Profiad ysbrydoledig un athrawes yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, a pham mae hi’n edrych ymlaen at y newidiadau

An illustration of a compass with the Welsh flag in the centre

Mae’r Cwricwlwm Newydd i Gymru i mynd ag addysg myfyrwyr i gyfeiriad newydd a chyffrous.

Beth yw cwricwlwm? Bydd rhai pobl yn meddwl am yr hyn rydym yn ei ddysgu, bydd eraill yn meddwl am nifer y gwersi neu’r blociau o wersi y bydd disgyblion yn eu cael mewn blwyddyn. Yng Nghymru, rydym wedi diffinio cwricwlwm fel popeth a wnawn: yr hyn y byddwn yn ei addysgu, sut y byddwn yn ei addysgu, a pham rydym yn ei addysgu.

This article is also available in English

Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 yn gwricwlwm sy’n cael ei arwain gan bwrpas, ac sydd i fod i ddechrau cael ei addysgu yn 2022. Mae pedwar amcan cyffredinol yn arwain y cwricwlwm cyfan. Yn benodol, bydd ‘pob plentyn yn:

1. ddysgwyr uchelgeisiol a galluog a fydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

2. unigolion iach a hyderus a fydd yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas;

3. cyfranwyr mentrus a chreadigol a fydd yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; ac yn

4. ddinasyddion Cymru a’r Byd a fydd yn barod i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.’

A oes unrhyw un o’r amcanion hyn yn amcan na fyddech chi eisiau i’ch plentyn eich hun ei feistroli?

Mae’r dyddiau o ymdrin â chynnwys wedi hen fynd. Mae gwybodaeth graidd a disgyblaethol yn cyfuno â’r sgiliau a’r profiadau a gaiff y disgyblion yn holistaidd er mwyn gwireddu’r pedwar pwrpas. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau tegwch i bawb oherwydd bydd rhaid i bob ysgol ymdrin â’r holl elfennau. Mae hefyd yn ystyried sut mae gwaith asesu yn cyfrannu at y cwricwlwm arfaethedig, gan sicrhau bod cynnydd y disgyblion yn ganolog ym model y broses.

Ydy, mae’n feiddgar. Ond dychmygwch fyd lle mae addysg yn cyflawni’r nodau hyn i greu dysgwyr a fydd yn annibynnol drwy’u hoes. A oes unrhyw un o’r amcanion hyn yn rhywbeth na fyddech chi eisiau i’ch plentyn eich hun ei feistroli? Fel ysgol, mae’r rhain wedi’n hysbrydoli. Maen nhw hefyd wedi ailgadarnhau pam wnaethom ni ddewis y proffesiwn hwn.

Dydy’r Cwricwlwm i Gymru ddim yn torri’n rhydd o gwricwla traddodiadol yn llwyr, ond yn hytrach na disgyblaethau penodol fel ffiseg, hanes, Ffrangeg ac ati, mae wedi’i rhannu’n chwe ‘Maes dysgu a phrofiad’. Y Meysydd Dysgu a Phrofiad yw’r ffyrdd o sicrhau bod disgyblion yn cael deiet eang a chytbwys o addysg. Mae pob Maes yn gyfrifol am gyflawni ‘datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig’. Does dim pwnc na disgyblaeth yn bwysicach na’r llall.

Y nod yw gwella dysgu, nid bod wrthi drwy’r amser yn profi’r dysgu

Mae cemeg yn byw o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Er nad yw’r wedi’i labelu’n uniongyrchol fel yr ‘adran gemeg’ o’r cwricwlwm, y datganiad o’r hyn sy’n bwysig o ran fy nelfrydau i o gemeg yw: ‘Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau’. Mae ymholi yn yr holl ddisgyblaethau gwyddonol wedi cael sylw penodol yn ei ddatganiad ei hun.

Nid cwricwlwm sgiliau yw hwn – mae’n llawer mwy na hynny.

Gwella, nid profi

Mae fy ysgol i wedi croesawu’r broses o ddylunio’r cwricwlwm, nid fel ’gwaith ychwanegol’ ond fel gwaith a fydd yn gwireddu addysg eang a dwfn i’n holl ddisgyblion.

Proses ailadroddus yw dylunio cwricwlwm, ac mae’n annhebygol y bydd hyn fyth yn ’gorffen’ ond y nod yw gwella’r dysgu ac nid bod wrthi drwy’r amser yn profi’r dysgu. Rydym yn croesawu’r seibiant o’r gwaith monitro ac asesu parhaus yn y fersiynau blaenorol o’r cwricwlwm. Gofynnwyd i ni ‘asesu’r hyn sy’n bwysig’. Ydy hyn yn golygu ein bod ni fel proffesiwn yn cael ein trystio o’r diwedd i gyflwyno cwricwlwm cydlynus o safon uchel sy’n benodol ar gyfer ein disgyblion.

