Mae gan bob myfyriwr wir awydd llwyddo. Defnyddiwch y camau syml hyn i’w helpu i wneud hynny

Mae rheoli ymddygiad yn rhan eithriadol o bwysig o’n crefft. Mae athrawon cemeg yn wynebu’r dasg hon yn y math mwyaf heriol o ystafelloedd dosbarth, sef labordai gwyddoniaeth. Ar ben hyn, mae ein holl fyfyrwyr yn unigryw ac mae ganddynt anghenion gwahanol, felly er bod yna ddulliau ac arferion da sy’n gweithio i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, all athrawon ddim defnyddio un dull sy’n addas i bawb. Mae argymhelliad 5 yn adroddiad canllaw Improving behaviour in schools y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) o 2019 yn rhoi sylw manwl i hyn, gan edrych ar bwysigrwydd defnyddio dulliau wedi’u targedu i ddiwallu anghenion unigolion. Os gallwn wneud hyn yn iawn, gallwn sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i lwyddo.
Gwnewch yn siŵr bod gennych ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr yn eich ystafell ddosbarth
Wrth dargedu anghenion myfyrwyr, mae’n bwysig deall bod y rhan fwyaf o ddisgyblion eisiau llwyddo. Gall llwyddiant fod yn wahanol i bawb ac mae mor bwysig ein bod ni fel athrawon yn arwain ein disgyblion tuag at lwyddiant unigol. Dylem ddefnyddio dull addasol a hygyrch o ymdrin â gwersi fel y gall disgyblion gyfrannu mewn ffyrdd y maent yn gyfforddus â hwy. Pan fyddant yn ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, gall fod yn haws i unigolion ddatblygu perthynas waith a dechrau bodloni disgwyliadau’r ysgol.
1. Defnyddio pasbortau i gael mynediad

Fel athrawon, rydym ni wastad yn cynllunio ar gyfer atebion i sefyllfaoedd a allai godi yn ein gwersi. Wrth weithio gyda disgyblion sy’n fwy o her, mae’n bwysig cadw at y dull rhagweithiol hwn a chydweithio ag eraill i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’r ymddygiadau. Ar gyfer disgyblion ag ADY , bydd gan Gydlynydd ADY yr ysgol strategaethau ar waith ar gyfer unigolion a gwybodaeth a fydd yn eich helpu i ddarparu dulliau gweithredu wedi’u targedu, gan gynnal cysondeb ar gyfer y myfyrwyr hynny ar yr un pryd. Drwy dreulio amser yn darllen pasbortau’r disgyblion yn eich ystafell ddosbarth ac ymarfer rhoi’r strategaethau ar waith, dylech gael gwell darlun o bob unigolyn a beth gallwch chi ei wneud i’w helpu i fod yn fwy llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth.
2. Bod yn barod i ddefnyddio system adroddiadau
Os yw’r ymddygiad yn datblygu i fod yn heriol iawn, gall defnyddio system adroddiadau i nodi targedau allweddol ar gyfer myfyriwr wneud gwahaniaeth mawr. Mae adroddiadau’n fuddiol mewn achosion o ymddygiad gwael, ond gallant hefyd feithrin myfyrwyr sy’n gweithio’n well pan fyddant yn cael cyfarwyddiadau manwl ar gyfer gwers. Mae’r adroddiad yn rhoi llwybr clir i chi arwain myfyriwr at lwyddiant yn eich amgylchedd addysgu. Rhowch nodau clir a chyraeddadwy i’r myfyriwr a’i annog i geisio sicrhau bod ei ymddygiad yn cyd-fynd â’i dargedau personol. Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi sancsiynau ar waith os na fydd y myfyriwr yn cyrraedd y safonau y cytunwyd arnynt. Drwy ddefnyddio ffin gyson, gall y disgybl weld beth sydd ei angen i lwyddo yn yr ystafell ddosbarth.

3. Codi lefel y disgwyliadau
Mae cysondeb yn egwyddor gyffredin yn argymhellion rheoli ymddygiad yr EEF. Ar yr wyneb, gall hyn ymddangos fel pe bai’n mynd yn groes i’r syniad o ddull gweithredu wedi’i dargedu. Siawns nad yw cysondeb yn bosibl os ydym yn defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer gwahanol bobl?
Ond mae mwy nag un ffordd o fynd ati. Wrth ystyried ymddygiad priodol yn yr ystafell ddosbarth, ffordd well o’i eirio fyddai: mae mwy nag un ffordd o fod â disgwyliadau uchel ar gyfer unigolion yn eich ystafell ddosbarth. Efallai fod hynny’n fwy geiriog ac yn llai bachog, ond mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gennych ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr yn eich ystafell ddosbarth.
Ond pam mae disgwyliadau uchel mor bwysig? Mae’r dulliau wedi’u targedu uchod yn enghreifftiau o sut i greu amgylchedd cadarnhaol i fyfyrwyr, ond mae’n hanfodol eu bod yn cael eu gweithredu. Peidiwch â syrthio i’r fagl o osod disgwyliadau is ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion penodol. Yn y bôn, rydym yn hyrwyddo’r hyn yr ydym yn ei ganiatáu yn ein hystafelloedd dosbarth, felly drwy eithrio myfyrwyr o’n disgwyliadau pan na ddylem wneud hynny, nid ydym yn gwneud ein gorau drostynt.
4. Cymryd perchnogaeth
Mae’n bwysig cofio nad dim ond chi sy’n gyfrifol am yr ymddygiad, yr agweddau a’r diwylliant ar draws eich ysgol – cyfrifoldeb yr uwch dîm arwain yw hynny. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cymryd perchnogaeth dros yr ymddygiadau yn eich ystafell ddosbarth ac yn myfyrio ar eich ymarfer eich hun. Dros amser, wrth i berthnasoedd ddatblygu ac wrth i chi ddeall anghenion penodol myfyrwyr yn eich ystafell ddosbarth yn well, mae’n dod yn haws bod yn rhagweithiol a sicrhau bod yr amgylchedd rydych chi’n ei feithrin yn un sy’n caniatáu i bob myfyriwr ffynnu ac, yn y pen draw, dysgu.

Cofiwch: dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae profiad pobl eraill yn eich ysgol (a thu hwnt) yn allweddol. Gan fod gofyn i athrawon ac ysgolion wneud mwy a mwy dros ein cymunedau, rhaid i ni barhau i addasu a datblygu ein dealltwriaeth o anghenion cymhleth y myfyrwyr yr ydym yn ddigon ffodus i’w haddysgu.
Awydd rhagor o awgrymiadau rheoli ymddygiad?
Yna darllenwch erthygl Louise Hussein ar sut i ymgorffori cysondeb yn fwriadol yn eich addysgu i wella ymddygiad yn eich ystafell ddosbarth.



No comments yet