Ymchwiliadau ymarferol i ennyn diddordeb disgyblion mewn pynciau allweddol ym maes gwyddoniaeth cynradd

This series is in Welsh and is also available in English and Irish

Sut gallwn ni ddefnyddio priodweddau nwyon i herio disgyrchiant? Pa newidiadau cemegol sy’n gyfrifol am ddirgelwch y ‘llaw frawychus’?

Yn y gyfres hon o ymchwiliadau, bydd dysgwyr yn archwilio’r wyddoniaeth y tu ôl i amrywiaeth o arbrofion cyffrous ond syml, gan ymarfer sgiliau gwyddonol allweddol o wneud rhagfynegiadau i gymryd mesuriadau a dadansoddi canlyniadau. Wrth iddynt ddysgu meddwl fel gwyddonwyr, bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu ac yn defnyddio eu dealltwriaeth o bynciau craidd ym maes gwyddoniaeth cynradd, gan gynnwys:

  • gwahanu cymysgeddau
  • solidau
  • hylifau
  • nwyon
  • newidiadau gwrthdroadwy a newidiadau na fyddai modd eu dadwneud
  • cyflwr mater

Mae pob ymchwiliad yn cynnwys adnoddau ategol cyfoethog, gyda nodiadau manwl i athrawon, arddangosiadau fideo a sleidiau dosbarth i ysgogi ac i roi’r dysgu mewn cyd-destun. A pheidiwch â phoeni am ddod o hyd i offer arbenigol - mae’n hawdd paratoi’r ymchwiliadau, ac fe allwch chi ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yn eich archfarchnad leol.