Peidiwch â gwneud môl a mynydd ohoni: syniadau ar gyfer mynd i’r afael â’r uned hollbwysig hon
Mae’r môl, fel pwnc, yn ddigon i ddychryn athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd. Rydw i’n siŵr bod yna sawl person ifanc 16 oed y byddai’n well ganddo pe na bai Avogadro erioed wedi darganfod ei ddeddf nwyon yn 1811, a hynny wedyn yn ysgogi’r enillydd gwobr Nobel blaenllaw Jean Baptiste Perrin i gynnig enwi cysonyn Avogadro yn 1909.
Does dim ffyrdd cyflym o addysgu’r môl. Mae’n bwnc sydd angen amser a chynllunio gofalus, ond gallwch wneud rhai mân newidiadau i roi hwb i’ch addysgu ar gyfer yr uned hanfodol hon.
The subject of the mole has a fearsome reputation among both teachers and students. I am sure there are 16 year-olds who wish that Avogadro had never discovered his gas law in 1811, leading Nobel laureate Jean Baptiste Perrin to propose the naming of Avogadro’s constant in 1909.
There are no shortcuts when it comes to teaching moles. It’s a topic that needs time and careful planning, but there are some small tweaks that can boost your teaching of this crucial unit. To help learners, display our moles poster (rsc.li/3B49vcL) in your classroom, find out the common misconceptions in this post-16 CPD article (rsc.li/3Xq5RRS) and use these tips.
1. Cydweithio ag athrawon eraill
Beth am daflu syniadau am ddilyniannau dysgu gydag athrawon eraill, yn yr adran ac mewn adrannau eraill, i ddod o hyd i’r ffordd orau o fynd i’r afael â molau? Nid pennu trefn yr addysgu yw diben manylebau arholiadau, ac mae gwahanol garfanau o fyfyrwyr yn ymateb yn wahanol i’r pwnc hwn, sy’n llawn cyfrifiadau. Rydw i wedi cael dosbarthiadau lle rydw i wedi addysgu pob cyfrifiad môl mewn un bloc dros ychydig wythnosau ac mae’r myfyrwyr wedi dod yn eu blaenau’n dda. Ond rydw i hefyd wedi gorfod defnyddio dull arafach, gan blethu’r cyfrifiadau â phynciau eraill i roi amser i’r dysgwyr atgyfnerthu eu gwybodaeth cyn ychwanegu mwy.
Brainstorm learning sequences with other teachers to find the best way to tackle moles. Talk to the maths department to share ideas and techniques (rsc.li/3XFWa3i). Exam specifications are not a teaching order, and different cohorts of students respond differently to this calculation-heavy topic. I’ve had classes to whom I’ve taught every single mole calculation in the same block over just a few weeks and they’ve thrived on it. But I’ve also had to take a slower approach, interleaving the calculations with other topics to allow time for learners to consolidate knowledge before adding more.
2. Dysgu’r hanfodion

Defnyddiwch gydweddiadau, ond gwnewch yn siŵr bod y myfyrwyr yn eu deall cyn i chi wneud hynny. Y cydweddiad mwyaf cyffredin yw mai’r cyfan yw môl yw nifer penodol o ronynnau, fel y mae dwsin yn nifer penodol o rosynnau, toesenni, wystrys neu wyau. Yn nyddiau siopa cyfleus ac archfarchnadoedd yn danfon nwyddau i’n cartrefi, mae’n debyg nad oes yna lawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu hanfon i’r siop i brynu 12 wy. Os yw’r diffyg cyfalaf cymdeithasol hwn yn broblem yn eich dosbarth, gallai cyflwyno enwau yn hytrach na niferoedd ar gyfer meintiau, fel dwsin, cwpl, a gros (deuddeg dwsin), fod yn fan cychwyn defnyddiol.
