Asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr o fondio metelig
Cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr, ateb hir a llenwi’r bylchau gyda’r marciau wedi eu dyrannu.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith ar lefel sylfaen ac uwch i asesu’r dysgu am fondio metelig. Mae’r atebion yn y nodiadau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Gwirio gwybodaeth
Gwybodaeth am yr adnodd hwn
Mae’r taflenni gwaith Gwirio gwybodaeth hyn yn rhoi cyfres o gwestiynau i asesu gwybodaeth y dysgwyr am fondio metelig a’u dealltwriaeth ohonynt ar ddiwedd cyfnod o addysgu neu er mwyn adolygu.
Maent ar gael ar lefel sylfaen ac uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn er mwyn i chi allu eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y dysgwyr. Defnyddiwch y rhain ar gyfer gwaith myfyrwyr unigol yn y dosbarth neu gartref.
Maent yn cynnwys
- electronau dadleoledig a’u gwefr
- ïonau metel a’u gwefrau cymharol
- sut mae adeiledd metelig yn gysylltiedig â phriodweddau ffisegol metelau
- sut mae priodweddau aloion yn wahanol i fetelau pur
Downloads
Bondio metelig Gwirio gwybodaeth: taflen myfyriwr (sylfaen)
Handout | PDF, Size 0.5 mbBondio metelig Gwirio gwybodaeth: taflen myfyriwr (uwch)
Handout | PDF, Size 0.48 mbBondio metelig Gwirio gwybodaeth: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.34 mbBondio metelig Gwirio gwybodaeth: taflen myfyriwr (sylfaen)
Editable handout | Word, Size 0.5 mbBondio metelig Gwirio gwybodaeth: taflen myfyriwr (uwch)
Editable handout | Word, Size 0.45 mbBondio metelig Gwirio gwybodaeth: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.31 mb




No comments yet