Sut mae ymchwilwyr yn Rwsia wedi canfod bod darganfyddiadau newydd o hyd ar eich bwrdd bwyd

Mae gan ddeunyddiau 2D, sy’n cynnwys un neu ychydig o haenau atomig, briodweddau ac adeileddau sy’n aml yn wahanol iawn i’r cyfansoddyn swmp. Er bod rhai, fel graffen, wedi cael eu hastudio am ddegawdau, mae llawer yn dal heb eu darganfod.
Halen bwrdd yw un o’r cyfansoddion ïonig mwyaf adnabyddus a syml. Fel arfer, mae ganddo adeiledd dellten, crisial ciwbig. Ac eto, pan gaiff ei ddyddodi fel llen tenau iawn ar arwyneb diemwnt, mae’n ffurfio adeiledd hecsagonol. Cafodd y darganfyddiad ei wneud gyda chymorth algorithm, a gafodd ei ddefnyddio gan yr ymchwilwyr i ragfynegi adeileddau crisial sodiwm clorid ar wahanol arwynebau metel a diemwnt. Gwelwyd rhyngweithiad cemegol cryf rhwng halen a diemwnt – sy’n arwain at adeileddau anarferol.
Roedd diffreithiant electronau a dadansoddiad pelydr-X o samplau wedi cadarnhau bod halen-ar-ddiemwnt yn cynnwys sodiwm clorid hecsagonol. Wrth i drwch yr haen o halen gynyddu y tu hwnt i 6 nm, mae’r adeiledd hecsagonol yn dychwelyd i’r un ciwbig.
Defnyddiwch y sleid gychwynnol gyda’ch dosbarth i’w helpu i ddeall gwahanol fathau o adeileddau.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
Downloads
Halen bwrdd hecsagonol: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.13 mbHalen bwrdd hecsagonol: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 0.14 mb




No comments yet