Dysgwch pam mae cydweithio, cysondeb a myfyrio yn allweddol er mwyn rheoli ymddygiad yn llwyddiannus ar draws yr ysgol gyfan

Derbynnir yn gyffredinol bod polisïau ymddygiad yn cael mwy o effaith ar gyrhaeddiad disgyblion os ydynt yn cael eu gweithredu’n gyson ar draws yr ysgol gyfan. Yn aml, mae’n haws dweud na gwneud hyn, oherwydd fel y bydd unrhyw un sy’n rhoi cynnig ar drefn ffitrwydd newydd yn gwybod, y peth anoddaf yw cadw cymhelliant a glynu at drefn reolaidd. Felly y mae pethau yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Gall pob un ohonom sicrhau ymdeimlad o gysondeb drwy gyfathrebu, gwneud strategaethau syml ond effeithiol yn rhan o’n trefn reolaidd, caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd tryloyw, a myfyrio’n rheolaidd ar ein hymarfer i sicrhau ein bod yn parhau i wneud yr hyn sy’n gweithio.
1. Cyfathrebu

Mae cyfathrebu’n hollbwysig ar gyfer unrhyw bolisi llwyddiannus. Mae defnyddio strategaethau effeithiol er mwyn rheoli’r ystafell ddosbarth, fel pennu rheolau eich labordy ar ddechrau’r flwyddyn, yn gweithio orau fel proses gydweithredol gyda’ch myfyrwyr. Gall hyn helpu eich myfyrwyr i deimlo eu bod yn rhan o’r broses, a sicrhau nad ydynt yn meddwl bod y polisi ymddygiad yn rhywbeth sy’n cael ei orfodi arnynt.
Gallech arddangos polisi eich ysgol a gofyn i’r myfyrwyr: ‘Sut gallwn ni gyflwyno hyn yn y labordy gwyddoniaeth?’ Bydd hyn yn eu hannog i feddwl am sut i wneud mân addasiadau i’r polisi yng nghyd-destun gwersi gwyddoniaeth, gan ddal i gwrdd â’r disgwyliadau craidd. Er enghraifft, sut dylent gyrraedd eich gwers? Yn aml, bydd myfyrwyr yn ciwio y tu allan i’r labordy gwyddoniaeth yn hytrach na mynd i mewn ar unwaith fel gyda gwersi eraill. Gall gosod disgwyliad clir o’r hyn mae arnoch eisiau iddynt ei wneud o’r dechrau helpu myfyrwyr i ddeall sut i gydymffurfio; ac mae creu ymwybyddiaeth glir o’r rheolau hyn yn allweddol er mwyn cadw atynt. Bydd hefyd yn manteisio ar ymdeimlad cryf y myfyrwyr o gyfiawnder. Mae hyn yn sicrhau cysondeb ar draws yr ysgol, ac yn osgoi’r gŵyn gyffredin bod gan wahanol athrawon wahanol reolau.
2. Defnyddio strategaethau syml
Y newyddion da yw nad oes angen ailddyfeisio’r olwyn er mwyn defnyddio strategaethau ymddygiad cyson. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw newid ein pwyslais o ran yr hyn yr ydym yn ei gadw a’r hyn yr ydym yn cael gwared arno, ac ymgorffori’r dulliau syml hyn yn rhan o’n trefn reolaidd. Mae’r dystiolaeth yn dangos effeithiolrwydd cymhareb hud 5:1 rhwng rhyngweithio cadarnhaol a rhyngweithio negyddol. Gall fod yn ddefnyddiol iawn categoreiddio pa rai o’ch strategaethau sy’n rhan o reoli ymddygiad yn gadarnhaol, a pha rai sy’n seiliedig ar sancsiynau. Gall newid eich pwyslais a ffafrio’r strategaethau cadarnhaol – fel defnyddio systemau gwobrwyo, canmol ymdrech a chreu perthynas gadarnhaol gyda’ch disgyblion – eich helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol. Gall hyn fod mor syml â chyfarch pob myfyriwr wrth ei enw bob tro y bydd yn dod i mewn i’ch ystafell ddosbarth, neu ofyn i’r myfyriwr beth a wnaeth dros y penwythnos yn y wers gyntaf bob wythnos.
Dal ati i wneud y pethau syml yn dda, a’u gwneud yn rheolaidd
Mae gwneud ymdrech i ffonio’r cartref am ymddygiad cadarnhaol yn ogystal ag ymddygiad negyddol yn helpu i feithrin perthynas gadarnhaol gyda’ch myfyrwyr. Mae llawer o’r technegau hyn yn debygol o fod yn bethau rydych chi wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen. Daliwch ati i wneud y pethau syml yn dda, a’u gwneud yn rheolaidd
3. Bod yn hyblyg, nid yn anghyson

