Rhowch gyd-destun i’ch myfyrwyr sy’n dysgu am ddargludedd a dadleoli electronau

Mae gwyddonwyr wedi datblygu lens gyffwrdd glyfar sy’n cael ei phweru gan uwch-gynhwysydd y gellir ei ailwefru’n ddi-wifr. Byddai modd ei defnyddio i dracio iechyd y gwisgwr drwy fonitro’r hylif yn y llygad am fiofarcwyr sy’n gysylltiedig â chlefydau fel diabetes. Gallai’r lensys hyn hyd yn oed esgor ar oes newydd o realiti estynedig, gan fynd â thechnoleg wisgadwy i lefel newydd.
Mae’r lens glyfar yn cynnwys uwch-gynhwysydd bach iawn ochr yn ochr ag uned bŵer. Mae’r rhain yn cael eu hargraffu ar y lens y tu allan i’r rhan sy’n gorchuddio cannwyll y llygad, sy’n golygu na fydd yn amharu ar olwg y sawl sy’n gwisgo’r lensys.
Defnyddiwch y sleid gychwynnol gyda’ch dosbarth i’w helpu i gysylltu eu dealltwriaeth o ddargludedd trydanol ag electroneg ar nanoraddfa.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
Sylw i yrfaoedd ym maes cemeg
Ychwanegwch gyd-destun a thynnwch sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gemegwyr fel Vicki, sy’n nanodocsigolegydd.
Downloads
Llygad dda am dechnoleg wisgadwy: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.2 mbLlygad dda am dechnoleg wisgadwy: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 0.18 mb
Additional information




No comments yet