Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad hwn i ystyried adweithiau anghildroadwy a beth mae deunyddiau ei angen i losgi

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio carbon deuocsid i ddiffodd cannwyll. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos yr arddangosiad ‘diffoddydd tân’, yna dysgwch sut mae cynnal yr ymchwiliad gyda’ch dysgwyr.

Amcanion dysgu

  • Disgrifio’r gwahaniaeth rhwng newid y gellir ei ddadwneud a newid na ellir ei ddadwneud.
  • Egluro fel mae rhai newidiadau’n arwain at greu deunyddiau newydd (yn yr achos hwn, carbon deuocsid yw un o’r rhain) ac nad oes modd dadwneud y math hwn o newid fel arfer.
  • Deall bod rhai nwyon yn drymach nag eraill.

Sgiliau ymholi:

  • Deall beth yw newidynnau.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal yr arddangosiad ‘diffoddydd tân’.

Source: Royal Society of Chemistry

Put out a fire with a jug of carbon dioxide to demonstrate changing materials, irreversible reactions, and gases to primary students.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Byddai’r dysgwyr yn elwa ar ymchwilio i losgi fel proses nad oes modd ei dadwneud.

Rhaid i’r dysgwyr ddeall priodweddau solidau, hylifau a nwyon ac ymddygiad y moleciwlau ym mhob cyflwr.

Dylai’r dysgwyr hefyd fod wedi ymchwilio yn barod i newidiadau y gellir eu dadwneud a gallu rhoi enghreifftiau gwyddonol.

Dylai dysgwyr fod â rhywfaint o wybodaeth am brofi teg ac effaith newid y newidynnau.

Rhestr offer

  • Finegr
  • Soda pobi
  • Matsys hir (bydd matsys byr yn gweithio ond mae rhai hir yn helpu i atal llosgi bysedd)
  • Jwg fawr (tua 2 litr)
  • Canhwyllau bach
  • Powlen wydr (digon mawr i ddal o leiaf 5–6 o ganhwyllau bach er mwyn cael yr effaith orau)
  • Llwy bwdin
  • Dŵr/blanced tân (fel mesur diogelwch)

Adnoddau ychwanegol