Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i ystyried newidiadau na fyddai modd eu dadwneud ac addasu newidynnau gwahanol

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar sut mae deunyddiau’n newid pan fyddant yn adweithio. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos y ‘bomiau bath’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr ddefnyddio cynhwysion tebyg i archwilio adwaith anghildroadwy.

Amcanion dysgu

  • Deall bod newidiadau cemegol yn cynhyrchu deunyddiau newydd ac na ellir eu dadwneud.

Sgiliau ymholi:

  • Cymryd mesuriadau.
  • Cofnodi data a chanlyniadau gan ddefnyddio diagramau a labeli gwyddonol.
  • Defnyddio canlyniadau profion i ragfynegi.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal arddangosiad y ‘bomiau bath’.

Source: Royal Society of Chemistry

Make a bath bomb with your primary students to investigate gases, and changing materials.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai dysgwyr fod yn gyfarwydd â’r canlynol yn barod:

  • Cyflyrau mater (deunyddiau fel solidau, hylifau a nwyon).
  • Toddi a rhewi fel newidiadau y gellir eu dadwneud.
  • Mae hydoddi yn newid y gellir ei ddadwneud.
  • Powdrau, sy’n solidau ar ffurf ronynnog.

Rhestr offer

Fesul pâr/grŵp

  • Biceri/cynhwysyddion
  • Llwyau/offer cymysgu o faint priodol neu symiau wedi’u mesur ymlaen llaw mewn casys cacennau
  • Pipedau (dewisol)/brwshys paent mân
  • Asid sitrig
  • Soda pobi
  • Dŵr
  • Olew (had rêp/olew babi) *alergeddau
  • Lliw bwyd/olew hanfodol ar gyfer lliw ac arogl *alergeddau
  • Halen
  • Stopwatshis

SYLWER: nid yw asid sitrig ar gael ym mhob archfarchnad. Gall fod yn haws dod o hyd iddo ar-lein neu lle mae deunyddiau bragu yn y cartref yn cael eu gwerthu.

Adnoddau ychwanegol