Defnyddio cyd-destun byd go iawn siwgrau mewn bwyd ac yn ein cyrff i gymhwyso dealltwriaeth dysgwyr o fàs cymharol
Mae startsh yn fath o garbohydrad sydd mewn llawer o fwydydd fel pasta, tatws, bara a reis. Pan fyddwn ni’n bwyta bwydydd startsh, mae’r ensymau yn ein cyrff yn torri’r moleciwlau startsh mawr yn foleciwlau llai o’r enw siwgrau syml. Mae’r cwestiynau yn y taflenni gwaith hyn yn archwilio rhai o’r adweithiau ac yn gofyn i’r dysgwyr gymhwyso eu dealltwriaeth o fàs cymharol i’r cyd-destun byd go iawn hwn.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith ar lefel sylfaen a lefel uwch i roi’r hyn a ddysgir am fàs fformiwla cymharol mewn cyd-destun. Mae’r atebion wedi eu cynnwys yn y nodiadau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Mewn cyd-destun
Gwybodaeth am yr adnodd hwn
Mae’r taflenni gwaith Mewn cyd-destun hyn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am fàs cymharol yng nghyd-destun startsh a siwgrau, gan feithrin eu hyder a’u gallu i wynebu cwestiynau arholiad. Mae cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr ac ateb hir yn ymdrin â’r canlynol:
- màs fformiwla cymharol
- hafaliadau cemegol cytbwys
- canran yr elfennau mewn cyfansoddion
- economi atomau
Bydd y dysgwyr yn ymarfer sgiliau mathemategol gydag arweiniad i fagu eu hyder. Mae’r taflenni gwaith ar gael ar lefel sylfaen a lefel uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i wers benodol neu grŵp o ddysgwyr.
Downloads
Màs cymharol Mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (sylfaen)
Handout | PDF, Size 0.38 mbMàs cymharol Mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (uwch)
Handout | PDF, Size 0.35 mbMàs cymharol Mewn cyd-destun: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.22 mbMàs cymharol Mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (sylfaen)
Editable handout | Word, Size 0.67 mbMàs cymharol Mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (uwch)
Editable handout | Word, Size 0.65 mbMàs cymharol Mewn cyd-destun: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.44 mb









No comments yet