Ydych chi erioed wedi tybio ai dim ond eich myfyrwyr chi sy’n cwyno bod eu goglau’n cwympo oddi ar eu trwynau? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, fel y dywed Kristy Turner yn yr erthygl ddoniol hon ar reoli ymddygiad yn y labordy

A chemistry teacher demonstrating a practical while her student exhibit some worrying behaviour

Ffynhonnell: © Adam Larkum via IllustrationX

Ymddygiad: mae’n debyg mai dyma bryder mwyaf athrawon newydd ac athrawon profiadol fel ei gilydd. Dyma’r agwedd ar addysgu y mae athrawon dan hyfforddiant yn ei hofni fwyaf, â’u pennau’n llawn cwestiynau ‘Beth os …?’ diddiwedd. Ac nid yw’n beth dibwys i athrawon profiadol chwaith. Newid amserlen, ysgol newydd, storm eira annisgwyl neu fymryn o wynt, gwenynen feirch yn yr ystafell ddosbarth, arogleuon amheus o benolau – mae gan bob un o’r rhain y potensial i greu sefyllfa heriol yn yr ystafell ddosbarth!

Mae rheoli’r ystafell ddosbarth a rheoli ymddygiad ymhlith yr agweddau anoddaf ar addysgu. Unigolion sydd ag ewyllys rydd yw ein myfyrwyr; maent yn bobl ifanc yn eu harddegau sy’n dysgu eu ffordd drwy’r byd ac nid ydynt yn gwneud pethau’n iawn bob amser. Mae hyn yr un fath i bob athro, waeth pa bwnc mae’n ei addysgu, ond gall yr amgylchedd dysgu cemeg fod yn arbennig o heriol.

‘Mae gennych chi dapiau dŵr gartre, fe gewch chi chwarae â nhw yno, ond ddim yn y fan yma’

A student in a school lab plays with an electrical socket

Nid cystadleuaeth rhwng y pynciau mo hon, ond mae’n anoddach dysgu mewn labordai gwyddoniaeth nag yn y rhan fwyaf o fannau eraill mewn ysgol. Maent yn tueddu i fod yn fwy felly mae’n anoddach i bawb glywed ei gilydd. Felly, mae’n gwbl bosibl na fydd rhai o’r myfyrwyr wedi clywed eich cyfarwyddiadau, nid yn fwriadol o reidrwydd, ond ar ddamwain. Ac mae yna bethau di-ben-draw i botsian â nhw cyn i ni hyd yn oed estyn y cyfarpar – socedi, tapiau nwy, tapiau dŵr. Alla i ddim cofio erbyn hyn faint o weithiau rydw i wedi dweud wrth fyfyrwyr sy’n ceisio cael un diferyn o ddŵr i hongian o dap: ‘Mae gennych chi dapiau dŵr gartre, fe gewch chi chwarae â nhw yno, ond ddim yn y fan yma.’ Mae’r silffoedd bach o dan y meinciau yn lleoedd perffaith i ymarfer sgiliau graffiti heb i neb allu gweld – ac mae hynny’n golygu, wrth gwrs, na fyddant yn talu sylw’n iawn.

Ac yna mae’r seddi. Mae gen i ddamcaniaeth mai stolion, o’r holl fathau o ddodrefn eistedd, sy’n cynnig y gwahoddiad mwyaf agored i greu drygioni. Mewn ystafelloedd dosbarth eraill, mae myfyrwyr yn eistedd mewn seddi sy’n gymharol agos at y ddaear. Mae yna lawer o inertia i’w oresgyn, felly maent yn aros ar eu heistedd gan mwyaf. Wrth eistedd ar stolion, maent eisoes yn hanner sefyll. Mae rhywbeth mor syml â throi i siarad â’ch ffrind yn haws pan fyddwch chi’n eistedd ar stôl ac nid mewn cadair, ac mae’n llawer cyflymach codi o stôl pan fydd arnoch chi awydd crwydro o gwmpas yr ystafell.

A student playing with the flame of a bunsen burner

Megino’r tân

Mae’r amgylchedd eisoes yn un heriol felly byddai’n hawdd maddau i ni am gynnal gwersi bach syml gyda llawer o ymarferion tawel mewn gwerslyfrau. Ond na, rydym ni’n ychwanegu rhagor o bosibiliadau ar gyfer anhrefn drwy symud o amgylch yr ystafell ar gyfer gwaith ymarferol neu arddangosiadau. Dyma pryd y bydd cymeriadau’r dosbarth yn dechrau symud tuag at ei gilydd yn ddirgel, fel petai yna ryw fath o atyniad magnetig rhyngddynt. Ac mewn amrywiad rhyfedd ar egwyddor Le Chatelier, pan fydd arnoch chi eisiau i’ch myfyrwyr i gyd sefyll, maent yn teimlo’n flinedig yn sydyn iawn ac yn penderfynu eistedd. Neu, os ydynt yn sefyll, maent yn gadael eu stolion dan draed a’u bagiau ym mhobman fel bod cerdded o gwmpas yn goruchwylio’r ystafell ddosbarth yn teimlo fel pennod arbennig o heriol o Gladiators.

