Mae angen i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn asesu risg
Pan fyddwn ni’n gwneud gwaith ymarferol, rydyn ni’n asesu risg yn y sefyllfa ac, yn fwy bwriadol a ffurfiol, yn ein cynllunio. Fel rhan o’u haddysg wyddonol, mae angen i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn asesu risg. Mae hyn yn dechrau o’u diwrnod cyntaf yn y labordy, hyd at ymchwiliad estynedig hunangyfeiriedig. Mae gwybod am beryglon, risgiau a mesurau rheoli yn allweddol i gadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel.
Mae manylebau arholiadau yn mynnu bod myfyrwyr yn gymwys ac yn ddiogel wrth drin sylweddau a chyfarpar peryglus, a chynnal gweithdrefnau arbrofol gyda chyn lleied o risg â phosibl. Yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, byddan nhw mewn byd lle mae gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn rhan amlwg o’u bywydau o ddydd i ddydd.
Download this
Student risk assessment worksheets, for age range 14–16
Guide learners to recognise hazards, evaluate risks and identify control measures in a common core practical.
Download the resources from the Education in Chemistry website: rsc.li/3Y9tlcN

Dechreuwch yn syml
Dechreuwch addysg eich myfyrwyr gyda darn sylfaenol o gyfarpar – y llosgydd Bunsen. Trafodwch y nodweddion diogelwch. Hyfforddwch y myfyrwyr i osod, i ddefnyddio ac i glirio’r cyfarpar. Arweiniwch nhw i adnabod y peryglon dan sylw, a’r mesurau rheoli rydyn ni’n eu rhoi ar waith i leihau’r risgiau, a’u cadw nhw ac eraill yn ddiogel. Rhowch gopi i’r myfyrwyr o’r Ddalen diogelwch myfyrwyr SSS092, un o amrywiaeth o ddalenni gwybodaeth gan CLEAPSS yn benodol i fyfyrwyr. Mae athrawon yn yr Alban hefyd yn gallu defnyddio adnoddau gan SSERC; mae eu gwefan yn cynnwys nifer o ddalenni gwybodaeth sydd ag asesiadau risg.
Wrth i’r myfyrwyr ddatblygu eu cymwyseddau yn y labordy, byddwch yn defnyddio rhagor o daflenni diogelwch myfyrwyr i roi cymorth a chyfeiriadau ychwanegol. Mae gwybodaeth ar gael am wresogi sylweddau anfflamadwy a fflamadwy, trosglwyddo solidau a hylifau, a thrin hylifau poeth mewn biceri. Maen nhw’n cynnwys geirfaoedd, gwybodaeth am waredu gwastraff a manylion CLP (dosbarthiad, labelu a phecynnu) a phictogramau diogelwch eraill, ac mae modd cyfeirio at y rhain yn yr ystafell ddosbarth.
Meithrin gwybodaeth a phrofiad
Wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy eu haddysg, rhowch gyfle i’r myfyrwyr asesu risg yn fwy ffurfiol. Dechreuwch gyda gweithgareddau cyn tasgau ymarferol fel chwilio am wybodaeth am beryglon y sylweddau a fydd yn cael eu defnyddio yn y dasg ymarferol. Er enghraifft, bydd SSS020 yn dangos yn gyflym i fyfyrwyr bod asid hydroclorig ar gael ar amrywiaeth o grynodiadau, gyda’r peryglon yn amrywio o ‘PERYGL: Cyrydol’ i ‘Ddim yn cael ei ddosbarthu’n beryglus ar hyn o bryd’. Trafodwch â’ch myfyrwyr bwysigrwydd asesu’r risg ar sail yr hyn byddan nhw’n ei ddefnyddio, yn hytrach na dim ond rhoi’r set fwyaf llym bosibl o fesurau rheoli ar waith.
Pan fydd myfyrwyr yn dechrau gwneud ymchwiliadau manylach, defnyddiwch ffurflen asesu risg i helpu i arwain eu ffordd o feddwl a’u penderfyniadau. Mae tri fformat gwahanol ar gael yn y pecyn taflenni diogelwch myfyrwyr, yn ogystal ag enghraifft sy’n seiliedig ar y dasg ymarferol gyffredin o wneud crisialau copr sylffad.
Adnoddau a deunyddiau darllen a argymhellir
- Cadwch olwg ar eich asesiadau risg drwy asesu risg eich tasgau ymarferol.
- Pwysleisiwch risg a gweithio’n ddiogel i’ch myfyrwyr 14–16 oed gyda’r fideo ymarferol hwn ar baratoi halwyn hydawdd.
- Dangoswch i’r myfyrwyr pa mor bwysig yw deall a lliniaru risg yn y byd go iawn drwy rannu proffiliau swyddi gan Nicholas, tocsicolegydd a Tim, tocsicolegydd cyfrifiadurol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r gwahaniaethau rhwng goglau diogelwch a sbectol diogelwch a sut gallwch chi addasu tasgau ymarferol pan na fydd goglau ar gael.
- Cadwch olwg ar eich asesiadau risg drwy asesu risg eich tasgau ymarferol: rsc.li/3w9G0AD
- Pwysleisiwch risg a gweithio’n ddiogel i’ch myfyrwyr 14–16 oed gyda’r fideo ymarferol hwn ar baratoi halwyn hydawdd: rsc.li/3WoCP2u
- Dangoswch i’r myfyrwyr pa mor bwysig yw deall a lliniaru risg yn y byd go iawn drwy rannu proffiliau swyddi gan Nicholas, tocsicolegydd a Tim, tocsicolegydd cyfrifiadurol: rsc.li/3ZJ6PZW; rsc.li/3WleRW1
Athrawon sy’n dal yn gyfrifol am yr asesiad risg terfynol yn ein labordai. Serch hynny, bydd cynnwys y myfyrwyr yn y broses yn gwneud iddyn nhw feddwl yn fwy gofalus am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’r hyn byddan nhw’n ei ddysgu yn eu gwersi gwyddoniaeth hefyd yn gallu bwydo i feysydd astudio eraill.
Un agwedd olaf ar asesiad risg da yw ystyried beth sy’n digwydd mewn argyfwng. Fel oedolion, rydyn ni’n tueddu i ymateb yn well i argyfyngau, oherwydd ein hyfforddiant a’n profiad. Helpwch i hyfforddi eich myfyrwyr drwy drafod sefyllfaoedd a all godi, a’r ffordd orau o ymateb. Mae’r ddogfen camau brys (SSS096b) yn rhoi crynodeb defnyddiol.
Mae asesiad risg yn rhan hanfodol o wneud gwaith ymarferol yn yr ystafell ddosbarth gemeg. Drwy gynnwys myfyrwyr yn y broses, drwy ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau o ran peryglon a risgiau, rydyn ni’n eu paratoi’n well ar gyfer gweithgareddau yn y labordy gwyddoniaeth a’r tu allan iddo. Mae asesiad risg yn helpu ein myfyrwyr i aros yn ddiogel.
Mae'r erthygl hon yn rhan o’n cyfres Teaching science skills, gan ddod â strategaethau ynghyd â gweithgareddau’r ystafell ddosbarth i helpu eich dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwyddonol hanfodol o lythrennedd i asesu risg a rhagor.
Downloads
Asesiad risg myfyrwyr taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.13 mbAsesiad risg myfyrwyr nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.2 mbAsesiad risg myfyrwyr taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.47 mbAsesiad risg myfyrwyr nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.83 mb




No comments yet