Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i ystyried hylifau a nwyon, ac ymarfer cymryd mesuriadau cywir

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar nwy carbon deuocsid yn ffisian drwy hylifau. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos yr arddangosiad ‘lamp lafa’, yna dysgwch sut gallwch ymchwilio i faint o garbon deuocsid sydd mewn diodydd pop gyda’ch dysgwyr.

Amcanion dysgu

  • Dangos dealltwriaeth o solidau, hylifau a nwyon.
  • Deall bod gan nwyon fàs.

Sgiliau ymholi:

  • Cymryd mesuriadau cywir.
  • Defnyddio sgiliau mathemateg mewn gwyddoniaeth.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘lamp lafa’.

Source: Royal Society of Chemistry

Make a lava lamp to explore mixing liquids and more concepts in primary science.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai’r dysgwyr fod yn gwybod yn barod fod tri chyflwr mater: solidau, hylifau a nwyon. Dylent fod â dealltwriaeth sylfaenol o briodweddau pob un o’r cyflyrau mater.

Rhestr offer

Dylai pob grŵp o ddysgwyr feddu ar y canlynol:

  • Clorian electronig
  • Potel 500 ml o ddiod pop
  • Jwg mesur (sy’n dal o leiaf 500 ml)
  • Llwyau, gwellt yfed neu rywbeth arall i droi’r diodydd

Adnoddau ychwanegol

 

Downloads