Ai fi sy’n dychmygu, neu a ydi pennau blwyddyn 7 yn llai nag yr oeddent yn arfer bod, fwyaf sydyn?

Nid yn unig mae’r myfyrwyr yn gorfod mynd a dod o’u seddi ar gyfer gwaith ymarferol, ond hefyd rydym yn rhoi llestri gwydr iddynt weithio â nhw, ac asid a thân weithiau. Mae pob un ohonom wedi cwrdd â’r myfyrwyr hynny sy’n hoffi llosgi’r sblint am hwyl byth a hefyd, neu’r rhai sy’n creu cerfluniau plastig cymhleth o feiros wedi’u toddi. A gall gweithgareddau ymarferol greu sŵn ychwanegol – su’r cwpwrdd gwyntyllu, tincial y llestri gwydr a mwy o sgwrsio – gan ei gwneud hi’n arbennig o anodd rheoli’r ystafell ddosbarth.

Hoffech chi ddarllen mwy o erthyglau ar reoli’r ystafell ddosbarth? Dyma gasgliad o erthyglau sy’n trafod popeth o ymddygiad sy’n tarfu ar eraill i sêr aur a chadw myfyrwyr i mewn.

Looking for more articles on classroom management?

Look no further than this selection (rsc.li/4uC0IpI), covering everything from disruptive behaviour to gold stars (rsc.li/4brwME0) and detentions (rsc.li/47UPXVF). Don’t forget cultivating enthusiasm and (rsc.li/40AiXOH), building positive relationships using simple effective phrases (rsc.li/4lGYaCO) will encourage engagement and motivation.

Cyfarpar diogelwch?

Mae sbectolau neu goglau diogelwch hefyd yn achosi mwy o heriau. Mae’r rhai sydd â’r strap elastig yn tueddu i stemio ac, yn aml, nid yw’r myfyrwyr yn hoffi’r marciau y maent yn eu gadael ar eu hwynebau. Gall y rhai sy’n debycach i sbectol gwympo oddi ar eu trwynau (ai fi sy’n dychmygu, neu a ydi pennau blwyddyn 7 yn llai nag yr oeddent yn arfer bod, fwyaf sydyn?). Ac wedyn mae gennych chi’r myfyrwyr sy’n eu gwisgo hanner ffordd i fyny eu pennau oherwydd eu bod yn ‘brifo’u clustiau’. Wnaf fi ddim hyd yn oed dechrau trafod yr olwg ar y bocs pan fydd y myfyrwyr yn eu cadw!

School students watching a chemistry demonstration in class

Rydw i’n siŵr eich bod chi, erbyn hyn, yn dychmygu bod fy nosbarthiadau i’n rhai arbennig o anhrefnus. Ond nid dyna fel y mae hi. Yr oll rydw i’n ei wneud yn y fan hyn yw distyllu 17 mlynedd o brofiad o addysgu mewn labordai gwyddoniaeth. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn llwyddo y rhan fwyaf o’r amser, ac mae ein dosbarthiadau’n ffynnu. Does dim byd drwg yn digwydd ac rydym ni’n llywio ein ffordd drwy fywyd ysgol yn gymharol ddidrafferth. Ond mae yna adegau pan fydd angen ychydig o help ar bob un ohonom, a dyma lle mae dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf.

Yn ffodus, mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) wedi adolygu ystod eang o lenyddiaeth ac wedi llunio chwe argymhelliad, sydd wedi cael eu distyllu yn yr adroddiad canllaw ‘Improving behaviour in schools’. Ac yn awr, mae athrawon sy’n addysgu a hyfforddwyr athrawon wedi troi’r argymhellion hynny yn chwe erthygl sy’n llawn cyngor i’ch helpu wrth addysgu gwyddoniaeth. Felly, p’un a ydych chi’n athro newydd neu’n addysgu ers tro byd, bydd y gyfres hon yn rhoi llond gwlad o syniadau i’ch helpu i adfywio eich ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.

Kristy Turner

What’s next?

Read more articles on managing classroom behaviour in our Behaviour management in the chemistry classroom content stream (rsc.li/4rDd0LO). You’ll find plenty of advice, all from classroom science teachers and teacher trainers. And every article is based on the Education Endowment Foundation’s guidance report, Improving behaviour in schools (bit.ly/4bh9e5V).