Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i gael dysgwyr i siarad am ddwysedd a faint o siwgr sydd wedi’i doddi yn eu hoff ddiodydd

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar faint o siwgr sydd wedi’i doddi mewn diodydd pop a sut mae hyn yn effeithio ar allu caniau diod pop i arnofio mewn dŵr. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos yr arddangosiad ‘siwgr trwm’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr edrych ar faint o siwgr sydd yn eu hoff ddiodydd pop.

Amcanion dysgu

  • Adnabod bod gwrthrychau’n arnofio ar lefelau gwahanol mewn perthynas â’u màs/dwysedd.
  • Gwybod bod màs yn mesur faint o fater sy’n gwneud y gwrthrych a’i fod yn cael ei fesur mewn gramau.
  • Deall bod dwysedd yn mesur faint o fàs sydd mewn cyfaint penodol.
  • Deall rôl siwgr mewn iechyd.

Sgiliau ymholi:

  • Rhagfynegi, arsylwi, a gwerthuso ymchwiliad gan roi rhesymau dros unrhyw esboniadau.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘siwgr trwm’.

Source: Royal Society of Chemistry

Investigate the amount of sugar in a soft drink by comparing its weight with a diet drink.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai’r dysgwyr ddeall bod gwrthrychau’n arnofio neu’n suddo gan ddibynnu ar eu dwysedd (faint o fàs defnydd sydd mewn cyfaint penodol) ac a yw hyn yn llai na’r hylif o’i gwmpas (bydd yn arnofio) neu’n fwy na’r hylif sydd o’i gwmpas (bydd yn suddo).

Dylen nhw fod yn gyfarwydd â chyflyrau mater - priodweddau sylfaenol solidau, hylifau a nwyon.

Rhestr offer

  • Tun o ddiod cola deiet
  • Tun o ddiod cola (yr un brand â’r tun deiet os yw’n bosibl)
  • Cwpan blastig dryloyw
  • Llwy de
  • Siwgr gronynnog
  • Clorian i bwyso (dewisol)
  • Tanc a dwy ran o dair ohono’n llawn dŵr
  • Mathau eraill o ddiodydd meddal

Adnoddau ychwanegol