Rhowch gynnig ar yr ymchwiliad syml hwn i ystyried effeithiau pwysedd aer

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar bwysedd aer, a gall helpu i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o rymoedd, disgyrchiant a phriodweddau aer. Gwyliwch y fideo sy’n dangos arddangosiad y ‘botel sy’n gollwng’ isod, ac yna dysgwch sut gall eich dysgwyr archwilio pwysedd aer eu hunain gan ddefnyddio pren mesur a phapur newydd.

Amcanion dysgu

  • Datblygu diffiniad syml o bwysedd o ran grym.
  • Datblygu ymwybyddiaeth o’r ffaith bod yr aer o’n cwmpas yn rhoi pwysau ar y gwrthrychau y mae’n dod i gysylltiad â nhw.
  • Deall, drwy arbrofion ymarferol, er nad yw pwysedd aer yn aml yn cael ei deimlo, bod modd gweld ac egluro’r hyn mae’n ei wneud.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal arddangosiad y ‘botel sy’n gollwng’.

Source: Royal Society of Chemistry

Investigate gases and atmospheric pressure with the Leaky Bottle experiment.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai dysgwyr wybod yn barod bod grym yn wthiad neu’n dyniad ac mai ardal yw’r lle mae siâp fflat neu arwyneb gwrthrych yn ei ddefnyddio.

Rhestr offer

Arddangosiad y botel sy’n gollwng (neu fesul grŵp os dymunir):

  • Potel ddŵr blastig gyda chaead sgriw
  • Map / pin gwthio
  • Hambwrdd plastig i ddal y dŵr gormodol
  • Dŵr i lenwi’r botel

Prif ymchwiliad (bydd pob grŵp angen y canlynol):

  • Pren mesur 30 cm
  • Dwy ddalen o bapur newydd yr un fath
  • Bwrdd clir gydag ymyl syth

Adnoddau ychwanegol