Byddwch yn drefnus gyda’ch asesiadau risg er mwyn sicrhau bod eich gwaith cemeg ymarferol yn ddiogel
Gwaith ymarferol yw un o uchafbwyntiau addysg cemeg i lawer o fyfyrwyr. Mae’r asesiadau risg yr ydym yn eu cynnal, cyn ac yn ystod y gweithgareddau, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel yn ystod gwaith ymarferol. Weithiau gall asesiadau risg gael enw drwg, a hynny’n deillio, efallai, o brosesau gorfiwrocrataidd sy’n arwain at waith papur sy’n anodd ei ddeall neu prin yn cael ei ddefnyddio. Yn yr un modd, i rai, gall ystyriaethau iechyd a diogelwch ymddangos fel petaent yn atal y gweithgareddau y mae arnom eisiau eu defnyddio gyda’n myfyrwyr.
Mae asesiad risg da yn broses sy’n nodi’r peryglon, yn asesu’r risgiau ac yn lleihau’r risgiau hynny drwy ddefnyddio mesurau rheoli. Rydym yn asesu risgiau drwy’r amser. Pan fyddwn yn cerdded i lawr y stryd, a ddylem groesi’r ffordd ar y gyffordd brysur hon neu gerdded 20 metr ymhellach er mwyn cyrraedd y goleuadau traffig? O ystyried ein defnydd o gemegion, cyfarpar a thechnegau peryglus yn ein gwersi cemeg, ni ddylem ddisgwyl dim llai gennym ni ein hunain na chynnal asesiad risg da.
Ein cyfrifoldeb cyfreithiol
Y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) a’r rheoliadau dilynol, fel Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yw’r fframwaith cyfreithiol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddo. Mae’r cyfreithiau a’r rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar ein cyflogwyr ac arnom ni fel gweithwyr. Rhaid i gyflogwyr ddarparu amodau gwaith iach a diogel i weithwyr ac eraill (ee myfyrwyr), a darparu polisi, gwybodaeth a hyfforddiant ar iechyd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys asesu risgiau’r gweithgareddau yr ydym yn eu cyflawni yn ein gwaith. Rhaid i ni, fel gweithwyr, gymryd gofal rhesymol o’n diogelwch ni ein hunain a diogelwch pobl eraill, a chydweithredu â’n cyflogwr.
Mae profiad a synnwyr cyffredin yn bwysig wrth nodi peryglon, ac felly mae technegwyr ac athrawon mwy profiadol yn ffynhonnell werthfawr o ran cyngor
Yn ymarferol, ni fyddem byth yn disgwyl i’n pennaeth gynnal asesiad risg personol o’r gweithgareddau unigol yr ydym yn eu defnyddio. Yn hytrach, bydd yr ysgol yn darparu mynediad at asesiadau risg enghreifftiol arbenigol a chyngor gan sefydliadau fel CLEAPSS (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a SSERC (yn yr Alban). Disgwylir i ni, fel gweithwyr, addasu’r asesiadau risg enghreifftiol hyn i’n hamgylchiadau ni. Mae’r cyfrifoldeb hefyd yn cael ei ddirprwyo i benaethiaid adrannau i sicrhau bod arferion priodol yn cael eu rhoi ar waith.
In practice, we would never expect our head teacher to personally risk assess the individual activities we use. Instead, the school will provide access to expert model risk assessments and advice from organisations such as CLEAPSS (in England, Wales and Northern Ireland, bit.ly/4sVRliX) and SSERC (in Scotland, bit.ly/479fDO7). We are expected, as employees, to adapt these model risk assessments to our circumstances. Responsibility is also delegated to heads of departments to ensure the implementation of appropriate practice.
Gellir crynhoi’r broses o asesu risgiau mewn tri cham:
- Nodi’r peryglon
- Asesu’r risgiau
- Lleihau’r risgiau drwy ddefnyddio mesurau rheoli
Gall y peryglon gynnwys y cemegion sy’n cael eu defnyddio (a’u cynhyrchu), y cyfarpar dan sylw a’r gweithdrefnau sy’n cael eu cynnal. Mae gan bob cemegyn peryglus symbolau rhybuddio sy’n dangos a yw’r cemegyn yn docsig, yn gyrydol, yn llidus ac ati. Gall peryglon cyfarpar gynnwys ymylon miniog (cyllyll llawfeddyg, llestri gwydr ac ati), tymheredd eithafol (llosgyddion Bunsen, iâ ac ati) a chylchedau trydanol (cloriannau, baddonau dŵr ac ati). Mae profiad a synnwyr cyffredin yn bwysig wrth nodi peryglon, ac felly mae technegwyr ac athrawon mwy profiadol yn ffynhonnell werthfawr o ran cyngor.
