Ewch â dealltwriaeth eich dysgwyr o rymoedd ymhellach gyda’r ymchwiliad syml hwn i bwysedd aer a disgyrchiant

This resource is in Welsh and is also available in English and Irish

Mae’r arbrawf hwn yn canolbwyntio ar sut gall pwysedd aer oresgyn disgyrchiant. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo sy’n dangos y ‘botel gwrthddisgyrchiant’, yna dysgwch sut gall eich dysgwyr ymchwilio i bwysedd aer gan ddefnyddio cwpanau, dŵr a chardbord.

Amcanion dysgu

  • Deall ein bod yn sylwi ar rym aer pan mae’n symud gwrthrychau, ond mae gronynnau o aer yn symud drwy’r amser ac yn creu grymoedd nad ydym yn sylwi arnynt fel arfer.
  • Gwerthfawrogi bod aer yn creu grym, a bod y grym hwn yn gweithredu i bob cyfeiriad, nid dim ond ‘tuag i lawr’ tuag at y Ddaear.
  • Dysgu ein bod yn ei alw’n bwysedd aer pan rydyn ni’n ystyried grym aer dros ardal benodol.
  • Deall bod modd goresgyn effeithiau disgyrchiant os bydd pwysedd aer o faint digonol yn gweithredu i fyny ar wrthrych.

Sgiliau ymholi:

  • Rhagfynegi, a gwneud sylwadau a chymhariaethau.

Gwyliwch y fideo

Mae’r fideo isod yn dangos sut mae cynnal arddangosiad y ‘botel gwrthddisgyrchiant’.

Source: Royal Society of Chemistry

Demonstrate the power of atmospheric pressure to make an anti-gravity bottle with primary students.

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr

Ewch ati i osod a chynnal yr ymchwiliad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio’r nodiadau i athrawon a’r sleidiau dosbarth, sy’n cynnwys rhestr lawn o offer, dull, geiriau allweddol a diffiniadau, cwestiynau i ddysgwyr, cwestiynau cyffredin a mwy.

Nodiadau i athrawon

PDF | Dogfen Word mae modd ei golygu

Sleidiau dosbarth

PDF | Dogfen PowerPoint mae modd ei golygu

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Beth sydd angen i’r dysgwyr ei wybod gyntaf?

Dylai dysgwyr allu mynegi bod grym yn rhywbeth sy’n gwthio neu’n tynnu ac yn gweithredu ar wrthrychau. Dylent hefyd fod yn gyfarwydd â disgyrchiant fel math o rym sy’n tynnu gwrthrychau tuag at y Ddaear.

Dylai dysgwyr wybod beth yw ystyr ‘arwynebedd’ (mesur o arwyneb sy’n cael ei orchuddio), yn enwedig mewn perthynas â phetryalau a sgwariau.

Rhestr offer

  • Gwydr yfed neu dymbleri – gall hwn fod wedi’i wneud o blastig caled, ond nid un a fydd modd ei ‘wasgu’ yn y llaw
  • Darn o gerdyn gwastad a fydd yn ffitio dros agoriad y gwydr, ac yn ymestyn y tu hwnt iddo
  • Dŵr i lenwi’r gwydr
  • Hambwrdd gydag ochrau dwfn neu fasn i ddal dŵr sy’n gollwng

Llwytho’r deunyddiau ategol i lawr