Defnyddiwch yr awgrymiadau sydd wedi’u sgaffaldio i gefnogi’r dysgwyr i ysgrifennu am ffurfiant ïonau
Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cefnogaeth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i dylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y stribedi strwythur, sydd â phump ohonynt wedi’u hargraffu ar bob tudalen, a chefnogwch y dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac i ysgrifennu’n annibynnol.
Mae’r adnoddau i’w lawrlwytho yn cynnwys y daflen i fyfyrwyr a’r nodiadau i athrawon gydag atebion.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Disgrifio beth sy’n digwydd i bob gronyn is-atomig pan fydd ïon yn cael ei ffurfio.
- Egluro beth sy’n cael effaith ar ba mor hawdd mae ïonau’n cael eu ffurfio.
Cyflwyniad
Adeiledd atomig yw un o’r pynciau pwysicaf mewn cemeg. Mae llawer o bynciau eraill yn dibynnu ar ddeall adeiledd yr atom a phriodweddau’r gronynnau is-atomig – mae ein Stribed strwythur adeiledd yr atom yn ymdrin â’r hanfodion. Mae ïonau’n cael eu ffurfio pan fydd electronau’n cael eu colli a’u hennill. Gall y tabl cyfnodol ein helpu i ddeall ffurfiant ïonau.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint y mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
Mae’n bosibl y bydd angen sgaffaldiau ychwanegol i helpu’r dysgwyr i ateb y cwestiynau. Gallai’r rhain gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu dynnu neu ychwanegu awgrymiadau yn y stribed strwythur.
Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu rhoi cynnig ar y cwestiwn dilynol yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribedi strwythur i wella neu hunanasesu eu hateb.
Geiriau allweddol
atom, ïon, niwclews, proton, electron, niwtron, plisgyn allanol, plisgyn mewnol,
Metawybyddiaeth
Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol yn y tri maes allweddol:
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (er enghraifft, gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: a yw’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Cwestiwn dilynol
Dylai’r dysgwyr ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribedi strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.
Eglurwch pam mae sodiwm yn ffurfio ïonau 1+ ond bod fflworin yn ffurfio ïonau 1-.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho (MS Word | PDF).
Ateb i’r cwestiwn dilynol
Mae sodiwm yn grŵp 1 y tabl cyfnodol, felly mae ganddo un electron yn ei blisgyn allanol. Pan fydd yn ffurfio ïonau, mae’r electron hwn yn cael ei golli, felly mae gan yr ïon sy’n cael ei ffurfio blisgyn allanol sy’n llawn electronau. Yn sgil hyn, mae gan yr ïon sodiwm un proton positif yn fwy na nifer yr electronau negatif, gan adael gwefr 1+.
Mae fflworin yng ngrŵp 7. Pan fydd yn ffurfio ïonau, mae’n ennill un electron ac mae gan yr ïon sy’n cael ei ffurfio blisgyn allanol sy’n llawn electronau. Yn sgil hyn, mae gan yr ïon fflworin un electron â gwefr negatif yn fwy na nifer y protonau positif. Felly, gadewir gwefr 1-.
Downloads
Atomau ac ïonau stribed strwythur | taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.2 mbAtomau ac ïonau stribed strwythur | nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.25 mbAtomau ac ïonau stribed strwythur | taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mbAtomau ac ïonau stribed strwythur | nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.44 mb









No comments yet