Mae dau ffactor sy’n gysylltiedig â risg. Yn gyntaf, beth yw’r tebygolrwydd y bydd unrhyw niwed yn digwydd, ac yn ail, pa mor ddifrifol fydd y niwed hwnnw? Mae asid yn llawer mwy tebygol o gael ei ollwng ymysg grŵp o blant 11 oed nag ymysg grŵp 16 oed a hŷn, gan y bydd gan y myfyrwyr hŷn fwy o brofiad a mwy o ddeheurwydd â’u dwylo. Cofiwch, ein myfyrwyr yw un o’r ffynonellau risg mwyaf yn ein gwersi. Os bydd unrhyw beth yn cael ei ollwng, mae cyswllt croen ag asid hydroclorig 0.1 M yn llawer llai difrifol na chyswllt ag asid hydroclorig crynodedig.
Lleihau’r risgiau
Ar ôl nodi’r peryglon a’r risgiau, ein cyfrifoldeb ni yw lleihau’r risgiau hynny i’r lefel isaf sy’n ymarferol, a hynny drwy roi mesurau rheoli ar waith. Camau rydym ni’n eu cymryd i leihau’r niwed a fydd yn cael ei achosi os bydd rhywbeth yn mynd o’i le yw mesurau rheoli. Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen i’r mesurau rheoli hyn fod yn gymesur â’r risgiau dan sylw. Gall diffyg cymesuredd arwain at lawer o’r camsyniadau iechyd a diogelwch y mae’r rhai sy’n llunio penawdau’r papurau newydd mor hoff ohonynt. Cofiwch yr ysgol oedd yn gwneud i’r myfyrwyr wisgo goglau cyn chwarae concyrs.
Mae amrywiaeth eang o fesurau rheoli ar gael ac mae eu heffeithiolrwydd cyffredinol yn lleihau wrth i chi fynd yn is i lawr y pyramid hierarchaeth mesurau rheoli.

Dileu yw’r mesur rheoli mwyaf effeithiol. Os nad yw’r perygl yn bresennol, ni all achosi niwed. Nid yw bensen yn cael ei argymell mewn ysgolion oherwydd ei fod yn garsinogenaidd. Gan fod petrol yn fformiwleiddiad sy’n cynnwys tua 1% o fensen, nid ydym yn defnyddio petrol mewn gwersi gwyddoniaeth yn yr ysgol chwaith. Fodd bynnag, gellir defnyddio neu greu cemegion tocsig fel sylffwr deuocsid a chlorin, os oes mesurau rheoli da yn cael eu rhoi ar waith. Er enghraifft, defnyddio cwpwrdd gwyntyllu neu leihau graddfa’r arbrawf. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn y llyfr a ysgrifennais gyda Bob Worley, Understanding chemistry through microscale practical work.
Yr ail fesur rheoli mwyaf effeithiol yw amnewid. Y math symlaf o amnewid yw defnyddio’r crynodiad isaf o sylwedd sydd ei angen i gynhyrchu’r deilliant gofynnol. Er enghraifft, mae llawer o adweithiau cyffredin gydag asid hydroclorig mewn gwaith ymarferol gyda myfyrwyr iau nag 16 oed yn gweithio’n iawn gyda hydoddiant 0.4 M. Yn yr un modd, gellir amnewid sylweddau peryglus, fel ffenol, yn effeithiol â dewisiadau amgen mwy diogel, fel methyl 4-hydrocsibensoad.
Mesur rheoli peirianyddol yw cypyrddau gwyntyllu, y soniwyd amdanynt uchod. Mae sgriniau diogelu hefyd yn gyffredin, gan ddiogelu myfyrwyr ac oedolion pan fydd adweithiau ffrwydrol yn cael eu cynnal. Mae dangos adweithedd metelau grŵp 1 gyda dŵr yn enghraifft dda.
Elimination is the most effective control measure. If the hazard is not present, it cannot cause harm. In schools, benzene is not recommended because it is carcinogenic. As petrol is a formulation containing approximately 1% benzene, we don’t use petrol in school science either. However, toxic chemicals such as sulfur dioxide and chlorine can be used, or made, assuming good control measures are put in place. For example, by using a fume cupboard or reducing the scale of the experiment (rsc.li/4bJKFh0). You can learn more about this in the book I wrote with Bob Worley, Understanding chemistry through microscale practical work.
Substitution is the next most effective control measure. The simplest form of substitution is using the lowest concentration of a substance necessary to produce the required outcome. For example, many common reactions with hydrochloric acid in pre-16 practicals work fine with a 0.4 M solution. Similarly, hazardous substances, such as phenol, can be effectively substituted with safer alternatives, like methyl 4-hydroxybenzoate.