Un camsyniad cyffredin yw bod cysondeb yn gyfystyr â dim goddefgarwch, ond nid yw hyn o reidrwydd yn wir am reoli ymddygiad yn effeithiol. Mae tryloywder ymhlith staff a myfyrwyr am bolisi’r ysgol yn bwysicach na hyn. Dylai hyn gynnwys polisïau syml, effeithiol ar gyfer yr ystafell ddosbarth sy’n caniatáu i bob athro ddilyn yr un egwyddorion cyffredinol ond gan gydnabod na all athrawon ddefnyddio un dull sy’n addas i bawb. Bydd angen i chi wneud newidiadau er mwyn gweithredu’r polisi ar gyfer gwahanol bynciau a lleoliadau yn yr ysgol, yn ogystal ag ar gyfer nifer fach o unigolion sydd ag anghenion penodol. Ni ddylai’r addasiadau hyn, a fydd wedi’u hystyried yn ofalus, wrthdroi’r polisi’n llwyr, gan ymddangos fel petaent yn caniatáu mwy o ryddid i rai disgyblion nag i eraill. Yn hytrach, maent yn helpu i gynnal uniondeb polisi’r ysgol, gyda rhai strategaethau nad ydynt bob amser yn gweithio i bawb neu’n gweddu’n berffaith i bob cyd-destun.
Os yw staff a disgyblion yn agored am yr angen am ddulliau wedi’u teilwra er mwyn gweithredu polisïau sydd er budd pawb, yna gall myfyrwyr ac athrawon gydnabod y cysondeb sylfaenol ym mhopeth a wnawn. Mae’r ethos yr un fath ond gall y dulliau gweithredu amrywio.

4. Bod yn barod i fyfyrio’n barhaus
Mae myfyrio’n barhaus ar strategaethau rheoli ymddygiad yn rhoi cyfleoedd rheolaidd i adolygu’r hyn nad yw’n gweithio. Dylech gyfleu a rhannu syniadau â chydweithwyr. Gallwch ofyn cwestiynau fel: ‘Pa strategaethau ymddygiad sydd wedi bod fwyaf effeithiol i chi o ran dechrau’r wers yn ddigynnwrf?’, neu ‘Ydych chi wedi dod o hyd i strategaeth sy’n gweithio ar gyfer y dosbarth/disgybl/gwaith ymarferol hwn?’ Gall sgyrsiau rheolaidd, bwriadol sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ddefnyddio’r technegau mwyaf llwyddiannus. Gallai trafodaeth fer, bum munud o hyd, ym mhob cyfarfod adran, neu rannu awgrym yr wythnos yng nghylchlythyr y staff, fod yn ddigon i ddechrau sgwrs reolaidd.
Mae’r ffaith ein bod eisoes yn gwneud llawer o bethau’n iawn yn fy ysgol o ran rheoli ymddygiad wedi tawelu fy meddwl; mae llawer o argymhellion adroddiad canllaw’r EEF, ‘Improving behaviour in schools’, eisoes yn rhan o’n strategaethau. Yr oll sydd ei angen yw gwreiddio ein dull gweithredu’n fwy bwriadol. Mae dadansoddi’r strategaethau syml yr ydym eisoes yn eu defnyddio a symud y naratif tuag at agwedd gadarnhaol gyson, sicrhau bod polisi’r ysgol gyfan yn plethu’n glir drwy bopeth yr ydym yn ei wneud, cyfleu’r ethos hwn i fyfyrwyr ac i gydweithwyr, a myfyrio’n rheolaidd ar ein hymarfer i gyd yn gallu cael effaith enfawr ar reoli ymddygiad. Yr oll sydd ei angen yw cysondeb!
Louise Glynn is a chemistry specialist and teaching and learning lead teacher








No comments yet