Holwch eich myfyrwyr am eu gwybodaeth am ddulliau cemeg feintiol

Dyma’r pynciau sy’n cael sylw yn y gweithgaredd cychwynnol hwn: y môl; molau a màs; màs a chrynodiad; crynodiad a gwanediad; crynodeb molau; yr hafaliad nwy delfrydol; cyfaint nwy molar; fformiwla empirig a moleciwlaidd; cynnyrch canrannol ac economi atomau; a chyfrifiadau titradu.

Cwestiynau enghreifftiol

Molau a Màs

Cyfrifwch yr atebion i’r cyfrifiadau syml canlynol (1 t = 1 tunnell fetrig = 1,000 kg);

  1. Nifer y molau mewn 10.0 g o O2 + màs mewn g o 2.41 môl o H2O =
  2. Màs mewn g o 0.2 môl o K2CO3 + màs mewn g o 0.5 môl o MgCO3 =
  3. Nifer y molau mewn 12.4 t o NaNO3 ÷ nifer y molau mewn 12.4 t o NaCl =
  4. Nifer y molau mewn 25.9 g o sodiwm nifer y molau mewn 25.9 g o sodiwm clorid =
  5. ? × màs molar o mewn g mol-1 o galsiwm carbonad = nifer y molau mewn 4.2 kg o SiCl4

Màs a chrynodiad

Cyfrifwch yr atebion i’r cyfrifiadau isod a’u rhoi (i’r nifer cywir o ffigurau ystyrlon) yn y sgwâr priodol. Mae’r saethau’n dangos i ba gyfeiriad y mae’n rhaid i’r rhifau fynd. Ar gyfer y 10fed marc cwblhewch weddill y grid Sudoku.

RHYBUDD Byddwch yn ofalus gyda’ch ffigurau ystyrlon a’ch masau atomig cymharol er mwyn osgoi rhoi’r digid anghywir yn y sgwâr anghywir! (Masau atomig cymharol, H 1.0; O 16.0; Na 23.0; S 32.1; Cl 35.5; Fe 55.8; Cu 63.5)

Cyfrifwch yr atebion i’r cyfrifiadau isod a’u rhoi (i’r nifer cywir o ffigurau ystyrlon) yn y sgwâr priodol. Mae’r saethau’n dangos i ba gyfeiriad y mae’n rhaid i’r rhifau fynd. Ar gyfer y 10fed marc cwblhewch weddill y grid Sudoku

Source: Royal Society of Chemistry

(a) Crynodiad o hydoddiant 265 môl o NaOH wedi’i hydoddi mewn 1 dm3 o ddŵr (3 ffigur ystyrlon)

(b) Cyfaint y dŵr mewn dm3 sydd ei angen i wanedu 176 môl o HCl i wneud hydoddiant 1 mol dm-3 (3 ffigur ystyrlon)

(c) Màs yr H2SO4 y dylid ei hydoddi mewn 1 dm3 o ddŵr i wneud hydoddiant â’r crynodiad 0.72 mol dm-3 (2 ffigur ystyrlon)

(ch) Y cyfaint mewn cm3 o ddŵr mae’n rhaid ei ychwanegu at 0.56 g o CuSO4 anhydrus i gynhyrchu hydoddiant 0.1 mol dm-3 (2 ffigur ystyrlon)

(d) Nifer y molau o amonia mae’n rhaid eu hydoddi mewn 2,696 dm3 o ddŵr i gynhyrchu hydoddiant amonia 2.0 mol dm-3 (4 ffigur ystyrlon)

(dd) Y crynodiad mewn mol dm-3 o hydoddiant manwl gywir sydd â chrynodiad 16.48537 mol cm-3 (5 ffigur ystyrlon)

(e) Màs yr FeSO4.7H2O mae’n rhaid ei hydoddi mewn 1,582 cm3 o ddŵr i ffurfio hydoddiant sydd â’r crynodiad 2.0 mol dm-3 (i 3 ffigur ystyrlon)

(f) Y cyfaint mewn dm3 o ddŵr mae’n rhaid i 10 môl o NaCl gael eu hydoddi ynddo er mwyn cynhyrchu hydoddiant heli 0.0155 mol dm-3 (3 ffigur ystyrlon)

(ff) Y crynodiad mewn mol dm-3 o hydoddiant o NaOH sydd â chrynodiad o 18,480 kg m-3 (3 ffigur ystyrlon)

Nodiadau

Mae’r ddogfen lawn, gan gynnwys y cwestiynau a’r atebion, ar gael yn yr adran ‘Adnoddau i’w lawrlwytho’ isod. Mae fersiwn y gellir ei olygu hefyd ar gael.

Downloads