Canllawiau a chefnogaeth i gynllunio’r cwricwlwm cemeg yn y Cwricwlwm i Gymru

Bwriad y dogfennau yw helpu athrawon yng Nghymru wrth iddyn nhw gynllunio eu cwricwlwm cemeg newydd ar gyfer yr addysgu cyntaf o fis Medi 2022 ymlaen. Argymhellir eu defnyddio ar ôl datblygu dealltwriaeth dda o egwyddorion a hanfodion y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r dogfennau’n defnyddio gwybodaeth o adnoddau priodol, gan gynnwys fframwaith cwricwlwm y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, er mwyn amlinellu pa fath o beth fyddai cynnydd addas. Ni fwriedir iddyn nhw fod yn rhagnodol, ond gobeithio byddan nhw’n eich cefnogi wrth i chi gynllunio’r cwricwlwm.

Cynllunio eich cwricwlwm cemeg

Mae’r ddogfen Cemeg yn y Cwricwlwm i Gymru: cefnogaeth cynllunio cwricwlwm (cam cynnydd 4) yn cysylltu’r datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn y Cwricwlwm i Gymru â fframwaith cwricwlwm y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, ac felly mae’n rhoi rhagor o ganllawiau i athrawon yn ystod cam 2 (ac wedi hynny) Y Daith i 2022. Ei nod yw helpu i gynllunio cynnydd cemeg eich ysgol yn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan ganolbwyntio ar y datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig. ‘Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau’ yn llawn; yn ogystal â ’Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.’

Mae Sut mae defnyddio’r ddogfen cefnogaeth cynllunio cwricwlwm yn esbonio’n fanylach sut mae modd rhoi’r ddogfen cefnogaeth cynllunio cwricwlwm ar waith, gan ddangos i athrawon sut mae gwahanol ddatganiadau cynnydd yn gysylltiedig a sut gellid dysgu hyn mewn cyd-destun lleol perthnasol o’u dewis.

Llwytho’r dogfennau cefnogaeth cynllunio i lawr

Mae Cemeg yn y Cwricwlwm i Gymru, cefnogaeth cynllunio cwricwlwm (cam cynnydd 4) ar gael ar ffurf pdf. Mae fersiwn mae modd ei olygu o’r prif dabl yn y ddogfen ar gael ar ffurf MS Word.

Mae Sut mae defnyddio’r ddogfen cefnogaeth cynllunio cwricwlwm ar gael ar ffurf pdf.

LLWYTHO’R CYFAN I LAWR

Adnabod sgiliau cemeg allweddol

Mae’r templed sgiliau cemeg (cam cynnydd 4) yn cynnig templed ac enghraifft, gan grynhoi’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod cam cynnydd 4, fel sy’n cael ei amlinellu yn y ddogfen cefnogaeth cynllunio cwricwlwm. Y nod yw rhoi enghreifftiau o’r hyn y dylai dysgwr allu ei wneud erbyn diwedd y cam cynnydd hwn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu herio’n ddigonol yn unol â’r canllawiau yn y Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig ar gyfer athrawon cemeg nad ydynt yn arbenigwyr. Fel arall, gellid defnyddio’r templed hwn fel dalen waith i helpu i grynhoi’r sgiliau a ddatblygwyd dros gyfres o wersi. Yn y pen draw, fel y nodwyd yn flaenorol, nod y ddogfen hon yw rhoi syniad o’r lefel briodol o her a roddir i ddysgwr ar y cam hwn.

Llwytho’r templed sgiliau i lawr

Mae Cemeg yn y Cwricwlwm i Gymru: templed sgiliau cemeg (cam cynnydd 4) ar gael ar ffurf pdf a fersiwn mae modd ei olygu ar ffurf MSWord.

LLWYTHO I LAWR NAWR