Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn fel bod y dysgwyr yn gallu edrych ar effaith gwres ar nwyon

This resource in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar nwyon a phwysedd aer. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘cwpanau gludiog’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr edrych ar sut mae nwyon yn ehangu gan ddefnyddio dŵr, potel a balŵn.

Amcanion dysgu

  • Deall mai hylif ydy aer: mae’n llifo, gall newid siâp ac mae’n llenwi ei gynhwysydd.
  • Dysgu pan fydd aer yn cael ei gynhesu, bod y nwyon yn ehangu oherwydd bod mwy o wres.
  • Dysgu bod gronynnau mewn nwy yn symud o gwmpas, a phan fydd yn cael ei gynhesu mae’r symudiad hwn yn gyflymach ac yn achosi i’r aer ehangu y tu mewn i’w gynhwysydd.
  • Deall ein bod yn ei alw’n bwysedd aer pan rydyn ni’n ystyried grym aer dros ardal benodol.

Sgiliau ymholi:

  • Nodi newidynnau y gellir eu newid, eu mesur a’u rheoli.
  • Cofnodi’r hyn a welwyd ac esbonio’r hyn a ddarganfuwyd.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘cwpanau gludiog’.

Source: Royal Society of Chemistry

Demonstrate the expansion and contraction of gases and make a pair of cups stick together.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai dysgwyr ddeall y gwahaniaethau o ran gronynnau rhwng solidau, hylifau a nwyon. Dylent ddeall na ellir gweld nwyon. Dylent fod yn ymwybodol o’r ffaith bod aer yn cynnwys gwahanol nwyon a’i fod o’n cwmpas ni ym mhob man, a bod gronynnau nwy yn symud o gwmpas yn rhydd.

Rhestr offer

Arddangosiad:

  • 2 gwpan blastig dryloyw union yr un fath
  • Tegell
  • Papur cegin
  • Bicer plastig

Ymchwiliad unigol (bydd pob grŵp angen y canlynol):

  • Balŵn
  • Potel ddiod blastig 500 ml
  • 2 fowlen
  • Dŵr poeth (poeth o’r tap, ond ddim yn berwi)
  • Rhew a dŵr

Adnoddau ychwanegol