Nid un dasg yw’r broses, a bydd yn siŵr o gymryd mwy o amser nag oedden ni’n ei ddisgwyl. Ond rwy’n credu’n gryf y gall ein cariad at ein disgyblaeth a’r hyn y gall ei gyfrannu at yr hyn a ddysgir gan ein disgyblion, ddisgleirio o’r diwedd.

Rydym wedi mynd ati’n ofalus i gynllunio’r daith ddysgu, gan fod yn ddigon dewr i ollwng pynciau os nad ydynt yn cyfrannu

Fel erioed, mae arweinyddiaeth yn bwysig, ac alla i ddim gorddweud pa mor werthfawr yw sefydlu gweledigaeth. Beth sy’n bwysig i’ch disgyblion a sut mae hyn yn cysylltu â’u cynefin? Y diffiniad o gynefin yn y Cwricwlwm i Gymru yw ‘lle yr ydym yn teimlo ein bod yn perthyn, lle mae’r bobl a’r tirweddau o’n cwmpas yn gyfarwydd, ac y mae’r hyn sydd i’w weld ac i’w glywed yn galonogol o adnabyddus’ - ac mae’n bwysig oherwydd mae’n annog ysgolion i bersonoli’r cwricwlwm ar gyfer eu disgyblion fel eu bod yn gallu canfod cysylltiadau ystyrlon o fewn yr hyn a ddysgir ganddynt.

Ffordd anwastad

Mae ein taith tuag at y weledigaeth wedi mynd i fyny ac i lawr. Weithiau roeddem yn canolbwyntio ar ymgysylltu, felly byddai bwriadau dysgu yn cael eu colli yn y dryswch. Gwelsom ei bod yn bwysig peidio â cheisio troi eich cwricwlwm presennol yn fodel newydd a bod angen edrych yn feirniadol ar holl naratif eich cwricwlwm. Gofynnwch pam hyn? Pam yr adeg honno? Sut mae hyn yn rhan o holl frithwaith y gwaith dysgu?

Mae’r rhain yn gwestiynau anodd. Allwn ni ddim defnyddio’r ateb ‘oherwydd mae’r disgyblion yn ei fwynhau’ mwyach. Ond nid yw hyn yn golygu bod hwn yn gwricwlwm anniddorol lle mae’r disgyblion yn eistedd yn oddefol yn disgwyl i dderbyn gwybodaeth fel petai’n fwyd llwy. Rydym wedi cydweithio ac wedi cynllunio’r daith ddysgu yn ofalus drwy bob blwyddyn, pob pwnc, y bylchu a’r rhyngddalennu cysyniadau trothwyol drwy naratif cynnydd, gan fod yn ddigon dewr i ollwng pynciau os nad ydynt yn cyfrannu. Nid yw hyn yn golygu ein bod wedi cael gwared ar y manteision yr un pryd â’r anfanteision. Mae elfennau o’n cwricwlwm presennol yn dilyn yn naturiol i’n cynlluniau, ond rydym wedi gofyn yn feirniadol beth mae pob gweithgaredd neu dasg benodol yn ei ychwanegu at y gwaith o adeiladu cynlluniau ein disgyblion.

Mae digon o gyfle i hyd i feddwl fel gwyddonydd, ond erbyn hyn mae’r broses o ddylunio’r cwricwlwm yn bendant ac mae gan CA3 – sef Cam Cynnydd 4 erbyn hyn - yn chwarae rhan hollbwysig yn datblygu’r disgyblion ar gyfer y trylwyredd a’r llawenydd sydd i ddod. Nid rhywbeth llinol yw dysgu ac mae’r cwricwlwm yn droellog, ond drwy fynd ati’n ofalus i ddylunio’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau, mae’n galluogi ein disgyblion i fod yr hyn y gallant fod.

Ydych chi’n barod i ddechrau ar eich gwaith cynllunio eich hun?

Lawrlwythwch ddogfennau cymorth ar gyfer cynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a’r hyn mae’n ei olygu i addysgu gwyddoniaeth, a chemeg, yn eich ysgol chi.

Ymunwch â’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac ASE Cymru am sesiwn ar-lein, Cemeg a’r Cwricwlwm i Gymru, ar 20 Medi.