Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i gael dysgwyr i feddwl am adeg pryd mae adwaith anghildroadwy yn cynhyrchu nwy

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar adweithio finegr a soda pobi i gynhyrchu nwy carbon deuocsid. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos arddangosiad y ‘llaw frawychus’, yna dysgwch sut mae cynnal hwn fel ymchwiliad i adweithiau anghildroadwy.

Amcanion dysgu

  • Disgrifio’r gwahaniaeth rhwng newid y gellir ei ddadwneud a newid na ellir ei ddadwneud.
  • Egluro sut y gall cymysgu rhai deunyddiau arwain at greu rhai newydd (yn yr achos hwn, carbon deuocsid yw un o’r rhain) ac nad oes modd dadwneud y math hwn o newid.
  • Deall bod nwyon yn ehangu i lenwi eu cynhwysydd.

Sgiliau ymholi:

  • Gallu defnyddio’r canlyniadau i wneud rhagfynegiadau er mwyn cynnal rhagor o brofion cymharol a theg.

Gwyliwch y fideo

Mae’r arddangosiad fideo isod yn dangos sut mae cynnal arbrawf y ‘llaw frawychus’.

Source: Royal Society of Chemistry

Make a freaky inflatable hand to demonstrate irreversible reactions to primary students.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Rhaid i ddysgwyr fod â dealltwriaeth o briodweddau solidau, hylifau a nwyon ac ymddygiad eu moleciwlau ym mhob cyflwr.

Rhaid i ddysgwyr hefyd fod wedi ymchwilio i newidiadau y gellir eu dadwneud a gallu rhoi enghreifftiau o newidiadau o’r fath.

Rhestr offer

  • Menig latecs untro (peidiwch â defnyddio menig golchi llestri) *alergeddau
  • Soda pobi
  • Finegr
  • Llwy de
  • Jar jam bach, cwpan neu ficer (dylai’r gwddf fod yn ddigon llydan i greu sêl dynn gyda’r menig)

Adnoddau ychwanegol