Cymharwch ludedd gwahanol hylifau, o olew coginio i ddŵr, gyda’r arbrawf ymarferol syml hwn
Rhowch set o diwbiau unfath i’r dysgwyr, pob un yn cynnwys hylif gwahanol, a chyfarwyddwch nhw i fesur yr amser y mae’n ei gymryd i swigen godi drwy’r hylif. Defnyddir hyn i gymharu gludedd yr hylifau.
-
Lawrlwythwch
Popeth sydd ei angen arnoch i gynnal y wers ymarferol hon gyda sleidiau ystafell ddosbarth, taflenni gwaith i fyfyrwyr gyda a heb sgaffaldio a chanllawiau i athrawon, gan gynnwys nodiadau technegol llawn ac atebion i bob cwestiwn.
Cewch weld a lawrlwytho mwy yn Arbrofion cemeg clasurol
Amcanion dysgu
- Cymharu gludedd gwahanol hylifau drwy wneud arsylwadau gofalus.
- Cymhwyso eich dealltwriaeth o ronynnau i esbonio eich arsylwadau.
- Dylunio arbrawf.
Bydd dysgwyr yn cyflawni amcanion 1 a 2 wrth iddynt gynnal yr arbrawf, cwblhau tabl canlyniadau ac ateb cwestiynau 1−3 ar y daflen waith i fyfyrwyr. Byddant yn cyflawni amcan 2 drwy ateb cwestiynau 4−6 yn gywir ar y daflen waith i fyfyrwyr ac amcan 3 drwy ateb cwestiynau 7 ac 8 ar y daflen waith i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
Ceir dwy fersiwn o’r daflen waith i fyfyrwyr:
- Mae’r daflen waith wedi’i sgaffaldio i fyfyrwyr (✪) yn cynnig sgaffaldio a chymorth ychwanegol, megis cwestiynau ar ffurf llenwi’r bylchau a stribed strwythur i helpu i ddylunio arbrawf;
- Mae’r daflen heb ei sgaffaldio i fyfyrwyr (✪✪) yn cynnwys cwestiynau tebyg ond gydag atebion testun rhydd.
Mae cyfarwyddiadau integredig wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad.
Nodiadau i’r technegydd
Darllenwch ein canllawiau safonol ar iechyd a diogelwch a chynhaliwch asesiad risg cyn cynnal unrhyw arbrawf ymarferol byw.
Offer (fesul grŵp)
Cyfarpar
- Stopwatsh
- Tiwbiau wedi’u selio o wahanol hylifau
Cemegion
Dewiswch o’r canlynol:
- Dŵr
- Olew coginio
- Hylif golchi llestri
- Ethanol (PERYGL: hylif ac anwedd hynod fflamadwy)
- Siampŵ neu ewyn ymolchi
- Mêl
Offer diogelwch
- Cyfarpar amddiffyn y llygaid: sbectol ddiogelwch i EN1 66F
Diogelwch a pheryglon
- Mae ethanol yn fflamadwy. Gwnewch yn siŵr nad oes fflamau noeth na ffynonellau tanio eraill (gweler Cerdyn Perygl CLEAPSS). HC040a/SSERC).
Dull

Cymerwch un o’r tiwbiau a ddarperir.
- Gwnewch yn siŵr bod y swigen ar y brig a bod y tiwb yn cael ei ddal yn fertigol.
- Trowch y tiwb wyneb i waered yn gyflym a mesurwch yr amser y mae’n ei gymryd i’r swigen gyrraedd y brig.
- Ailadroddwch y mesuriad hwn ar gyfer pob un o’r samplau.
- Cwblhewch y tabl a ddarperir.
Nodiadau i’r athro
Dechreuwch y wers hon drwy ddarganfod beth mae dysgwyr eisoes yn ei wybod am ludedd. Defnyddiwch y delweddau ar sleid 3 o’r cyflwyniad neu arllwyswch gwpl o hylifau gwahanol i mewn i ficer i hyrwyddo trafodaeth a gwneud yn siŵr bod y dysgwyr yn deall y term.
Gofynnwch i’r dysgwyr gynnal yr arbrawf ymarferol mewn grwpiau bach o ddau neu dri. Anogwch y dysgwyr i gynnal arbrofion ailadrodd a chyfrifo’r amser cymedrig ar gyfer pob hylif. Er mwyn i’r canlyniadau fod yn ailadroddadwy, atgoffwch y dysgwyr i amseru pob hylif gan ddefnyddio dull cyson – e.e. mesurwch yr amser o wrthdroi’r tiwb nes bod y ‘swigen yn cyrraedd y brig yn gyntaf’. Atgoffwch y dysgwyr sut i gyfrifo’r amser cymedrig, os oes angen.
Atebion
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Mae gludedd yn mesur pa mor anodd yw hi i hylif lifo. Mae hylifau â gludedd uwch yn ymddangos yn ‘fwy trwchus’ neu’n fwy ‘gludiog’ na’r rhai â gludedd isel.
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Hylif – mae’n dibynnu ar yr hylifau a ddefnyddir ond y tebyg yw mai’r mêl neu’r siampŵ fydd hi.
Rheswm – cymerodd y swigen yr amser hiraf i godi drwy’r hylif.
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Hylif – mae’n dibynnu ar yr hylifau a ddefnyddir ond y tebyg yw mai’r ethanol fydd hi.
Rheswm – cymerodd y swigen yr amser byrraf i godi drwy’r hylif.
- Taflen Lefel 2: gweler y nodiadau i’r athro
Taflen Lefel 1: C
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Mae’r gronynnau’n llithro dros ei gilydd.
Maen nhw’n llifo o’r botel i’r badell ffrio.
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Mae dŵr yn llai gludiog nag ewyn ymolchi am fod llai o rymoedd atyniad rhwng moleciwlau’r dŵr na’r rhai rhwng gronynnau’r ewyn ymolchi. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i foleciwlau’r dŵr lifo na gronynnau’r ewyn ymolchi.
- Taflenni Lefel 1 a Lefel 2
Bydd y gludedd yn lleihau. Wrth i’r gronynnau yn yr hylif ennill mwy o egni cinetig, bydd yn haws goresgyn grymoedd atyniad rhwng y gronynnau.
- Gweler y stribed strwythur.
Downloads
Gludedd: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.19 mbGludedd: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.27 mbGludedd: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.49 mbGludedd: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 0.81 mbGludedd: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.55 mbGludedd: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.68 mbGludedd: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 1.28 mbGludedd: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 2.01 mb
Additional information
Mae’r arbrawf ymarferol hwn yn rhan o’n casgliad o Arbrofion cemeg clasurol. Diweddarwyd yr adnoddau ategol yn 2025 gan Dorothy Warren.




No comments yet