Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i edrych ar briodweddau solidau gronynnog a’u cymharu â phriodweddau dŵr

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar briodweddau solidau gronynnog. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos yr arddangosiad ‘bwrw bisgedi’, yna dysgwch sut mae cynnal yr ymchwiliad hwn gyda’ch dysgwyr.

Amcanion dysgu

  • Deall bod rhai solidau yn gasgliad o ronynnau bach iawn mae modd eu harllwys a’u bod yn cymryd siâp y cynhwysydd maen nhw’n cael eu harllwys iddo.
  • Ymchwilio i briodweddau solidau.

Sgiliau ymholi:

  • Rhagfynegi, arsylwi a chymharu.
  • Defnyddio sgiliau arsylwi i gymharu dau ddefnydd.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘bwrw bisgedi’.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Byddai’n ddefnyddiol i’r dysgwyr fod wedi cael profiad o archwilio priodweddau amrywiaeth o ddeunyddiau bob dydd, gan gynnwys solidau a hylifau. Mae’r gweithgaredd hwn yn un da i ddatblygu dealltwriaeth o solidau gronynnol.

Equipment list

  • 2 fisged digestive (cofiwch am unrhyw ofynion bwyd sydd gan unigolion, ee dim glwten, figan)
  • 1 bag papur a thâp papur neu 1 bag plastig ailseliadwy
  • 1 pin rholio (neu mae modd defnyddio dwylo)
  • 2 gynhwysydd dwfn, ee potiau iogwrt
  • 2 soser, dysglau Petri neu hambyrddau tec-awê
  • 1 bicer bach/jwg o ddŵr
  • Detholiad o cynwysyddion siapiau gwahanol (o’r bin ailgylchu)
  • 1 tabl canlyniadau
  • DEWISOL: chwyddwydr neu ficrosgop
  • DEWISOL: solidau powdrog eraill fel coffi gronynnog, siwgr, halen, blawd (*cofiwch am alergeddau bwyd)

Adnoddau ychwanegol