Aseswch wybodaeth y dysgwyr am adeiledd atomig a’u dealltwriaeth ohono

Cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr, ateb hir a llenwi’r bylchau gyda marciau wedi eu dyrannu.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r taflenni gwaith Gwirio gwybodaeth hyn yn rhoi cyfres o gwestiynau i asesu gwybodaeth y dysgwyr am adeiledd atomig a’u dealltwriaeth ohono ar ddiwedd cyfnod o addysgu neu er mwyn adolygu.

Maent ar gael ar lefel sylfaen ac uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn er mwyn i chi allu eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y dysgwyr. Defnyddiwch y rhain ar gyfer gwaith myfyrwyr unigol yn y dosbarth neu gartref.

Maent yn cynnwys:

  • gronynnau is-atomig
  • rhif atomig a rhif màs
  • cymharu isotopau gwahanol
  • defnyddio symbolau i gynrychioli atomau
  • hanes model yr atom (uwch yn unig).