Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i helpu dysgwyr i gymharu priodweddau gwahanol hylifau ac ymarfer trefnu prawf teg

This resource in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar ludedd gwahanol hylifau. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo ‘rasio hylifau’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr rasio gwahanol hylifau a’u trefnu yn ôl eu gludedd.

Amcanion dysgu

  • Deall mai mesur o wrthiant hylif i lif ydy gludedd.
  • Sylweddoli bod gludedd yn briodwedd ddefnyddiol sy’n perthyn i hylifau.
  • Deall bod modd trefnu hylifau yn ôl eu gludedd.

Sgiliau ymholi:

  • Gallu paratoi prawf cymharol i ystyried sut mae gwahanol fathau o hylifau yn llifo ar gyflymderau gwahanol.
  • Sylweddoli bod gan brawf cymharol/teg newidynnau y gellir eu newid a’u rheoli.
  • Cofnodi’r hyn a welwyd ac esbonio’r hyn a ddarganfuwyd.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘rasio hylifau’.

Source: Royal Society of Chemistry

'Race' liquids to investigate their viscosity with primary students.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai dysgwyr wybod bod grym (gwthio neu dynnu) ar wrthrych yn gallu newid ei siâp neu ei symudiad.

Dylent ddeall bod ffrithiant yn digwydd pan fydd deunyddiau’n rhwbio yn erbyn ei gilydd i wrthsefyll symudiad.

Dylid bod wedi cyflwyno dysgwyr i brofion cymharol neu deg. Dylent fod yn ymwybodol o’r hyn y gellir ei newid (y ‘newidynnau’) ac a allai hyn wneud gwahaniaeth i’r canlyniad.

Dylent ddeall y gall newid un newidyn (y newidyn annibynnol) gael effaith ar un arall (y newidyn dibynnol).

Rhestr offer

Detholiad o hylifau yn y cartref. Yn ddelfrydol, bydd y rhain yn debyg o ran lliw (ee melyn). Dylech roi 100–150 ml (tua ¼ cwpan fach) o bob hylif mewn cwpanau plastig i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad. 

Dyma rai enghreifftiau: 

  • Surop/triog
  • Sebon hylif
  • Finegr
  • Sôs coch
  • Sôs brown/sawsiau eraill
  • Cyflyrydd gwallt
  • Dŵr (gallech ei liwio i fod yn fwy tebyg o ran lliw i’r hylifau eraill a ddefnyddir)
  • Siampŵ
  • Olew coginio
  • Grefi
  • Coco

Cwpanau plastig clir. Rhowch y rhain yn sownd yn ei gilydd gyda thâp a thywallt swm mesuredig o hylif yn y gwpan isaf. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u selio’n dda fel nad oes modd i’r hylif ddianc. 

Adnoddau ychwanegol