3. Addasu eich addysgu
Rhowch gynnig ar wahanol gyfuniadau o fformiwlâu a datganiadau o gyfrannedd er mwyn helpu’r myfyrwyr i gofio’r hyn y maent yn ei ddysgu. Rydym yn defnyddio molau mewn llawer o wahanol gyfrifiadau, gan eu hamnewid am y symbol n mewn llawer o fformiwlâu. Mae gwahanol ddulliau o ddangos y berthynas yn gweithio i wahanol fyfyrwyr. Mae’n well gan rai myfyrwyr i folau gael eu cyflwyno iddynt fel fformiwlâu mathemategol. Mae dysgu n = cv/1000 a molau = màs/màs fformiwla cymharol yn ffordd dda iddynt gofio. Mae myfyrwyr eraill angen clywed stori’r berthynas fathemategol – yr hyn sy’n gweithio orau iddynt yw esboniadau sydd wedi’u geirio’n dda, fel ‘mae gan un môl o elfen fàs sy’n gyfwerth â’i màs atomig cymharol’. Ceisiwch baratoi sawl ffordd wahanol o gyflwyno’r cysyniadau allweddol fel y gallwch roi’r cyfle gorau i’ch holl fyfyrwyr ddeall y pwnc anodd hwn.
Try combinations of formulas and statements of proportion to help learning stick. We use moles in many different calculations, with the symbol n substituted into lots of formulas. Different methods of showing the relationships work for different students. Some students prefer moles presented to them like mathematical formulas. Learning n = cv/1000 and moles = mass/relative formula mass stick well for them. Other students need the story of the mathematical relationships – well-phrased explanations such as ‘one mole of an element has a mass equivalent to its relative atomic mass’ work best for them. Try to have a few different ways of presenting the key concepts so you can give all your students the best chance of understanding this difficult topic.
4. Rhoi cynnig ar fodelu byw
Weithiau, nid yw’r myfyrwyr yn gwybod ble i ddechrau. Er mai fy nghyngor i, bob amser, fyddai dod o hyd i ffordd o gyfrifo molau, nid ydynt yn gallu gweld sut i gymryd yr wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yn y cwestiwn a dechrau arni. Gall dangos eich ffordd o feddwl gan ddefnyddio delweddwr neu ddyfais tabled wneud gwahaniaeth mawr o ran helpu’r myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau rhesymu sydd eu hangen arnynt i ddadgodio’r cwestiwn. Mae defnyddio modelu byw ar gyfer camau syml fel amlygu’r rhifau (a’u hunedau) sy’n cael eu rhoi yn y cwestiwn a phenderfynu wedyn pa rai o’r cyfrifiadau molau y mae’r rhifau hynny’n cyd-fynd â nhw yn helpu’r myfyrwyr i ddechrau ateb y broblem. Os nad ydych wedi addysgu’r pwnc hwn o’r blaen, mae’n ddefnyddiol ymarfer modelu byw cyn y sesiwn. Gallwch wneud hyn drwy recordio fideo o’ch addysgu, neu ysgrifennu eich prosesau meddwl ar dudalen ar wahân wrth i chi fynd ati i ddatrys problem.
Sometimes students just don’t know where to start. Although my advice would always be to find a way to calculate moles, they don’t see how to take the information presented in the question and begin. Showing your thinking using a visualiser or tablet can really help students develop the reasoning skills they need to decode the question. Live modelling simple steps such as highlighting the numbers (and their units) given in the question and then deciding which of the mole calculations those numbers fit into helps students make a start on a problem. If you are new to teaching this topic it’s useful to rehearse live modelling in advance of the session. You can do this by recording a video of your teaching, or simply writing down your thought processes on a separate page as you work through a problem.
Cofiwch fod hyn yn newydd i’r myfyrwyr
Fel athro sydd wedi deall molau ers amser maith, gall fod yn anodd dychmygu peidio â gwybod am y cysyniad craidd hwn. Cofiwch y gall fod yn gysyniad anodd iawn i ddechreuwyr – hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y myfyrwyr yn ei ddeall yn hawdd, ceisiwch beidio â hepgor mynd ati’n bwrpasol i ymarfer pob cam yn y dilyniant dysgu.
Marathon yw dysgu molau, nid ras wib, a bydd eich gwersi’n esblygu wrth i chi weld sut mae’r myfyrwyr yn ymateb. Mewn 18 mlynedd a mwy o addysgu, dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi addysgu’r uned hon yn yr un ffordd ddwywaith.
Kristy Turner








No comments yet