Fume cupboards, as mentioned above, are a type of engineering control. Safety screens are also common, protecting students and adults when explosive reactions are carried out. Showing the reactivity of group 1 metals with water provides a good example (rsc.li/4lUeBvC).
Gellir ystyried mesurau rheoli gweinyddol fel ffyrdd o weithio. Er enghraifft, sut ydym ni’n hyfforddi ein myfyrwyr i feddwl am eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill yn y labordy; sut maent yn symud o amgylch y lle, sut maent yn cael gafael ar gyfarpar a deunyddiau?
Ystyrir mai cyfarpar diogelu personol (PPE) yw’r dull lleiaf effeithiol o leihau risg. Cyfarpar amddiffyn y llygaid yw’r cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei ddefnyddio amlaf. Mae sbectol diogelwch yn iawn ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau. Mae goglau gwrthdasgu yn rhoi mwy o amddiffyniad ac maent yn angenrheidiol wrth ddefnyddio rhai cemegion. Fodd bynnag, maent yn llai cyfforddus i’w gwisgo ac yn dueddol o stemio. Mae hyn yn tueddu i olygu bod y myfyrwyr yn tynnu eu goglau yn amlach, gan olygu eu bod yn llai defnyddiol fel mesur rheoli.
Personal protective equipment (PPE) is classed as the least effective method of reducing risk. Eye protection is the most used PPE. Safety spectacles are fine for most activities, while splashproof goggles provide increased protection and are necessary when using some chemicals. However, they are less comfortable to wear and prone to misting. This tends to lead to students removing their goggles more often, making them less useful as a control measure. Ensure you have checked the health and safety regulations that are stipulated by your school, council or trust.
Asesiadau risg a gweithdrefnau enghreifftiol
Mae asesiadau risg enghreifftiol CLEAPSS a SSERC ar gael ar amrywiaeth o ffurfiau. Er enghraifft, mae cardiau peryglon CLEAPSS a chronfa ddata cemegion peryglus SSERC yn rhoi gwybodaeth fanwl am wahanol ffurfiau llawer o sylweddau cyffredin a ddefnyddir mewn gwaith ymarferol. Mae gweithdrefnau gwaith ymarferol CLEAPSS yn cynnwys manylion am sut i gyflawni gweithgareddau’n llwyddiannus. Mae cyfarwyddiadau, fideos ac adnoddau ar gyfer tasgau ymarferol hefyd ar gael ar y dudalen adnoddau gwaith ymarferol yn adran addysg gwefan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC). Mae’r Fideo o dasg ymarferol paratoi halwyn yn adnodd gwych i dynnu sylw eich myfyrwyr 14–16 oed at risgiau, peryglon a mesurau rheoli. Mae’r Adnoddau ategol yn cynnwys asesiad risg i ddysgwyr ei gwblhau hefyd.
Model risk assessments and procedures
The CLEAPSS and SSERC model risk assessments come in a variety of forms. For example, CLEAPSS hazcards (bit.ly/3Pdq25k) and the SSERC hazardous chemicals database (bit.ly/479fDO7) provide detailed information about the various forms of many common substances used in practical work. The CLEAPSS practical procedures (bit.ly/4sZoQkt) include details of how to successfully carry out activities. Practical instructions, videos and resources are also available on the RSC Education Practical resources page (rsc.li/4d5wZiC). The preparing a salt practical video is a great resource to highlight risks, hazards and control measures to your 14–16 students (rsc.li/3NVVgxl). The supporting resources include a risk assessment for learners to complete, too.
I grynhoi, asesu risgiau yw’r broses yr ydym yn ei defnyddio i leihau cymaint â phosibl ar y risgiau sy’n ein hwynebu ni i gyd wrth alluogi myfyrwyr i ddysgu a phrofi rhyfeddodau cemeg. Mae asesiadau risg enghreifftiol yn rhoi arweiniad proffesiynol i ni fel man cychwyn. Yna, rydym yn eu haddasu i ystyried ein hamgylchiadau penodol. Rydym yn parhau i asesu risgiau yn ystod arbrofion ymarferol. Os nad yw pethau’n gweithio, neu os nad yw’r ymddygiad yn briodol, y cam mwyaf diogel, weithiau, yw rhoi’r gorau i’r gweithgaredd a rhoi cynnig arall arno rywbryd eto. Mae asesiadau risg yn ein galluogi i wneud ein gwaith yn ddiogel ac yn broffesiynol.
Ydych chi’n edrych i ddatblygu sgiliau asesu risg eich myfyrwyr? Darllenwch Sut mae addysgu sgiliau asesu risg.
What’s next?
Read this article on teaching risk assessment skills to develop your students’ skills: rsc.li/4t1izET
David Paterson







No comments yet